Cynllun cyflwyno Treftadaeth 2033: 2026–2029

Llywodraethu

Y Bwrdd, pwyllgorau a gwneud penderfyniadau

Rydym wedi'n llywodraethu gan Fwrdd Ymddiriedolwyr sy'n arwain ar ddatblygu strategaeth, gyda'r gwaith rheoli o ddydd i ddydd wedi'i ddirprwyo i'r Prif Weithredwr a'r tîm Gweithredol. Mae'r Bwrdd yn gwneud penderfyniadau ariannu terfynol ar geisiadau grant dros £5m ac yn cadw cyllideb fuddsoddi ganolog ar gyfer mentrau strategol a rhaglenni DU gyfan, gan alw ar arbenigedd ac argymhellion lleol ein staff a phwyllgorau ardal a gwlad. 

Mae gennym chwe phwyllgor gwneud grantiau – yng Nghymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, ac mewn tair ardal yn Lloegr (Gogledd Lloegr, Canolbarth a Dwyrain Lloegr, Llundain a De Lloegr) – sy'n gwneud penderfyniadau ar geisiadau am grantiau rhwng £250,000 a £5m.  Mae'r pwyllgorau hyn yn cynnwys pobl leol sy'n angerddol dros y dreftadaeth yn eu hardal, wedi'u penodi trwy recriwtio agored a chystadleuol, sydd gyda'i gilydd yn dod ag amrywiaeth eang o arbenigedd a mewnwelediad i'n prosesau dyfarnu grantiau. Mae ein Harweinwyr Treftadaeth y Dyfodol, oedolion ifanc 18–30 oed sy'n dod â safbwyntiau newydd i'n prosesau gwneud penderfyniadau, bellach yn ymuno â'r pwyllgorau. Ynghyd â dyfarniadau a wneir gan ein Penaethiaid Buddsoddi ar grantiau o dan £250,000, mae hyn yn golygu bod pwyllgorau a staff ardal a gwlad yn cyfrif am 95% o'n holl benderfyniadau ariannu. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod ein prosesau gwneud grantiau wedi'u llywio gan arbenigedd treftadaeth, gwybodaeth leol a'u bod yn gysylltiedig ac yn ymatebol i'r lleoedd a'r cymunedau rydym yn eu cefnogi. 

Rydym yn cadw ‘swm gwlad wrth gefn’ i Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ar gyfer grantiau na ellir darparu ar eu cyfer mewn cyllidebau per capita dirprwyedig. 

Wedi'u dyrannu ar sail per capita, mae pwyllgorau dyfarnu grantiau'n derbyn y canrannau canlynol o gyllidebau dirprwyedig: 

Pwyllgorau ardal/gwladCyfran o'r gyllideb ddirprwyedig
Lloegr, Llundain a'r De35%
Lloegr – Canolbarth a Dwyrain25.2%
Lloegr, Gogledd23.7%
Yr Alban 8.4%
Cymru4.8%
Gogledd Iwerddon2.9%

Mae'r prosesau ar gyfer ymgeisio, gwneud penderfyniadau a monitro grantiau wedi'u nodi ar ein gwefan.

Tryloywder 

Rydym yn cydnabod ein rhwymedigaethau i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a threthdalwyr wrth esbonio sut rydym yn defnyddio eu harian, gan weithio mewn cydymffurfiaeth â deddfau perthnasol a'n dogfen fframwaith gyda  DCMS. 

Fel corff sy'n wynebu'r cyhoedd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn rhwydd a'i bod yn hawdd ei deall. Gweler adran Tryloywder ein gwefan am fwy o fanylion. 

Rheoli risgiau 

Mae ein cofrestr risgiau'n cael ei hadolygu'n rheolaidd gan ein tîm Gweithredol, y Bwrdd a'r Pwyllgor Archwilio a Risg. Mae ein hawydd am risg yn cael ei adolygu a'i gymeradwyo gan y Bwrdd unwaith y flwyddyn.

Crynhoir isod ein prif risgiau a'r lliniariadau ar gyfer 2026–2029 (fel y'u cyhoeddwyd yn haf 2026).

