Cynllun cyflwyno Treftadaeth 2033: 2026–2029
Ein cynllun ar gyfer 2026–2029
Mae ein mewnwelediad, tystiolaeth a'ch adborth chi wedi cadarnhau ein bod ni ar y trywydd iawn i gyflawni nodau uchelgeisiol Treftadaeth 2033. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i'r pedair blaenoriaeth a fydd yn ein helpu i barhau i gyflawni hyn trwy gydol 2026–2029:
- Arian grant: cryfhau cydnerthedd a pherthnasedd drwy fuddsoddi.
- Mentrau strategol: ysgogi effaith ar raddfa fawr drwy ymyriadau wedi'u targedu.
- Cydweithio, partneriaethau ac ymgysylltu: mwyhau effaith drwy weithio gydag eraill.
- Effaith a gwella: cyflwyno gyda mewnwelediad ac arloesedd.
Yr hyn y byddwn yn ei fuddsoddi
Rhagwelir mai £1.46 biliwn* fydd cyfanswm buddsoddiad y Loteri Genedlaethol ar draws tair blynedd y cynllun cyflwyno hwn. Byddwn hefyd yn dosbarthu arian nad yw'n dod o'r Loteri, gan gynnwys gan lywodraethau'r DU, i gefnogi treftadaeth ar draws pob un o'r pedair gwlad.
Mae ein cynlluniau ar gyfer buddsoddi'r arian hwnnw dros y tair blynedd nesaf wedi'u nodi isod. Mae cyllidebau’n ddangosol ar gyfer blwyddyn dau a thri, yn seiliedig ar ragolygon incwm y Loteri Genedlaethol a ddarperir gan weithredwr y Loteri Genedlaethol, Allwyn. Mae rhagolygon yn amodol ar newid ac mae cynlluniau'n cael eu hadolygu'n flynyddol drwy gydol y tair blynedd a'u diweddaru fel y bo angen i fodloni blaenoriaethau strategol.
Rhagamcaniad o gyfanswm y buddsoddiad gan y Loteri Genedlaethol
| Ein buddsoddiadau | Blwyddyn 1 2026–2027 | Blwyddyn 2 2027–2028 | Blwyddyn 3 2028–2029 | Cyfanswm 2026–2029 |
|---|---|---|---|---|
| Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol | £385.5m | £358.9m | £359.2m | £1.1bn |
| Mentrau strategol | £45m | £45m | £41.9m | £131.9m |
| Cyllideb hyblyg* | - | - | - | £233m |
| Cyfanswm cyllideb gan y Loteri Genedlaethol | £430.5m | £403.9m | £401.1m | £1.46bn |
*Mae'r gyllideb hyblyg hon yn caniatáu i ni ymateb i anghenion a blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg dros y tair blynedd.
Arian grant – cryfhau cydnerthedd a pherthnasedd trwy fuddsoddi
Byddwn yn cefnogi treftadaeth i fod yn fwy cydnerth a pherthnasol i gymunedau ar draws y DU drwy barhau i fuddsoddi mewn prosiectau sy'n cyflwyno pob un o'n pedair egwyddor fuddsoddi a'r uchelgeisiau a nodir yn Treftadaeth 2033.
Mae penawdau o'r tair blynedd gyntaf yn cynnwys y canlynol:
- dyfarnwyd £885m i 1,750 o brosiectau
- cefnogwyd 4,125 o geisiadau grant trwy'r broses o bontio i gyflwyno Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol o dan bedair egwyddor fuddsoddi Treftadaeth 2033 a throthwyon grant newydd
- symleiddiwyd ein prosesau ymgeisio, asesu ac ôl-ddyfarnu
Yn y tair blynedd nesaf byddwn yn:
- denu piblinell gref o brosiectau o bob maint rhwng £10,000 a £10m drwy ein gwaith marchnata ac ymgysylltu, gan fonitro cyfraddau llwyddiant a darparu mynediad teg at ariannu ar draws y DU
- defnyddio ein harian grant i ategu blaenoriaethau DCMS a mentrau a ariennir ar gyfer treftadaeth fel y Gronfa Adfywio Addoldai a'r Gronfa Adfywio Treftadaeth, gan gefnogi buddsoddi strategol mewn lleoedd, asedau a chymunedau
- cefnogi prosiectau trawsdoriadol, strategol sydd â'r potensial i fod yn drawsnewidiol i'r sector, yn ogystal â phrosiectau sydd wedi'u gwreiddio mewn lleoedd neu fathau penodol o dreftadaeth
- parhau i wella ein prosesau ymgeisio, asesu ac ôl-ddyfarnu
Yn 2026–2029 byddwn yn
Cyfrannu at stori genedlaethol gynhwysol
Blwyddyn 1-3:
- Gweithio gyda theulu’r Loteri Genedlaethol i rannu storïau am y bobl a’r lleoedd ar draws y DU sydd wedi elwa o’n hariannu.
