Canllaw arfer da - plant a phobl ifanc mewn treftadaeth
Drwy ddarllen yr arweiniad hwn byddwch yn dysgu am 10 egwyddor i'ch helpu i ennyn diddordeb plant a phobl ifanc ym maes treftadaeth mewn ffordd ystyrlon. Mae hefyd yn amlinellu pwy yw plant a phobl ifanc, pam y dylen nhw fod yn rhan o'ch prosiect a'r mathau o weithgareddau y gallen nhw fod â diddordeb ynddynt.
Mae'r arweiniad yn cynnwys astudiaethau achos o arfer gorau a dolenni i adnoddau pellach.
Pam y dylech chi ennyn diddordeb plant a phobl ifanc mewn treftadaeth
Mae gan blant a phobl ifanc hawl i ymgysylltu â threftadaeth a chodi eu lleisiau a'u barn am y pethau sy'n effeithio arnyn nhw – gan gynnwys treftadaeth. Dyma'r hawliau dynol sylfaenol sydd wedi'u cynnwys yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, o dan Erthygl 31 (hamdden, chwarae a diwylliant) ac Erthygl 12 (parch at farn y plentyn).
Mae treftadaeth yn galluogi plant a phobl ifanc i ddeall y byd o'u cwmpas, cysylltu â'u cyfoedion a'u cymunedau a chael mynediad at ddysgu mewn gwahanol amgylcheddau. Mae'n eu helpu i ddatblygu sgiliau, ysbrydoli diddordebau gydol oes, cynyddu llesiant ac ymdeimlad o berthyn a chymryd camau ar y pethau sy'n bwysig iddyn nhw.
Mae pob plentyn a pherson ifanc yn wahanol a gallant ddod â syniadau a safbwyntiau newydd i dreftadaeth, helpu i dyfu ac amrywio cynulleidfaoedd ac ysbrydoli partneriaethau a chymorth ehangach. Mae ennyn eu diddordeb yn allweddol i ddiogelu sefydliadau treftadaeth at y dyfodol a sicrhau bod treftadaeth yn cael ei gwerthfawrogi gan genedlaethau i ddod.
Pwy yw plant a phobl ifanc
Mae plant a phobl ifanc yn cwmpasu ystod oedran eang – 0–25 oed – a fydd yn ymgysylltu â threftadaeth mewn gwahanol ffyrdd gan ddibynnu ar eu cyfnod bywyd:
- bydd babanod a'r blynyddoedd cynnar yn rhyngweithio'n bennaf â threftadaeth ochr yn ochr â rhieni a gofalwyr
- gallai plant oedran ysgol gymryd rhan drwy eu hysgolion a theuluoedd ehangach
- gallai pobl ifanc ymgysylltu â threftadaeth drwy ysgolion, colegau a sefydliadau sy'n canolbwyntio ar ieuenctid
- gallai oedolion ifanc gymryd rhan drwy gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant yn ogystal ag yn eu hamser hamdden eu hunain
Mae plant yn ymgysylltu â'r byd o'u cwmpas trwy chwarae. Mae gweithgarwch agored, a arweinir gan blant, yn ganolog i sut mae plant yn gwneud ffrindiau ac yn dysgu, yn datblygu sgiliau, creadigrwydd, ymwybyddiaeth ddiwylliannol a gwydnwch. Mae pobl ifanc yn cael eu cymell gan ddatblygu sgiliau, iechyd a pherthnasoedd cymdeithasol, yn ogystal â hwyl. Mae mwynhad yn allweddol ar unrhyw oedran.
Bydd gan blant a phobl ifanc wahanol ddiddordebau ac anghenion hefyd yn seiliedig ar eu lleoliad, eu cefndir ehangach a'u profiadau. Mae'n bwysig peidio â gwneud rhagdybiaethau amdanynt. Byddant yn dod ag ystod eang o hunaniaethau a safbwyntiau, y tu hwnt i'w hoedran.
Bydd rhai'n wynebu mwy o rwystrau i ymgysylltu â threftadaeth, gan gynnwys er enghraifft, plant anabl a niwroamrywiol a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.
