Ail-ddychmygu amgueddfa Wrecsam ar gyfer pêl-droed a chymuned

Y tu allan i adeilad Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam wedi'i adnewyddu
Mae'r amgueddfa wedi'i hadnewyddu yn dwyn ynghyd dreftadaeth chwaraeon a hanes cymunedol. Credyd: Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam, 2026.
Mae Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam newydd yn dod â threftadaeth bêl-droed a hanes lleol yn ôl i'w chartref hanesyddol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, trwy amgueddfa wedi'i hadnewyddu a chartref cenedlaethol newydd sbon ar gyfer pêl-droed Cymru.

Mae ei’n grant o £2.8 miliwn wedi cefnogi'r prosiect i drawsnewid un o adeiladau dinesig mwyaf adnabyddus Wrecsam, gyda'r amgueddfa yn agor ei drysau ar 25 Medi 2026.

Mae'r amgueddfa'n dathlu stori pêl-droed Cymru a threftadaeth Wrecsam a'i chymunedau. Trwy arddangosfeydd rhyngweithiol, gemau, profiadau ymarferol ac orielau wedi'u curadu gan y gymuned, gall ymwelwyr archwilio hanes lleol ochr yn ochr â stori genedlaethol y gêm.

Mae grŵp o blant yn gwylio lluniau am bêl-droed wedi'u taflunio ar waliau gofod oriel
Mae'r orielau pêl-droed yn cynnwys arddangosfeydd rhyngweithiol ac ymgolli. Credyd: Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam, 2026.

Fel cartref Casgliad Pêl-droed Cymru, mae'r amgueddfa'n arddangos gwrthrychau o arwyddocâd cenedlaethol sy'n olrhain datblygiad pêl-droed yng Nghymru, o glybiau llawr gwlad i'r timau cenedlaethol. Mae'r uchafbwyntiau yn cynnwys rhaglenni gemau sy'n dyddio'n ôl i 1901, crys cyntaf John Charles o 1950 a chap a ddyfarnwyd i'r arloeswr pêl-droed Cymreig, Billy Meredith.

Ochr yn ochr â'r orielau pêl-droed, gall ymwelwyr ddarganfod stori Wrecsam ar draws cyfres o orielau thematig sy'n cynnwys gwrthrychau rhyfeddol, straeon personol a chasgliadau sy'n rhychwantu cynhanes hyd heddiw. Mae'r amgueddfa wedi'i datblygu gyda chymunedau wrth ei chraidd ac mae'n gwasanaethu fel canolfan ddysgu, gofod cymunedol ac atyniad ymwelwyr i bobl leol a thwristiaid.

Y tu mewn i amgueddfa gyda chasys arddangos a sgriniau fideo
Mae'r amgueddfa yn adrodd hanes canrifoedd o fywyd yn y dref. Credyd: Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam, 2026.

Mae'r agoriad yn garreg filltir arwyddocaol i ddiwylliant a threftadaeth yng Nghymru, gan greu lleoliad o'r radd flaenaf sy'n adlewyrchu balchder cenedlaethol ar y cae pêl-droed wrth ddathlu'r bobl, y lleoedd a'r cymunedau sydd wedi siapio hanes Wrecsam.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Yn ei hanfod, mae'r prosiect hwn yn ymwneud â phobl a lle. Mae'n dal angerdd a balchder Wrecsam trwy ddod â hanes pêl-droed a threftadaeth leol at ei gilydd. Bydd yn taflu goleuni ar y straeon a'r profiadau sydd wedi helpu i ddiffinio Wrecsam ac ysbrydoli cynulleidfaoedd newydd i'w darganfod.

"Mae'n enghraifft wych o sut mae cyllid y Loteri Genedlaethol yn helpu cymunedau i adrodd eu straeon eu hunain. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y straeon hyn yn cael eu cadw a'u rhannu am genedlaethau i ddod." 

Darganfyddwch fwy o brosiectau sy'n trawsnewid amgueddfeydd a chasgliadau ledled y DU.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...

Project data

Programme
National Lottery Grants for Heritage – £250,000 to £5million
Dyddiad a ddyfarnwyd
Lleoliad
Brynyffynnon
Awdurdod Lleol
Wrexham
Ceisydd
Wrexham County Borough Council
Rhoddir y wobr
£2816783