Hygyrchedd ar-lein ar waith drwy dreftadaeth Baralympaidd a gardd gyfrinachol Sain Ffagan
Mae bron i hanner y prosiectau rydyn ni wedi'u hariannu ers mis Ebrill 2024 yn creu neu'n gwella mynediad digidol at dreftadaeth. Mae sicrhau bod yr adnoddau ar-lein rydyn ni'n eu hariannu'n hygyrch i bobl sydd ag anableddau – sef un o bob pedwar o'r boblogaeth – yn amod o'n grantiau.
Archwiliwch sut mae dau sefydliad rydyn ni wedi'u hariannu'n ymwreiddio hygyrchedd a chyd-greu gyda phobl anabl drwy gydol eu prosiectau.
Yr Ardd Gudd yn Sain Ffagan: rhannu treftadaeth mewn ffyrdd y gall pawb eu deall
Mae Ymddiriedolaeth Innovate yn gweithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Hanes Genedlaethol Sain Ffagan yng Nghaerdydd i gynnwys 80 o bobl ag anableddau dysgu wrth ailblannu ac ymchwilio i ardd bwthyn anghofiedig yn yr amgueddfa. Mae cyfranogwyr wedi gwneud ffrindiau a datblygu hyder ac ymreolaeth mewn amgylchedd diogel a chroesawgar. Maen nhw hefyd wedi helpu datblygu adnoddau ar-lein fel llwybrau digidol a fideos sy'n esbonio'r hanes a'r gwaith garddio yn y bwthyn. Maen nhw'n rhannu'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu ar gyfer pobl eraill sydd ag anableddau dysgu a allai ymweld â'r amgueddfa yn y dyfodol, neu na allant ddod yno eu hunain.
Dywed Lucy Curtis, Rheolwr Prosiect Sgiliau a Llesiant Ymddiriedolaeth Innovate: “Mae llawer o unigolion yn wynebu rhwystrau i gyrchu eu cymuned; gall cyfranogiad digidol bontio’r bwlch hwn, gan wneud gweithgareddau treftadaeth yn fwy hygyrch i gynulleidfa ehangach.”
Mae wybodaeth ar wefan yr Ardd Gudd wedi'i hysgrifennu mewn iaith glir, mae penawdau'n tywys defnyddwyr at wahanol bynciau ac mae'r dudalen wedi'i rhannu'n adrannau, gan ei gwneud hi'n hawdd i bawb ddeall a dod o hyd i'r hyn maen nhw'n chwilio amdano. Mae gan y lluniau destun amgen (alt) ac mae gan y fideos sy'n esbonio'r garddio a'r ymchwil hanesyddol gapsiynau caeedig, sy'n helpu pobl â nam ar eu golwg a'u clyw i brofi'r elfennau gweledol a chlywedol hefyd.
Y Amgueddfa Rithwir Fyd-eang: lleihau rhwystrau i gael mynediad i leoedd amgueddfeydd
Mae'r Ymddiriedolaeth Treftadaeth Baralympaidd Genedlaethol wedi creu Amgueddfa Rithwir Fyd-eang, wedi'i hymchwilio a'i chyd-guradu gyda phobl sydd â phrofiad o anabledd o lygad y ffynnon. Mae'r orielau digidol yn defnyddio modelau 3D, testun, delweddau, fideos a llwybrau i adrodd storïau hanes y Gemau Paralympaidd. Mae sefydliadau chwaraeon anabledd wedi cyfrannu gwrthrychau a hanesion sy'n cynrychioli cymunedau o Hampshire i Japan a chyflyrau gan gynnwys Parlys yr Ymennydd, corachedd a nam ar y golwg.
Mae'r amgueddfa rithwir hon yn rhan o'r prosiect Becoming Seamlessly Inclusive ehangach, sy'n ceisio ehangu cyfranogiad mewn treftadaeth Baralympaidd.
Dywed Vicky Hope-Walker, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Baralympaidd Genedlaethol: “Mae cydweithio cynhwysol gyda gweithlu amrywiol a phobl sydd â phrofiad o anabledd o lygad y ffynnon i greu cynnwys ystyrlon wedi bod yr un mor bwysig â’r dyluniad digidol er hygyrchedd.”
Mae nodweddion hygyrchedd yr amgueddfa rithwir yn cynnwys disgrifiadau sain, teithiau tywysedig ac adnoddau sy'n addas ar gyfer darllenyddion sgrîn. Mae datganiad hygyrchedd y wefan yn gosod disgwyliadau pobl o ran pa mor dda y mae'r wefan yn diwallu eu hanghenion mynediad.
Wrth fyfyrio ar yr hyn y mae'r tîm wedi'i ddysgu o'r prosiect, meddai Vicky: “Mae gweithio gyda chymunedau fel British Blind Sport wedi ein hysbrydoli i feddwl yn greadigol am brofiadau rhithwir cynhwysol ac wedi newid ein harfer ar draws ein holl arddangosfeydd digidol a ffisegol.”
Awgrymiadau gan yr arbenigwyr
Dywed Simon Jones o Studio 24, yr asiantaeth hygyrchedd digidol arbenigol a ddiweddarodd ein harweiniad arfer da: “Nid perffeithrwydd yw nod hygyrchedd. Mae newidiadau bach at ei gilydd yn creu profiad mwy cadarnhaol i lawer o bobl.
“Ac mae gwneud gwefan yn hygyrch yn helpu pawb – mae'n ei gwneud hi'n haws i'w defnyddio ac mae cynnwys hygyrch yn cael ei fynegeio'n well gan beiriannau chwilio.”
Pum awgrym gorau Simon ar gyfer mynd i'r afael â'r problemau hygyrchedd gwe mwyaf cyffredin – y gallwch ddysgu mwy amdanynt yn ein harweiniad – yw:
- gwneud yn siŵr y gellir darllen y testun yn glir yn erbyn y cefndir
- defnyddio testun alt i ddisgrifio delweddau i'r rhai na allant eu gweld
- ysgrifennu testun hyperddolen disgrifiadol i ddweud wrth bobl ble maen nhw'n cael eu cludo – dim mwy o 'cliciwch yma’
- defnyddio penawdau llawn gwybodaeth ac arddulliau pennawd cywir i helpu defnyddwyr darllenyddion sgrin, chwilotwyr peiriannau chwilio a phobl sy'n sgimio-ddarllen
- gwneud yn siŵr y gellir llywio eich gwefan gyda'r bysellfwrdd (fel pwyso tab i symud drwy'r dudalen) ar gyfer defnyddwyr nad ydynt yn defnyddio llygoden
Rhoi arfer digidol hygyrch ar waith
Mae gwefannau hygyrch Ymddiriedolaeth Innovate a'r Ymddiriedolaeth Treftadaeth Baralympaidd Genedlaethol yn dangos sut y gellir cymhwyso egwyddorion ein gofynion hygyrchedd digidol mewn prosiect bywyd real.
Meddai Josie Fraser, Pennaeth Polisi Digidol Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Mae’r ddau brosiect llawn effaith hyn wedi ehangu eu cynulleidfaoedd drwy greu profiadau cynhwysol wyneb yn wyneb ac ar-lein. Mae dylunio gyda safonau hygyrchedd mewn golwg o'r cychwyn cyntaf, a chynnwys pobl sydd ag anableddau wrth greu a phrofi adnoddau digidol, wedi bod yn hanfodol i'w llwyddiant.”
Darllenwch ein cyflwyniad i arweiniad arfer da hygyrchedd ar ei newydd wedd am gyngor ymarferol ar sut i ddylunio, creu a phrofi deunyddiau digidol hygyrch.