Sut i ennyn diddordeb plant a phobl ifanc mewn treftadaeth
Gallai plant a phobl ifanc fod yn ffocws eich prosiect, neu'n rhan o grŵp ehangach o gynulleidfaoedd neu gyfranogwyr ar gyfer unrhyw brosiect.
Gallai plant a phobl ifanc hefyd fod yn rhan o siapio datblygiad cyfalaf, creu lleoedd a phrosiectau eraill sy'n dylanwadu ar eu hamgylchedd.
Dylai'r cyfleoedd rydych chi'n eu creu gyda a thros blant a phobl ifanc ac i ymgysylltu â threftadaeth ymateb i'w hanghenion a'u diddordebau. Dylai'r gweithgareddau hyn hefyd gyfrannu at yr effaith rydych chi wedi bwriadu ei chyflawni gyda'ch prosiect. Er enghraifft, gallai gweithgareddau gynnwys:
- gweithdai ymarferol neu sesiynau creadigol, er enghraifft, grwpiau babanod, plant bach neu flynyddoedd cynnar, gweithgareddau awyr agored, gweithdai creadigol neu ymweliadau addysg gartref
- mannau neu adnoddau chwarae
- cyd-greu labeli, arddangosfeydd, cynnwys digidol neu deithiau neu ddatblygu digwyddiadau ar gyfer eu cyfoedion
- gwirfoddoli, gweithredu cymdeithasol neu actifiaeth
- profiad gwaith, prentisiaethau neu hyfforddeiaethau â thâl
- gwneud penderfyniadau fel rhan o gynllun grantiau cymunedol neu gymryd rhan mewn llywodraethu
Ystyriwch unrhyw ffyrdd eraill sy'n ysbrydoli plant a phobl ifanc hefyd.
Gallwch wneud cais am ein hariannu i ennyn diddordeb plant a phobl ifanc drwy'r ysgol, os yw o leiaf un o'r canlynol yn berthnasol:
- mae'r gweithgaredd yn ychwanegol at y cwricwlwm craidd
- mae'n digwydd y tu allan i oriau ysgol
- mae'n digwydd mewn safle treftadaeth neu leoliad perthnasol arall nad yw'n ysgol
Egwyddorion ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc
Dylid ystyried y 10 egwyddor hyn ar gyfer ennyn diddordeb plant a phobl ifanc mewn treftadaeth o ddatblygiad cychwynnol eich prosiect, yr holl ffordd hyd at y gwerthusiad terfynol.
Maent yn galw ar ddysgu o'n hymchwil a'n gwerthuso, gan gynnwys y rhaglen Kick the Dust. Rydym hefyd wedi cael mewnbwn gan arweinwyr yn y sectorau treftadaeth a chan blant a phobl ifanc. Lluniwyd yr egwyddorion hyn fel man cychwyn i chi ddatblygu a chyflwyno'r profiad gorau posibl i blant a phobl ifanc a sefydliadau treftadaeth.
Noder y gellir talu am bopeth a nodir isod fel rhan o'ch prosiect treftadaeth ac mae'n berthnasol i unrhyw brosiect a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, nid dim ond y rhai sy'n targedu pobl ifanc yn benodol.
Gwrando ar blant a phobl ifanc a gweithredwch ar sail yr hyn maen nhw'n ei ddweud
Dyma'r sail ar gyfer prosiect cryf a pherthnasol. Yn gyntaf, rhaid i chi greu'r amodau i blant a phobl ifanc deimlo'n hyderus i rannu eu diddordebau a'u syniadau drwy feithrin perthynas ymddiriedus. Arsylwi, gwrando ac ymgynghori â phlant a phobl ifanc, mewn amgylchedd cefnogol, yw'r man cychwyn ar gyfer deall sut y gallant ymgysylltu â threftadaeth mewn ffordd go iawn.
Cynnwys y sefydliad cyfan
Daw ymgysylltu plant a phobl ifanc â threftadaeth o bob rhan o'r sefydliad cyfan, waeth beth fo'u maint. Gwnewch yn siŵr bod pawb o'r cadeirydd a'r ymddiriedolwyr i'r staff rheng flaen a'r gwirfoddolwyr i gyd yn deall pam eich bod chi eisiau gweithio gyda phlant a phobl ifanc neu dreftadaeth a deall sut y gallant gefnogi'r gwaith yn eu rolau.