- Dathlu sut mae'r arian a godir ar gyfer achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn helpu diogelu treftadaeth, cryfhau cymunedau a rhoi hwb i greadigrwydd ar draws y DU.
- Cymryd rhan yn weithredol mewn momentau o ddathlu a diolchgarwch DU gyfan, fel Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol, Diwrnod Trysorau Treftadaeth a'r Diwrnod Hunlun Bysedd Croes.
Gwella'r profiad grant
Blwyddyn 1:
- Cyflwyno proses grantiau o'r dechrau i'r diwedd sy'n syml ac yn llyfn.
- Lansio arweiniad newydd i ymgeiswyr sy'n adlewyrchu'n llawn yr egwyddorion buddsoddi a thaith y grant.
- Cyhoeddi arweiniad arfer da newydd am ddigidol a gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
- Datblygu ein dull ar gyfer ceisiadau strategol sy'n mynd i'r afael ag egwyddorion buddsoddi y tu hwnt i ddaearyddiaethau, sefydliadau neu asedau treftadaeth unigol.
Blwyddyn 2 a 3:
- Gwella ac ymwreiddio'r profiad grant yn barhaus trwy brofi gydag ymgeiswyr a dysgu o arfer gorau.
- Adnewyddu'r arweiniad i ymgeiswyr a'i gadw'n gyfredol trwy adolygu a dysgu'n rheolaidd.
Ysgogi cydnerthedd sefydliadol hirdymor
Blwyddyn 1:
- Cynnal ymchwil ar effaith ein hariannu cyfalaf dros y 5-20 mlynedd diwethaf a sut mae wedi cryfhau cynaladwyedd sefydliadau treftadaeth.
- Archwilio'r potensial am adnodd ar-lein i helpu sefydliadau i ddeall eu cydnerthedd.
Blwyddyn 2 a 3:
- Cymhwyso dysgu o'n hymchwil ariannu cyfalaf.
- Posibilrwydd o beilota adnodd ar-lein ac, yn amodol ar ganlyniadau cadarnhaol, ei gyflwyno i bob ymgeisydd a derbynnydd grant.
Rheoli risgiau ein portffolio buddsoddi
Blwyddyn 1:
- Cywain data am yr hyn sy'n symbylu risgiau ariannol a chyflwyno yn ein portffolio buddsoddi er mwyn eu rheoli'n effeithiol.
Blwyddyn 2 a 3:
- Cywain data am yr hyn sy'n symbylu risgiau ariannol a chyflwyno yn ein portffolio buddsoddi er mwyn eu rheoli'n effeithiol.
Mentrau strategol – ysgogi effaith ar raddfa fawr drwy ymyriadau wedi’u targedu
Byddwn yn mynd i'r afael â materion treftadaeth hirsefydlog ar raddfa fawr, yn cefnogi dulliau traws-tiriogaethol ac yn rhoi syniadau ac arloesiadau newydd ar waith yn gyflym. Byddwn yn ymgysylltu â phartneriaid a chymunedau i nodi cyfleoedd a heriau sy'n dod i'r amlwg ac yn sicrhau bod ein cynllunio cyllidebol yn ddigon hyblyg i ymateb.