Risgiau strategol

Gweithrediad y strategaeth yn arafach na'r disgwyl neu'n methu â chyflwyno yn erbyn y pedair egwyddor fuddsoddi

Sut y byddwn yn rheoli hyn:

  • Hyfforddiant parhaus i staff i sicrhau cysondeb ar draws y DU, sy'n cael ei ddiwygio a'i adnewyddu.
  • Adolygiad rheolaidd o'n rhaglen gwella'r Gwasanaeth Rheoli Buddsoddiadau ar-lein.
  • Monitro i ba raddau y mae prosiectau a ariennir yn bodloni ein hegwyddorion buddsoddi drwy ddadansoddi data o geisiadau a grantiau.
Data, mewnwelediad ac arbenigedd annigonol i olrhain a deall effaith strategol Treftadaeth 2033.

Sut y byddwn yn rheoli hyn:

  • Gweithredu'r fframwaith effaith i fesur ac ymateb i dystiolaeth o'n heffaith. 
  • Gwneud newidiadau i daith y grant o'r dechrau i'r diwedd fel y bo angen i gefnogi casglu data cyson o ansawdd uchel am effaith ym mhob cam.
Effaith ar ein piblinell ariannu os bydd prosiectau presennol yn wynebu problemau mawr neu'n methu, neu os na chyflwynir ceisiadau newydd oherwydd risgiau economaidd.

Sut y byddwn yn rheoli hyn:

  • Monitro prosiectau'n weithredol yn unol â'n harweiniad drwy adeiladu perthnasoedd â grantïon i nodi problemau'n gynnar. 
  • Defnydd wedi'i dargedu o arbenigwyr allanol i lywio penderfyniadau grant yn well. 
  • Gwell ddealltwriaeth gan aseswyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau o'r dirwedd ariannu a risgiau prosiectau unigol. 
  • Cefnogaeth i sefydliadau sy'n cyflawni prosiectau cydnerthedd cyn dechrau buddsoddiadau sylweddol.

Risgiau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol

Mae anwadaliad yn yr amgylchedd allanol yn arwain at wahanol flaenoriaethau ariannu a pholisi ar gyfer y sector treftadaeth.

Sut y byddwn yn rheoli hyn:

  • Cydweithio ac aliniad agos â chyrff hyd braich eraill ym maes treftadaeth a diwylliant a dosbarthwyr y Loteri Genedlaethol. 
  • Perthnasoedd cryf â DCMS, Whitehall, llywodraethau datganoledig, awdurdodau strategol maerol, y sector llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill. 
  • Mesur a chyfleu effaith ein buddsoddiad mewn treftadaeth.
Mae gostyngiad materol parhaus yn incwm y Loteri Genedlaethol yn golygu na allwn ariannu prosiectau allweddol i gyflwyno ein strategaeth.

Sut y byddwn yn rheoli hyn:

  • Monitro rhagolygon incwm yn rheolaidd. 
  • Gweithio ar y cyd ag Allwyn ac Uned Hyrwyddo'r Loteri Genedlaethol i gryfhau marchnata achosion da.
  • Monitro cynnydd prosiectau'n agos.
  • Cynllunio senarios ar gyfer ystod o opsiynau ariannol.

Risgiau gweithredol

Mae methu â denu a chadw gweithlu amrywiol a medrus yn arwain at leihad mewn gwybodaeth allweddol ac yn lleihau darpariaeth, gallu ac effeithiolrwydd.

Sut y byddwn yn rheoli hyn:

  • Cyfleoedd hyfforddi a dysgu i staff.
  • Cynnig cryf i weithwyr i gynorthwyo recriwtio a chadw. 
  • Adrodd a meincnodi demograffeg allweddol y gweithlu.
Methiant parhaus sylweddol o systemau neu swyddogaethau neu gyfaddawdu diogelwch data.

Sut y byddwn yn rheoli hyn:

  • Mesurau rheoli mynediad ataliol ac offer datgelu.
  • Meddalwedd monitro ac adrodd.
  • Cynlluniau parhad busnes a digwyddiadau critigol yn eu lle.
  • Gwahanu systemau, hyfforddiant ac ymwybyddiaeth staff.
  • Diogelwch data a pholisïau yn eu lle ac yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.