Cyfleoedd y Bwrdd a Phwyllgorau

Cyfleoedd y Bwrdd a Phwyllgorau

Mae ein bwrdd a'n pwyllgorau yn helpu i wneud penderfyniadau ar ble i fuddsoddi arian.

Y Bwrdd

Mae Bwrdd Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cynnwys Cadeirydd a hyd at 14 ymddiriedolwr, a benodwyd gan y Prif Weinidog.

Y Bwrdd:

  • yn pennu ein fframwaith strategol a pholisi
  • yn pennu ein strategaeth gorfforaethol a'n cynllun busnes blynyddol
  • gwneud penderfyniadau ar gyllid CGDG ac ar grantiau Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol dros £5miliwn ac ar ein hymgyrchoedd strategol ledled y DU.

Cyfleoedd Bwrdd

Nid oes rolau gwag ar hyn o bryd.


Pwyllgorau

Mae gennym bwyllgorau wedi'u lleoli yn:

  • Gogledd Iwerddon
  • Yr Alban
  • Cymru
  • Gogledd Lloegr
  • Canolbarth a Dwyrain Lloegr
  • Llundain a De Lloegr

Y pwyllgorau sy'n gwneud penderfyniadau ar grantiau rhwng £250,000 a hyd at £10m. 

Bod yn aelod o bwyllgor

Yn y fideo hwn, mae aelodau pwyllgor ledled y DU yn egluro beth mae ein chwe phwyllgor Cronfa Treftadaeth yn ei wneud a pham y dylech ymgeisio i ymuno ag un:

Remote video URL

Cyfleoedd pwyllgor

Rydym wrthi’n recriwtio aelodau newydd i ymuno â Phanel Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol, sydd wedi’i leoli unrhyw le yn y DU. Mae’r Gronfa Goffa yn dyfarnu arian ar ran llywodraeth y DU i achub treftadaeth nodedig sydd mewn perygl o gael ei cholli, fel cofeb sydd ar gael i’r cyhoedd i’r rhai sydd wedi rhoi eu bywydau dros y DU. Dysgwch fwy am y Gronfa Goffa ac archwiliwch rolau aelodau’r Panel.

Clywed y diweddaraf am gyfleoedd

Dilynwch ni ar Twitter a chofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein Bwrdd a'n cyfleoedd recriwtio pwyllgorau diweddaraf. Gallwch hefyd anfon e-bost atom i gofrestru eich diddordeb.