Mae penawdau o'r tair blynedd gyntaf yn cynnwys y canlynol:
- ymrwymwyd buddsoddi gwerth dros £380m ar draws 10 mlynedd y strategaeth, gyda £134m eisoes wedi'i ymrwymo i 89 o brosiectau
- lansiwyd pum menter strategol i gefnogi lleoedd ffyniannus, adferiad byd natur trefol, cysylltu tirweddau ac ymdrin â'r heriau y mae addoldai ac archifau'n eu hwynebu
Yn y tair blynedd nesaf byddwn yn:
- buddsoddi o leiaf £130m pellach mewn mentrau strategol
- nodi a thargedu cefnogaeth at treftadaeth mewn angen, gan gynnwys addoldai, llongau hanesyddol a chasgliadau amgueddfeydd
- gweithio gyda DCMS ac arianwyr eraill y Loteri Genedlaethol i gefnogi dinas a thref diwylliant nesaf y DU
- ymwreiddio dysgu o'n buddsoddi mewn mannau gwyrdd trefol a thirweddau ar raddfa fawr a buddsoddi mewn cymorth pellach ar gyfer y mathau hyn o brosiectau
- dwysau buddsoddi yn y lleoedd sydd ei angen fwyaf
Yn 2026–2029 byddwn yn
Lle
Mae ein dull sy'n seiliedig ar le ar draws ein portffolio buddsoddi yn canolbwyntio ar ardaloedd sydd â chyfle treftadaeth ac angen economaidd-gymdeithasol amlwg ymhlith cymunedau lleol. Byddwn yn olrhain ac yn adrodd ar ein buddsoddiad mewn ardaloedd o anfantais ddwbl gydag amddifadedd uchel a diffyg seilwaith cymdeithasol.
Treftadleoedd
Buddsoddi tymor hwy sy'n seiliedig ar leoedd yn targedu ardaloedd, trefi a dinasoedd sydd ag anghenion, cyfleoedd a photensial o ran treftadaeth.
Blwyddyn 1:
- Gweithio gyda'r 15 Treftadle presennol i gynyddu gallu treftadaeth leol i gyfrannu at eu lle, cysylltiad pobl â'u treftadaeth a sicrhau bod prosiectau a ddatblygir yn lleol yn cael eu cyflwyno'n effeithiol.
- Cryfhau'r berthnasoedd rhwng Treftadleoedd, gan gynnwys o leiaf un cyfarfod rhwydwaith cymheiriaid wyneb yn wyneb, fel y gallant rannu mewnwelediad ac adeiladu arbenigedd ar y cyd.
- Cyhoeddi ail gam yr asesiad annibynnol o Dreftadleoedd.
Blwyddyn 2 a 3:
- Dwysau a chynnal yr effaith ar gyfer y 15 Treftadle drwy ymgysylltu parhaus, gan gefnogi buddsoddi hirdymor ac adeiladu capasiti lleol.
- Cryfhau cysylltiadau rhwng Treftadleoedd drwy gefnogi eu rhwydwaith cymheiriaid a gwerthuso ar y cyd.
- Cyhoeddi gwaith gwerthuso ac ymchwil sy'n cryfhau dealltwriaeth ehangach o fuddsoddi effeithiol mewn treftadaeth sy'n seiliedig ar le.
Trefi a Dinasoedd Natur
Partneriaeth sy'n darparu cefnogaeth ac ariannu i wella ansawdd mannau gwyrdd trefol, a mynediad atynt.
Blwyddyn 1:
- Parhau i weithio gyda'r 19 tref a dinas sydd wedi'u hariannu er mwyn adeiladu gallu lleol i roi natur wrth wraidd eu ffordd o feddwl ar gyfer y dyfodol ac i ganiatáu i bawb gael mynediad at fyd natur yn agos at eu cartref.
- Gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Natural England a chwaer-asiantaethau natur yn y gwledydd eraill i ehangu'r fenter a chreu rhwydwaith dysgu sy'n cysylltu ac yn dylanwadu ar draws y DU.
Blwyddyn 2 a 3:
- Olrhain y ddarpariaeth yn y 19 tref a dinas a ariannwyd a monitro’r effaith.
