Cynllun cyflwyno Treftadaeth 2033: 2026–2029
Gosod y cyd-destun
Y mewnwelediad sy'n siapio ein camau nesaf
Gan alw ar nifer o ffynonellau mewnwelediad a thystiolaeth, rydym wedi myfyrio ar sut rydym yn symud tuag at yr uchelgeisiau a nodir yn Treftadaeth 2033 ar ôl ein tair blynedd gyntaf.
Tystiolaeth o'n heffaith
Mae llawer o'n grantiau'n anelu at gyflawni trawsnewid hirdymor, felly gall gymryd amser i fesur effaith lawn ein buddsoddiad. Ond mae'r arwyddion cynnar yn gadarnhaol. Mae ein hadroddiad effaith cyntaf dyn dangos bod y prosiectau rydym wedi'u cefnogi ar draws tair blynedd gyntaf Treftadaeth 2033 eisoes yn creu buddion ar gyfer pobl, lleoedd a'r amgylchedd. Er enghraifft, gwneud safleoedd treftadaeth yn fwy hygyrch, cysylltu cymunedau â'u tirweddau a'u hanes a chreu cyfleoedd ar gyfer swyddi, rolau gwirfoddoli a hyfforddiant a sgiliau.
Trwy gydol y cynllun cyflwyno tair blynedd hwn, byddwn yn casglu hyd yn oed mwy o ddata i ddangos ein heffaith ar y swyddi, y prentisiaethau a'r cyfleoedd gwirfoddoli y mae ein prosiectau'n eu creu ac am sut y maent yn ennyn diddordeb pobl ifanc, yn cefnogi cymunedau ac yn trawsnewid lleoedd yn y tymor hir.
Adborth gan randdeiliaid
Mae mewnwelediadau ein rhanddeiliaid a'n partneriaid, gan gynnwys ymgeiswyr a derbynyddion grantiau, hefyd yn ein helpu i ddysgu ac addasu darpariaeth Treftadaeth 2033 wrth i'r dirwedd allanol barhau i newid.
Clywsom gan ein rhanddeiliaid fod Treftadaeth 2033 yn cynnig gweledigaeth gref ac uchelgeisiol ac roeddent yn croesawu eglurder a symlrwydd ein dull buddsoddi. Rydych hefyd wedi dweud wrthym ble rydych am i ni fynd ymhellach i fynd i'r afael â'r heriau y mae treftadaeth yn eu hwynebu, gan gynnwys cryfhau cydnerthedd sefydliadol, cefnogi'r gwaith o addasu i newid hinsawdd a buddsoddi mewn lleoedd er mwyn darparu canlyniadau cadarnhaol i bobl, cymunedau a'r amgylchedd naturiol. Rydym wedi ymrwymo i weithio ar y cyd i adeiladu'r partneriaethau sy'n helpu i gael effaith barhaol ar dreftadaeth.
Mewn sgyrsiau gydag ymgeiswyr, grantïon a rhanddeiliaid eraill y llynedd, clywsom:
- “Mae gan y Gronfa Treftadaeth ddawn ryfeddol i gyflawni newidiadau strategol, graddadwy na all arianwyr eraill ei wneud.”
- “[Mae’r] dull sy’n seiliedig ar leoedd i'w weld yn gweithio… [mae’r Gronfa Treftadaeth yn] ymwneud yn weithredol â thrafodaethau strategaeth twf a chynnwys treftadaeth a byd natur.”
- “Mae rôl y Gronfa Treftadaeth fel cynullydd wedi bod yn wirioneddol bwysig.”
- “Dylai’r Gronfa Treftadaeth fod yn rhan o sgyrsiau oherwydd y persbectif bron yn unigryw sydd ganddynt ar y sector.”
Byd sy'n newid – cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol
Dyluniwyd Treftadaeth 2033 i fod yn uchelgeisiol ac yn hyblyg. Ers i ni lansio'r strategaeth yn 2023, rydym wedi gweld newid parhaus ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol sy'n effeithio ar y bobl, y cymunedau a'r lleoedd rydym yn eu cefnogi.
Wrth lunio'r cynllun cyflwyno hwn, fe wnaethom ystyried:
- Pwysau ariannol parhaus ond annarogan, wedi'i symbylu gan amrywiaeth o achosion, o ansefydlogrwydd rhyngwladol i seilwaith sy'n heneiddio, gan arwain at chwyddiant costau a mwy o gystadleuaeth am ariannu.
- Effaith newid hinsawdd ar yr amgylchedd adeiledig a naturiol, a all arwain at ddifrod a/neu newid sylweddol i adeiladau hanesyddol a thirweddau, cynefinoedd a rhywogaethau gwarchodedig.
- Cyflymder newid digidol, gan gynnwys sut mae dysgu peirianyddol a'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial (AI) yn newid y ffordd yr ydym yn rhyngweithio â'n gilydd, sut mae arianwyr yn gweithio gyda grantïon a sut mae ein grantïon yn gweithio gyda'u hasedau treftadaeth a'u cynulleidfaoedd.
- Symud tuag at fwy o fuddsoddi sy'n seiliedig ar le a phenderfyniadau a arweinir gan gymunedau yn ogystal ag ailddefnyddio asedau ar gyfer cymunedau, wedi'i seilio ar dystiolaeth a phrofiad lleol sy'n dangos yr effaith ar newid hirdymor. Mae datblygiadau polisi cenedlaethol, fel rhaglen Balchder Bro Llywodraeth y DU a datganoli lleol, yn atgyfnerthu'r cyfeiriad hwn.
- Ffocws cynyddol ar lesiant pobl ifanc fel y gallant elwa nawr o ymwneud â threftadaeth a chael mynediad cyfartal i ddatblygu sgiliau er mwyn dod yn warcheidwaid treftadaeth yn y dyfodol. Rydym eisoes wedi adlewyrchu hyn yn ein canllaw arfer da plant a phobl ifanc newydd, sy'n gweddu i Strategaeth Ieuenctid Llywodraeth y DU, Youth Matters.
Cyfrannu at amcanion strategol Llywodraeth y DU
Byddwn yn defnyddio ein sefyllfa unigryw fel ariannwr mwyaf treftadaeth y DU i gefnogi gweledigaeth y Llywodraeth i'r DU fod yn fwy hyderus, lle mae pob cymuned ym mhob man yn teimlo ac yn gweld bod eu bywydau'n gyfoethocach a bod eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi o fewn stori genedlaethol gynhwysol.
I wneud hyn byddwn yn buddsoddi drwy Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn prosiectau sy'n cyfrannu at flaenoriaethau'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon:
- Twf a swyddi da ym mhob lle yr ydym yn buddsoddi ynddo – drwy adfywio strydoedd mawr a chanol trefi, helpu’r sector i lenwi bylchau sgiliau a chefnogi pobl o bob cefndir i ddatblygu gyrfaoedd gwerth chweil yn y byd treftadaeth.
- Bywydau cyfoethocach gyda dewisiadau a chyfleoedd i bawb – drwy helpu pobl i siapio hunaniaethau a rennir ar draws cymunedau ac adeiladu balchder bro.
- Gwlad sy'n fwy cydlynol yn gymdeithasol gyda stori genedlaethol gynhwysol – drwy werthfawrogi, gofalu am a chynnal y dreftadaeth sy'n bwysig i bobl mewn cymunedau ym mhob rhan o'r DU.