Creu partneriaethau cryfion
Mae partneriaethau rhwng sefydliadau treftadaeth a sefydliadau plant, ieuenctid, dysgu a chwarae yn allweddol i rannu gwybodaeth ac arbenigedd a sicrhau prosiect o ansawdd uchel.
Bydd cydweithio ag eraill hefyd yn eich galluogi i ennyn diddordeb grŵp mwy amrywiol o blant a phobl ifanc. Gallai fod o gymorth hefyd i ystyried rhieni, gofalwyr ac oedolion dibynadwy eraill fel partneriaid wrth greu'r profiad gorau posibl i blant a phobl ifanc. Gallant fod yn bwysig o ran a fydd plentyn neu berson ifanc yn ymgysylltu a sut.
Darparu hyfforddiant
Aseswch pa hyfforddiant neu gefnogaeth sydd ei angen er mwyn i staff a gwirfoddolwyr deimlo'n hyderus yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc neu dreftadaeth. Gellid cyflwyno hyn drwy hyfforddiant, gweithio gyda sefydliadau partner neu gyflogi staff sydd â'r sgiliau penodol, fel chwarae neu ennyn diddordeb mewn treftadaeth.
Hefyd, mae'n bwysig gofyn i'r plant a'r bobl ifanc pa hyfforddiant neu fentora sydd ei angen arnynt i'w galluogi i gymryd rhan mewn treftadaeth ac ymgymryd â gwahanol rolau wrth arwain a chyflwyno agweddau ar y prosiect.
Bod yn gynhwysol
Ystyriwch sut i ennyn diddordeb plant a phobl ifanc nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan mewn gweithgareddau treftadaeth. Nodwch ac ewch i'r afael â rhwystrau a allai atal cyfranogiad a helpu ennyn diddordeb ystod ehangach o blant a phobl ifanc. Er enghraifft, gofynnwch:
- Ydy'r gofod ffisegol yn hygyrch?
- Oes cyfathrebu a chynnwys clir, sy'n briodol i'r oedran, gyda fformatau amgen?
- Oes cyfleoedd ymgysylltu synhwyraidd, er enghraifft, i gyffwrdd, clywed neu arogli?
- Ydy bwyd, cludiant, tocynnau ac ati am ddim neu'n fforddiadwy, ac a allwch chi roi cydnabyddiaeth ariannol i oedolion ifanc?
- Ydy eich staff yn hyderus wrth groesawu plant a phobl ifanc ar amserau ac mewn lleoedd sy'n addas iddyn nhw?
- A yw pobl ifanc, a'u rhieni/gofalwyr, yn gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli a'u hadlewyrchu yn eich sefydliad a'i werthoedd?
Bod yn sefydliad sy'n dysgu
Ymchwiliwch i brosiectau tebyg ac ymgorfforwch y dysgu wrth ddatblygu eich prosiect. Gwerthuswch a myfyriwch yn barhaus ar eich prosiect a gweithredwch ar sail y canfyddiadau.
Arsylwch, myfyriwch a rhannwch ddysgu drwy gydol cyfnod cyflwyno'ch prosiect gyda phawb yn eich sefydliad, partneriaid eich prosiect ac yn ehangach gyda'r sectorau treftadaeth, plant a phobl ifanc.
Bod yn hyblyg ac yn ymatebol
Mae hyn yn rhan o fod yn sefydliad sy'n dysgu. Parhewch i arsylwi, gwrando ac ymgynghori â phlant a phobl ifanc wrth i chi gyflwyno'r prosiect a gwnewch newidiadau i'ch prosiect mewn ymateb i sut mae'n cael ei dderbyn a'i gyflwyno.
Siaradwch â staff Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am eich prosiect wrth iddo ddatblygu a gallwn weithio gyda chi i ymateb yn hyblyg i'ch canfyddiadau.