- Rhannu dysgu ar draws y garfan o brosiectau, gan ddefnyddio mewnwelediadau sy'n dod i'r amlwg i gryfhau'r ddarpariaeth a llywio buddsoddiadau newid systemau strategol eraill tebyg.
- Gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol i dyfu a siapio cyfeiriad parhaus Trefi a Dinasoedd Natur.
Cysylltiadau Tirwedd
Helpu tirweddau o'r radd flaenaf ar draws y DU i ddod yn well ar gyfer byd natur a phobl.
Blwyddyn 1:
- Adeiladu ar y buddsoddiad presennol mewn 13 o dirweddau gwarchodedig dynodedig.
- Targedu ymgysylltiad â phartneriaid mewn tirweddau sydd â llai o adnoddau ond â'r angen mwyaf, er mwyn sicrhau bod ariannu ar gael i bawb.
- Cefnogi dysgu gan gymheiriaid ar draws prosiectau ac annog dulliau cydweithredol.
- Sefydlu fframwaith gwerthuso, casglu data a methodoleg ar gyfer monitro newidiadau mewn tirweddau.
Blwyddyn 2 a 3:
- Tyfu a chryfhau ein buddsoddiad mewn tirweddau gwarchodedig, gan gynyddu nifer y prosiectau a sicrhau cyrhaeddiad ar draws y DU.
- Cefnogi'r garfan o brosiectau tirwedd, gan alluogi trosglwyddo gwybodaeth o'r prosiectau mwyaf sefydledig i'r rhai sydd â'r angen mwyaf.
- Cefnogi dulliau casglu data ar gyfer monitro a gwerthuso, gan gymhwyso dysgu cynnar i fireinio'r dull hirdymor.
Treftadaeth mewn Angen
Achub treftadaeth mewn angen a mynd i'r afael â heriau'r sector, a hynny wedi'i lywio gan dystiolaeth gan bartneriaid a chymunedau.
Addoldai
Buddsoddi mewn prosiectau sydd ag effaith strategol ar lefel ranbarthol neu genedlaethol ar gyfer addoldai.
Blwyddyn 1:
- Parhau i gefnogi mwy o addoldai drwy Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
- Gwerthuso prosiectau strategol presennol i ddeall eu heffaith.
- Rhannu'r hyn a ddysgir a nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth sy'n dod i'r amlwg o'n gwerthusiad.
Blwyddyn 2 a 3:
- Gweithio gyda phartneriaid yn y sector i nodi cyfleoedd ychwanegol ar gyfer buddsoddi strategol mewn addoldai.
- Parhau i gefnogi mwy o geisiadau llwyddiannus ar gyfer addoldai drwy Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Llongau Hanesyddol
Cryfhau cydnerthedd ar draws y sector llongau hanesyddol.
Blwyddyn 1:
- Cefnogi Llongau Hanesyddol Cenedlaethol y DU i sefydlu fframwaith cenedlaethol clir ar gyfer blaenoriaethu risg ac arwyddocâd ar draws y sector llongau hanesyddol.
Blwyddyn 2 a 3:
- Buddsoddi mewn prosiectau sy'n darparu cefnogaeth gydlynol DU gyfan drwy wella mynediad at arbenigedd a sgiliau a thargedu ariannu i leihau risg a chryfhau cydnerthedd yn y sector llongau hanesyddol.
Casgliadau Amgueddfeydd a Chydnerthedd
Maes ffocws newydd ar gyfer Treftadaeth mewn Angen, gan gydnabod y pwysau penodol ar amgueddfeydd y DU a'u casgliadau.
Blwyddyn 1:
- Cyhoeddi ymchwil i gasgliadau amgueddfeydd a chydnerthedd.
- Datblygu ymyriad wedi'i dargedu, i'w gyflwyno mewn cydweithrediad â sefydliadau cefnogi'r sector, sy'n adlewyrchu'r Strategaeth Amgueddfeydd newydd arfaethedig yn Lloegr, ochr yn ochr â blaenoriaethau'r sector yn y gwledydd datganoledig.
