Wedi'i arwain gan bartneriaeth rhwng y Brifysgol Agored yng Nghymru ac Amgueddfa Cymru, nod y prosiect hwn oedd rhoi hwb i falchder pobl mewn lle, lles cymdeithasol a sgiliau treftadaeth.
- pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yn Nhre-biwt, Caerdydd
- ardal ôl-ddiwydiannol Sandfields, Port Talbot
- cymunedau lled-wledig ledled Sir Benfro
- siaradwyr Cymraeg yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd
- pobl leol ag anableddau dysgu yng Nghaerdydd, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg
Trwy weithgareddau ymarferol gyda chasgliadau amgueddfeydd a sesiynau rhannu cof, archwiliodd cyfranogwyr eu hanesion a chysylltu â'u hardal leol a'i gilydd.
Yna creodd y grwpiau weithiau celf wedi'u hysbrydoli gan eu profiadau a'r dreftadaeth a ddarganfuwyd. Mae'r ymatebion creadigol hyn wedi'u dwyn ynghyd a'u rhannu trwy arddangosfa ddigidol ac arddangosfa gorfforol yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru,Cymru: Ein Straeon Ni
Dan Jewson, REACH Cymru, Rheolwr Prosiect, Meddai "Mae REACH Cymru wedi dangos sut y gall treftadaeth a chreadigrwydd ddod â phobl at ei gilydd, meithrin hyder, cyfeillgarwch a chreu ymdeimlad o berthyn. Roedd gweld gwaith anhygoel pawb yn dod at ei gilydd yn Sain Ffagan, a balchder y cyfranogwyr yn y lansiad, yn arbennig iawn".
Cymru: Ein Straeon Ni yn Sain Ffagan Mae Amgueddfa Werin Cymru yn rhedeg tan 3 Mai 2027.