Tirweddau
Dewch o hyd i ysbrydoliaeth ar ffyrdd y gallwch ddefnyddio ein cyllid i helpu i ofalu am dirweddau hardd y DU.
Yr hyn a ddisgwyliwn gan brosiectau
Rydym yn disgwyl i brosiectau llwyddiannus ddangos sut y byddant yn mynd i'r afael â'r heriau allweddol sy'n wynebu tirweddau a natur y DU.
Mae'n rhaid i brosiectau tirwedd gyflawni un neu fwy o'r gofynion canlynol:
- cadwraeth ar raddfa tirwedd
- cynyddu dealltwriaeth pobl o werth diwylliannol tirweddau a morluniau
- cynefinoedd mwy, gwell, wedi'u cysylltu'n dda ac yn fwy gwydn ar gyfer natur
- ailgysylltu pobl â natur
Pethau allweddol i'w darllen
Partneriaethau Tirwedd, nawr ac yn y dyfodol
Rhwng 2004 a 2017, cefnogodd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol dros 120 o Bartneriaethau Tirwedd.
Cors Romney
Roedd y prosiectau hyn ar raddfa tirwedd yn canolbwyntio ar dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol ardaloedd daearyddol yn gyffredinol rhwng 20 a 200 cilomedr sgwâr.
Roedd y rhain yn cynnwys:
- Parterniaeth tirwedd Belfast Hills
- Parterniaeth Lefelau Byw Gwent
- Y dirwedd carbon ym Manceinion
- Partneriaeth tirwedd Inner Forth
- Partneriaeth tirwedd Cors Romney
Dysgwch fwy am yr hyn a ddysgwyd gennym yn ein gwerthusiad Partneriaethau Tirwedd.