Blwyddyn 2 a 3:
- Gweithio gyda phartneriaid sector ar draws y DU i gyflwyno ymyriadau i gefnogi rheoli casgliadau a chydnerthedd hirdymor.
- Ymwreiddio dysgu i gefnogi cydnerthedd hirdymor y sector.
Caffaeliadau, cyfleoedd ac argyfyngau
Byddwn yn ystyried sut i gefnogi sector archifau'r DU, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o Archives Revealed, ein prosiect cyfredol gyda'r Archifau Cenedlaethol, Ymddiriedolaeth Pilgrim a Sefydliad Wolfson.
Byddwn yn parhau i fod ar gael i ymateb i anghenion neu gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg.
Tref Diwylliant y DU (2028) a Dinas Diwylliant y DU (2029)
Blwyddyn 1-3:
- Cefnogi Tref Diwylliant a Dinas Diwylliant y DU llwyddiannus gyda cheisiadau am grantiau treftadaeth, datblygu a chyflwyno prosiectau.
Partneriaeth, cydweithio ac ymgysylltu – gan fwyhau effaith drwy weithio gydag eraill
Byddwn yn gweithio drwy bartneriaethau a rhwydweithiau ehangach sy'n fuddiol i dreftadaeth ac yn darparu mwy o werth i bobl, cymunedau a lleoedd drwy ddeall anghenion a blaenoriaethau lleol ac ymateb iddynt.
Mae penawdau’r tair blynedd gyntaf yn cynnwys y canlynol:
- dosbarthwyd dros £63m o ariannu gan lywodraeth mewn partneriaeth ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), DCMS a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:
- creu ac adfer cynefinoedd sy'n doreth o fywyd gwyllt yn Lloegr (Species Survival Fund, Defra)
- cryfhau cydnerthedd safleoedd tir a morol gwarchodedig yng Nghymru (Cronfa Rhwydweithiau Natur, Llywodraeth Cymru)
- cefnogwyd dulliau partneriaeth arloesol gan gynnwys ymrwymo £31m i brosiectau Menter Treftadaeth, gan roi bywyd newydd i safleoedd hanesyddol sydd wedi'u hesgeuluso
- buddsoddwyd mewn mwy na 90 o brosiectau drwy grantiau cymunedol, gan ganiatáu cefnogaeth wedi'i thargedu at sefydliadau llai, ar lawr gwlad ar lefel leol
- lansiwyd cam olaf ein Cronfa Arloesi Treftadaeth, gan ddyfarnu £2.9m i 13 o sefydliadau i ddatblygu datrysiadau arloesol ar gyfer materion gweithlu
Yn y tair blynedd nesaf byddwn yn:
- blaenoriaethu ymyriadau gyda phartneriaid i fuddsoddi mewn prosiectau treftadaeth sy'n cefnogi cyfleoedd ar gyfer plant a phobl ifanc, datblygu sgiliau treftadaeth, gwella cynaliadwyedd ariannol a dyfnhau arbenigedd a dealltwriaeth o risg yr hinsawdd i dreftadaeth
- cefnogi ac annog cyd-ddylunio prosiectau treftadaeth sy'n diwallu anghenion lleol a chymunedol
- datblygu partneriaethau strategol i gyflwyno modelau newydd, fel cyd-greu
cyfleoedd ariannu a grantiau dirprwyedig - cryfhau gwaith ar y cyd â'r llywodraethau datganoledig, awdurdodau lleol ac, yn Lloegr, awdurdodau strategol maerol yn ogystal â Dosbarthwyr Loteri eraill
Yn 2026–2029 byddwn yn
Cymorth i blant a phobl ifanc
Buddsoddi o leiaf £20 miliwn mewn prosiectau sydd wedi'u targedu at bobl ifanc, gan gydnabod eu rôl hanfodol wrth siapio a chynnal dyfodol treftadaeth.
Blwyddyn 1:
- Datblygu ein dull o fuddsoddi mewn treftadaeth i bobl ifanc, gan ganolbwyntio ar fwyafu cyfleoedd ac effaith.
