Cymru: cyfarfod dirprwyedig Tach 2023

Cymru: cyfarfod dirprwyedig Tach 2023

Cyfarfod Dirprwyedig Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol Cymru ar 7 Tach 2023.

Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Young People's Oral History and Heritage Project

Ymgeisydd: Senghenydd Youth Drop In Centre, CAERFFILI

Crynodeb Prosiect: Bydd y prosiect hwn yn cynnwys pobl ifanc 11-25 oed o ardal ddifreintiedig yn gweithio’n rhwng y cenedlaethau i ymchwilio a darganfod sut y daeth nifer o wahanol ddiwylliannau at ei gilydd yn yr ardal yn ystod diwydiannu i ffurfio’r gymuned gref y maent yn byw ynddi heddiw. Bydd y grŵp yn gwneud ymchwil ac yn cyfweld â phobl o’r gymuned leol ac yn dod i ddeall sut mae cyfuno gwahanol ddiwylliannau a chredoau wedi creu’r gymuned amrywiol y maent yn byw ynddi heddiw.

Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £80,932 (100%)

 

RailRevive

Ymgeisydd: Book of You CIC, SIR DDINBYCH

Crynodeb Prosiect; Yn y prosiect hwn rydym yn bwriadu creu un o'n 'Llyfrau Cymunedol' gydag Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen. Y nod yw arddangos atgofion cymunedol o’r rheilffordd, ynghyd â rhywfaint o’i hanes cyfoethog, ei harddwch golygfaol a’i harwyddocâd diwylliannol.

Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £10,000 (76.92%) 

 

The Forgotten 59

Ymgeisydd: Kidz R Us Limited, BLAENAU

Crynodeb Prosiect: Yn ddiweddar, derbyniodd Glowyr Tredegar arian gan y Gronfa Community Choice, Community Voice i atgyfodi hen gatiau gweithdai’r NCB a’u gosod yng nghanol y dref gyda phlac i goffau’r 59 o lowyr. Syniad ein prosiect yw creu rhaglen ddogfen a drama wreiddiol

Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £33,000 (100%)

 

Cystadleuaeth Cerddorion Ifainc

Ymgeisydd: Cyfeillion Cerddorion Ifainc Gregynog, POWYS

Crynodeb Prosiect: Cystadleuaeth genedlaethol i gerddorion ifainc dan 18 oed yw hon. Mae'n denu cerddorion ifanc o bob rhan o'r DU i Gregynog i gystadlu ar lefel uchel iawn. Mae hefyd yn gyfle i bobl leol ddod i gefnogi a phrofi cerddoriaeth fyw.

Penderfyniad: Gwrthod

 

Green spaces that matter

Ymgeisydd: Conwy Mind, CONWY

Crynodeb Prosiect: Byddwn yn cynnal archwiliad o fannau gwyrdd lleol sydd o fudd i les pobl ac yn creu canllaw sy’n annog eraill i ymweld â nhw, gan hyrwyddo’r harddwch naturiol a’r manteision iechyd a ddaw o ganlyniad iddynt.

Penderfyniad: Gwrthod


Mynediad cyhoeddus ac arddangosiadau ar gyfer sied y Cerbyd Dan Do

Ymgeisydd: Cwmni Rheilffordd Gwili Cyfyngedig, SIR GÂR

Crynodeb Prosiect: Diben y cais hwn i'r Gronfa Treftadaeth yw darparu ariannu i greu llwybr i’r cyhoedd o fewn adeilad y sied i gyrchu'r sied Dan Do ar lefel y ddaear a hefyd i greu rhai arddangosiadau dehongli a fydd yn dangos hanes yr arddangosion ac yn darparu gwybodaeth gefndir.

Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £9,500 (100%)

 

Norwegian Church Heritage Research and Outreach Project

Ymgeisydd: Norwegian Church Cardiff Bay, CAERDYDD

Crynodeb Prosiect:  Galluogodd y prosiect peilot a ariannwyd gan y Gronfa Treftadaeth i ni ddod o hyd i lawer o wybodaeth am yr Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd, y tair eglwys arall yn Ne Cymru, a Chenhadaeth ehangach y Morwyr Norwyaidd. Rydym nawr eisiau gwneud yn siŵr bod cynifer o bobl â phosib hefyd yn clywed y storïau rydynm wedi llwyddo i'w rhoi at ei gilydd. Plant, y cyhoedd a'r byd academaidd fydd y gynulleidfa.

Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £188,287 (100%)

 

Datgelu treftadaeth ddiwydiannol Abertawe a'r cyffiniau!

Ymgeisydd: Congolese Development Project, ABERTAWE

Crynodeb Prosiect; Mae'r prosiect hwn am ymchwilio i orffennol diwydiannol Abertawe a'i chylch, i leoli'r gwahanol weithfeydd mewn amser a gofod gan ddefnyddio mapiau a ffotograffau hanesyddol, a nodi'r olion sy'n weddill heddiw.

Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £64,456 (100%)


Carmarthenshire LGBTQIA+ Heritage: 10 Year Celebration

Ymgeisydd: CETMA Ltd, SIR GÂR

Crynodeb Prosiect: Bydd y Prosiect yn archwilio treftadaeth LHDTCRhA+ Sir Gâr. Bydd yn cywain straeon gan y bobl sy'n rhan o'r Gymuned, a'u teuluoedd.

Penderfyniad: Gwrthod

 

Cynnydd Grant

Treftadaeth Neuadd Farchnad Aberteifi 

Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Aberteifi, CEREDIGION

Disgrifiad o’r prosiect: Er mwyn helpu i ariannu adnewyddu cyfleusterau stondinau marchnad, datblygu dehongli a gweithgareddau treftadaeth sy'n cynnwys mewnbwn cymunedol a phenodi Swyddog Marchnad rhan-amser.

Penderfyniad: Dyfarnu Cynnydd Grant o £75,000 (76%)