Cofrestrwch eich prosiect ar gyfer Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol 2024

Cofrestrwch eich prosiect ar gyfer Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol 2024

A National Lottery scratchcard held in front of a large building with classical architecture and lawn
Mae’n ffordd wych o gydnabod eich grant gan y Gronfa Treftadaeth, cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac elwa o ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus ar draws y DU!

Mae’n ffordd wych o gydnabod eich grant gan y Gronfa Treftadaeth, cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac elwa o ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus ceErs gêm gyntaf y Loteri Genedlaethol ym 1994, mae dros £47 biliwn wedi'i godi ar gyfer achosion da ym meysydd treftadaeth, y celfyddydau, chwaraeon, ffilm a chymuned. Dyna dros £30miliwn a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol bob wythnos. Mae Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol yn diolch i'r chwaraewyr am eu cefnogaeth wrth wneud eich prosiect yn bosib.

Menyw yng Ngerddi Kew yn dal cerdyn crafu

Beth yw Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol?

Cynhelir Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol rhwng dydd Sadwrn 9 a dydd Sul 17 Mawrth 2024. Gall unrhyw un sy'n ymweld â lleoliad neu brosiect a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol sydd â thocyn Loteri Genedlaethol, Gêm Instant Win neu gerdyn crafu (ffisegol neu ddigidol) fanteisio ar gynnig 'diolch' arbennig. 

Sut fath o beth yw'r cynnig arbennig?

O fynediad am ddim a theithiau y tu ôl i'r llenni i rodd i ddweud diolch neu baned o de, mae yna gynifer o ffyrdd o ddweud #DiolchiChi yn ystod Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol. 

Yn flaenorol, mae cynigion poblogaidd wedi cynnwys:

  • mynediad am ddim i Ganolfan Ddarganfod Jodrell Bank yn Swydd Gaer, lle gwelwyd cynnydd o 500 o ymwelwyr o gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • mynediad am ddim i gannoedd o leoliadau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 
  • mynediad 2-am-1 yng Nghastell a Gerddi Hillsborough yn County Down, Gogledd Iwerddon
  • gweithdai syrcas am ddim yn The Circus House, Manceinion
  • teithiau am ddim o gwmpas cloestrau Cadeirlan Henffordd
  • taith dywysedig am ddim yng Ngwarchodfa Natur Dove Stone yr RSPB 
  • abseilio am ddim oddi ar y draphont yng Nghronfa Ddŵr King’s Mill yn Swydd Nottingham, un o’r hynaf yn Lloegr 

Edrychwch ar enghreifftiau o flynyddoedd blaenorol i gael mwy o ysbrydoliaeth.

Pam y dylech gymryd rhan?

Traphont yng Nghronfa Ddŵr King's Mill, gyda phobl yn abseilio
Abseilio am ddim oddi ar y draphont yng Nghronfa Ddŵr King’s Mill

Gallwch ddweud 'diolch' wrth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am yr ariannu y mae eich sefydliad wedi'i dderbyn a chydnabod eich grant. Eich cyfle chi ydyw i ddangos pa wahaniaeth mae'r cymorth hwnnw wedi'i wneud mewn ffordd glir ac uniongyrchol.

Mae hefyd yn gyfle gwych i dynnu sylw at y gwaith rydych chi'n ei wneud. Bydd llawer o amlygrwydd cyhoeddus yn cael ei roi i'r wythnos, gan gynnwys ymgyrch gyffrous yn y cyfryngau, hysbysebion a gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn olaf, mae’n gyfle gwych i groesawu cynulleidfaoedd newydd. Dywedodd tua 70% o'r ymwelwyr a gymerodd ran yn arolwg 2021 Y Loteri Genedlaethol nad oeddent erioed wedi ymweld â'r lleoliad o'r blaen, neu o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf. Dyna llawer o ymwelwyr newydd!

Yn 2023, dywedodd 100 y cant o brosiectau a gwblhaodd arolwg cyfranogwyr y Loteri Genedlaethol y byddent yn cymryd rhan eto.

Cymerwch ran

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...