- Archwilio partneriaethau rhwng sefydliadau treftadaeth ac o leiaf un sefydliad sy'n arbenigo mewn cyrraedd pobl ifanc ym mhob un o Gymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
- Nodi ffyrdd o greu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc o fewn prosiectau Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Blwyddyn 2 a 3:
- Cefnogi partneriaethau i wneud ceisiadau llwyddiannus, gan arwain at o leiaf un prosiect mawr yn canolbwyntio ar bobl ifanc sy'n cael ei ddatblygu neu ei gyflwyno ym mhob un o Gymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
- Olrhain nifer y prosiectau a ariennir gan Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol sy'n ymgysylltu â phobl ifanc.
- Sefydlu carfanau i greu cyfleoedd o ansawdd uchel ar raddfa fawr i blant a phobl ifanc, gan flaenoriaethu'r rhai sydd leiaf tebygol o ymgysylltu.
Datblygu sgiliau'r sector
Cydweithio ag eraill i ddiwallu anghenion sgiliau'r sector.
Blwyddyn 1:
- Yn dilyn adolygiad o dirwedd sgiliau'r DU, byddwn yn nodi camau gweithredu i fynd i'r afael â heriau parhaus, gan asesu lle nad ydym yn derbyn ceisiadau a deall yn well y cyfleoedd i bartneru ar ymyriadau strategol.
Blwyddyn 2 a 3:
- Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu a lansio ymyriadau peilot sy'n profi ffyrdd o fynd i'r afael â bylchau a meithrin sgiliau ar draws y sector treftadaeth.
Ysgogi adfywio a arweinir gan dreftadaeth
Datgloi potensial asedau treftadaeth i sbarduno adfywio economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.
Blwyddyn 1:
- Adnewyddu ac ail-lansio ein grantiau Menter Treftadaeth, gan weithio gyda sefydliadau treftadaeth entrepreneuraidd a phartneriaid masnachol i ddod ag asedau treftadaeth yn ôl i ddefnydd.
Blwyddyn 2 a 3:
- Hyrwyddo, monitro a gwella'r defnydd o Fenter Dreftadaeth ochr yn ochr â mathau eraill o gefnogaeth, fel buddsoddi cymdeithasol.
Cryfhau offer buddsoddi cymdeithasol
Archwilio cyfleoedd ar gyfer partneriaethau buddsoddi cymdeithasol pellach sydd o fudd i dreftadaeth.
Blwyddyn 1:
- Parhau i bartneru mewn cronfeydd buddsoddi cymdeithasol, gan gynnwys Cronfa Buddsoddi’r Celfyddydau a Diwylliant a'r Gronfa Effaith Treftadaeth.
- Archwilio cyfleoedd ar gyfer partneriaethau cyllid amgen pellach sydd o fudd i dreftadaeth.
Blwyddyn 2 a 3:
- Cynnal, cynyddu a datblygu cyfleoedd buddsoddi cymdeithasol a chyllid amgen newydd.
Rhaglenni partneriaeth nad ydynt wedi'u hariannu gan y Loteri:
| Ffynhonnell ariannu | Rhaglenni ariannu | Gweithgarwch yn 2026–2029: |
|---|---|---|
Rhaglenni a ddarperir mewn partneriaeth â Defra | Species Survival Fund* | Prosiectau'n cael eu cyflwyno a'u monitro. Mae'r rhaglen yn cau yn 2026–2027. |
Rhaglenni a ddarperir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru
| Cronfa Rhwydweithiau Natur Lleoedd Lleol ar gyfer Natur*^ Y Grant Buddsoddi mewn Coetir*^ | Mae £10m o ariannu ar gael ar gyfer 2026–2027. Mae'r rhaglen yn cau yn 2026–2027. Yn y cam monitro. |
Rhaglenni a ddarperir mewn partneriaeth â DCMS | Ariannu cofebion rhyfel | Mae £2m o ariannu ar gael. Manylion i'w cyhoeddi yn 2026–2027. |
Efallai y bydd mwy o gyfleoedd ymhen amser i weithio mewn partneriaeth â llywodraethau i helpu cyflwyno uchelgeisiau ein strategaeth. Mae pob rhaglen ariannu newydd yn amodol ar gydsyniad ein tîm Gweithredol i'r achos busnes.