Rhoi polisïau a gweithdrefnau ar waith
Gwnewch yn siŵr bod gennych y polisïau a'r gweithdrefnau priodol ar waith. Rhaid bod gennych bolisi a gweithdrefn diogelu a chod ymddygiad hawdd eu defnyddio, sy'n cael eu hadolygu'n rheolaidd, y gall pawb yn y sefydliad eu cyrchu a'u deall. Gallwch ddarllen arweiniad gan NSPCC ac enghraifft o bolisi diogelu.
Efallai y bydd angen i chi gael polisi diogelwch ar-lein hefyd.
Ystyriwch gael dogfennau polisi sydd wedi'u targedu at blant a phobl ifanc fel y gallant ddeall ble maen nhw'n ffitio yn y sefydliad.
Creu llwybrau i blant a phobl ifanc
Crëwch lwybrau i blant a phobl ifanc ymgysylltu â threftadaeth mewn ffordd hyblyg a blaengar. Dechreuwch gyda phwyntiau mynediad hwylus, fel sesiynau allgymorth lle mae plant a phobl ifanc eisoes yn teimlo'n gyfforddus neu weithdai cyflwyniadol, sy'n caniatáu iddynt archwilio treftadaeth heb bwysau na ymrwymiad hirdymor.
O'r fan honno, gall cyfranogwyr ddewis dyfnhau eu cyfranogiad, er enghraifft drwy ymuno â chlwb, cyfleoedd cyd-gynhyrchu, profiad gwaith, rolau arweinyddiaeth neu lwybrau dysgu strwythuredig fel cyrsiau byr a hyfforddeiaethau. Yn ddelfrydol, ystyriwch drawsnewidiadau y tu hwnt i'r prosiect hefyd, fel cyflogaeth, addysg bellach, rolau llywodraethu i bobl ifanc neu gyfeirio at gyfleoedd eraill sy'n gysylltiedig â threftadaeth.
Cynnwys lleisiau plant a phobl ifanc mewn gwneud penderfyniadau ac arweinyddiaeth
Dylai plant a phobl ifanc gael dweud eu dweud ar y materion sy'n effeithio ar eu bywydau, ac mae hyn yn cynnwys treftadaeth. Meddyliwch am sut y gallant gymryd rhan flaenllaw yn y prosiect neu gyfrannu at benderfyniadau ehangach am dreftadaeth yn eu hardal leol.
Er mwyn bod yn berthnasol yn y dyfodol, mae angen i sefydliadau treftadaeth ystyried hefyd sut y gallant greu cyfleoedd croesawgar i drawstoriad amrywiol o blant a phobl ifanc gyfrannu at eu harweinyddiaeth. Er enghraifft, gallent ymuno â gweithgor neu bwyllgor, cymryd rhan mewn panel plant, dod yn aelodau staff cyflogedig neu gymryd rhan fel gwerthuswyr neu ymchwilwyr ifanc.
Get inspired through our projects
Rydym yn ariannu amrywiaeth o brosiectau sy'n ennyn diddordeb plant a phobl ifanc. O ymchwil a arweinir gan bobl ifanc i arfer creadigol a datblygu sgiliau, mae'r enghreifftiau hyn yn dangos sut mae pobl ifanc yn siapio prosiectau, yn rhannu eu lleisiau ac yn cysylltu â threftadaeth mewn ffyrdd sy'n bwysig iddyn nhw. Archwiliwch y prosiectau isod:
- On Our Wavelength: archwiliodd y prosiect hwn a arweinir gan bobl ifanc effeithiau amgylcheddol ar gymunedau arfordirol a rhannodd y canfyddiadau drwy adrodd storïau traddodiadol, a gyflwynwyd drwy bartneriaeth rhwng Youth Link Scotland a Traditional Arts and Culture Scotland.
- My School, My Planet: Gweithiodd Learning through Landscapes gyda 16 o ysgolion yn Walsall i helpu plant i ddysgu am eu hamgylchedd naturiol a'i wella, lliniaru effeithiau'r argyfwng hinsawdd a chynyddu llesiant.
- Children’s Capital of Culture – You’re not from New York City, you’re from Rov’Rum: Cofnododd 18 o gynhyrchwyr treftadaeth ifanc y lleisiau, yr atgofion a'r momentau sy'n diffinio gwahanol gymunedau Rotherham, gan nodi cyfnod y fwrdeistref fel Prifddinas Diwylliant Plant gyntaf y byd.