*Mae rhaglenni wedi dyfarnu'r grantiau sydd ar gael ac mae'r prosiectau'n cael eu cyflwyno.
^Rhaglenni a ariennir yn rhannol gan y Loteri Genedlaethol.
Effaith a gwella – cyflwyno gyda mewnwelediad ac arloesedd
Byddwn yn cryfhau darpariaeth weithredol, gan sicrhau systemau effeithlon ac effeithiol a gwella mesur effaith Treftadaeth 2033.
Mae penawdau’r tair blynedd gyntaf yn cynnwys y canlynol:
- gwellwyd ein systemau mewnol ac allanol, gan gynnwys ein system ymgeisio am grantiau, i helpu ymgeiswyr i lywio proses gliriach a symlach
- cyflwynwyd fframwaith newydd i werthuso ac asesu effaith Treftadaeth 2033 dros ei 10 mlynedd
- cwmpaswyd dulliau arloesol o gefnogi ymgeiswyr, y sector a chapasiti sefydliadol drwy fuddsoddi mewn deallusrwydd artiffisial (AI) ac uwchsgilio ein gweithlu
Yn y tair blynedd nesaf byddwn yn:
- Adeiladu mewnwelediad dyfnach i'r hyn sy'n sbarduno effaith hirdymor yn sgil buddsoddiad y Loteri Genedlaethol drwy gasglu data a gwerthuso prosiectau mewn ffordd fwy doeth a chymesur
- Buddsoddi mewn offer digidol ac AI a hyfforddiant i wella profiad ein cwsmeriaid a chefnogi'r sector
- anelu at leihau effaith amgylcheddol ein buddsoddiad mewn treftadaeth
- Darparu cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth sy'n datblygu sector treftadaeth amrywiol, trwy raglenni gan gynnwys Arweinwyr Treftadaeth y Dyfodol, Cymrodoriaeth Windsor a Change100
Yn 2026–2029 byddwn yn
Mesur ein heffaith
Datblygu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ein fframwaith effaith.
Blwyddyn 1:
- Cyflwyno pwyntiau casglu data newydd i daith y grant.
- Adolygu a mabwysiadu dulliau o fesur effaith economaidd, gan alinio â rhaglen Cyfalaf Diwylliant a Threftadaeth DCMS.
- Cynnal adolygiadau manwl o brosiectau cyfalaf mawr dethol o bob cwr o'r DU i ddeall eu heriau, eu cyflawniadau a'u heffaith hirdymor.
- Cyflwyno dull newydd o werthuso prosiectau.
Blwyddyn 2 a 3:
- Sicrhau bod casglu data wedi'i ymwreiddio'n llawn yn y broses grantiau er mwyn i ni gofnodi'r mewnwelediadau cywir ar bob cam.
- Gweithredu dull newydd o werthuso prosiectau ar gyfer grantïon, gyda dilyn i fyny hirdymor ar brosiectau allweddol i olrhain effaith dros amser.
- Cyhoeddi adroddiad effaith llawn ym mlwyddyn tri.
Trawsnewid ein gwasanaethau a'n seilwaith
Buddsoddi mewn trawsnewid digidol i wella profiad y cwsmer.
Blwyddyn 1:
- Datblygu Bwrdd Rhaglen Technoleg mewnol i oruchwylio ein map digidol ac AI.
- Cymeradwyo cynllun gweithredu tair blynedd ar gyfer treialu a mabwysiadu AI gan gynnwys nodi lle y gall AI wella'r profiad i ymgeiswyr a grantiau.
- Comisiynu arbenigedd AI allanol i'n cefnogi ni a chryfhau gallu ar draws y sector treftadaeth.
Blwyddyn 2 a 3:
- Darparu uwchraddiadau technoleg sy'n cefnogi Treftadaeth 2033 ac yn symleiddio ein prosesau gweithredol ac ariannu.