- Reimagine Remake Replay: yn gweithio gyda Nerve Centre ac Amgueddfeydd Cenedlaethol Gogledd Iwerddon, cysylltodd pobl ifanc â threftadaeth trwy gyfryngau creadigol a thechnolegau digidol.
- Heritage Skills: Mae Ymddiriedolaeth Treftadaeth Sussex, mewn partneriaeth â Weald & Downland Living Museum, Grŵp Colegau Chichester, Awdurdod Parc Cenedlaethol South Downs a rhwydwaith o gyflogwyr lleol, yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf mewn sgiliau crefftau adeiladu traddodiadol.
- Stories and Treasures of Street and Dale: fel rhan o waith ailddatblygu cyfalaf, creodd Amgueddfa Craven brofiad hygyrch a chyfeillgar i deuluoedd, gan gynnwys croeso cynnes, hyfforddiant staff mewn ymwybyddiaeth o awtistiaeth a gweithgareddau rhyngweithiol i bob oed.
- Prosiect Hanes Llafar a Threftadaeth Pobl Ifanc Canolfan Galw Heibio Ieuenctid Senghenydd: Ymchwiliodd pobl ifanc i'w treftadaeth leol a chyfwelodd ag aelodau'r gymuned, gan ddarganfod sut y creodd diwydiannu y gymuned amrywiol y maent yn byw ynddi, a rhannwyd hanesion llafar ar Gasgliad y Werin Cymru.
Mwy o wybodaeth ac adnoddau
Mae llawer o arweiniad, pecynnau cymorth ac astudiaethau achos ar gael i'ch helpu i ddatblygu a chyflwyno eich prosiect ymhellach. Er enghraifft, mae'r sefydliadau a'r partneriaethau canlynol yn cynnig ystod eang o adnoddau:
- Amgueddfa Cymru: mae'r amgueddfa'n cydweithio â phobl ifanc sy'n byw yng Nghymru neu o Gymru drwy gyfleoedd â thâl
- Plant yng Nghymru: adnoddau ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar gyfranogiad
- Cyngor Archaeoleg Prydain: yn rhoi cyngor ar greu byrddau cynghori ieuenctid
- GEM: mae'r adnoddau'n cynnwys canllaw i helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau ar gyfer cyflogaeth ac amrywiaeth eang o astudiaethau achos
- Kids in Museums: mae ganddynt faniffesto sy'n nodi beth sy'n gwneud ymweliad treftadaeth gwych, a hefyd arweiniad ar groesawu babanod, chwarae, paneli ieuenctid a sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer cyflogaeth
- Learning through Landscapes: yn darparu ystod o astudiaethau achos ac adroddiadau.
- Amgueddfa Llundain: yn darparu pecyn cymorth blynyddoedd cynnar
- Natural Leaders Project: creodd partneriaeth gan gynnwys YouthLink Scotland ac RSPB Scotland adnodd i ymarferwyr ar ymagwedd gwaith ieuenctid at fyd natur
- Participation People: yn cynnwys gwybodaeth am leisiau a chyfranogiad pobl ifanc
- Practical Evaluation: adnoddau gwerthuso cyfranogiad plant a phobl ifanc
- SEND in Museums: mae'r adnoddau'n cynnwys dulliau gwerthuso hygyrch ar gyfer gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd ac enghreifftiau o lwybrau hygyrch
- The Young Trustees Movement: adnoddau i gynyddu cynrychiolaeth ymddiriedolwyr 30 oed ac iau ar fyrddau elusennau
Mae asiantaethau ieuenctid a chyrff chwarae ledled y DU hefyd yn darparu adroddiadau ymchwil a thystiolaeth o ran anghenion ac effaith plant a phobl ifanc.
Rydym hefyd yn eich annog i edrych ar ein gwefan, sy'n cynnwys llawer o astudiaethau achos, blogiau a chyngor ar faterion o recriwtio cynhwysol i dechnegau ar gyfer cefnogi llesiant pobl ifanc yn ystod prosiectau treftadaeth.