- Peilota offer a bwerir gan AI i wella cynhyrchiant a gwella'r broses grantiau, gan rannu mewnwelediadau a'r hyn a ddysgir gyda'r sector treftadaeth a'r sector gwneud grantiau ehangach.
Effaith amgylcheddol
Lleihau effaith amgylcheddol negyddol ac ôl troed carbon ein buddsoddiad mewn treftadaeth a chefnogi'r sector treftadaeth i addasu i newid hinsawdd.
Blwyddyn 1:
- Gwella ansawdd y data a ddefnyddir i amcangyfrif ôl troed carbon ein buddsoddiadau er mwyn llywio'r camau nesaf wrth wella ac esblygu'r dull o fesur ein portffolio ariannu.
- Peilota dulliau o wella sut rydym yn casglu data amgylcheddol ar ddiwedd prosiectau.
- Eirioli a hyrwyddo’r gefnogaeth ar gyfer addasu i’r hinsawdd sydd ar gael drwy Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Blwyddyn 2 a 3:
- Gweithredu cynllun i wella a diweddaru cywirdeb ein dull o fesur ôl troed carbon. Nodi mewnwelediadau a bylchau.
- Mesur cynnydd tuag at gasglu data amgylcheddol strwythuredig ar ein gweithgarwch a'n hallbynnau ariannu.
- Defnyddio'r gwersi a ddysgwyd i lywio ymgysylltiad a datblygiad prosiectau er mwyn lleihau effaith amgylcheddol negyddol yn weithredol.
- Gweithio gyda phartneriaid i rannu arfer gorau a chefnogi sefydliadau treftadaeth i gynllunio'n well ar gyfer newid hinsawdd ac addasu iddo.
Incwm a chostau
Rydym yn dyfarnu 20% o incwm achosion da'r Loteri Genedlaethol ac yn gosod ein cyllidebau buddsoddi bob blwyddyn yn seiliedig ar y swm a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar draws y DU. Ar unrhyw adeg, rydym yn monitro dros 2,000 o brosiectau byw, fel yr amlinellir yn y cronfeydd arian parod wrth gefn a'r rhwymedigaethau yn ein cyfrifon ariannol.
At hynny, rydym yn derbyn incwm blynyddol o £5.3m gan lywodraeth y DU ar gyfer Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol, sef £5.2m ar gyfer grantiau a £0.1m ar gyfer costau gweinyddu). Efallai y byddwn hefyd yn derbyn incwm gan lywodraethau a chyrff eraill fel DCMS, Defra, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth Cymru i ddosbarthu grantiau.
Ar draws 2026–2029, ein nod yw buddsoddi dros £1.46bn drwy bortffolio o Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, mentrau strategol a phartneriaethau.
| Buddsoddi rhagamcanol ar gyfer 2026–2029 | 2026–2027 | 2027–2028
| 2028–2029
| Cyfanswm |
|---|---|---|---|---|
| Incwm gan y Loteri Genedlaethol | £379m | £498.2m | £546m | £1.42bn |
| Costau gweithredu | £29.4m | £38.6m | £42.3m | £110.3m |
| Cydbwyso cymarebau buddsoddi* | £155.1m | Dim byd | Dim byd | £155.1m |
| Cyfanswm sydd ar gael o ran buddsoddiad y Loteri Genedlaethol | £504.7m | £459.6m | £503.7m | £1.46bn |
Mae cyfanswm costau gweithredu'r Loteri Genedlaethol wedi'u pennu gan DCMS ac ni ddylent fod yn fwy na 7.75% o incwm blynyddol gan y Loteri Genedlaethol dros gyfnod treigl o dair blynedd. Rydym yn gweithredu'n gyson o fewn y trothwy hwn.
*Mae newid yng nghyfanswm y buddsoddiad i gymhareb balans Cronfa Ddosbarthu’r Loteri Genedlaethol, a gytunwyd gan ein Bwrdd ym mis Rhagfyr 2023, wedi caniatáu ar gyfer ymrwymiadau ychwanegol dros y cyfnod cynllunio hwn.