Datgelu etifeddiaeth Llechi Cymru yn Amgueddfa Lechi Cymru

Datgelu etifeddiaeth Llechi Cymru yn Amgueddfa Lechi Cymru

cwrt Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, gogledd Cymru, gydag adeiladau ffatri cerrig o amgylch iard gydag offer diwydiannol ar gyfer prosesu llechi, gyda'r mwynglawdd llechi i'w weld yn y cefndir
Amgueddfa Lechi Cymru a agorwyd yn wreiddiol ym 1972. Llun: Aled Llywelyn.

National Lottery Grants for Heritage – £250,000 to £5million

Deiniolen
Gwynedd
National Museum of Wales
£412565
Bydd yr amgueddfa, a agorodd yn wreiddiol yn 1972, yn cael ei thrawsnewid yn atyniad o safon fyd-eang i ymwelwyr wrth galon Tirwedd Llechi Cymru yng ngogledd-orllewin Cymru.

Dyfarnwyd arian datblygu i'r prosiect i'w alluogi i fwrw ymlaen â'i gynlluniau a chyflwyno cais am grant llawn o dros £9miliwn gan y Gronfa Treftadaeth yn y dyfodol.

Wedi’i lleoli o fewn gweithdai Fictoraidd rhestredig Gradd I Chwarel hanesyddol Dinorwig, mae'r amgueddfa'n cynnwys bythynnod chwarelwyr, locomotifau gweithiol ac inclein Vivian ochr yn ochr ag olwyn ddŵr weithredol fwyaf y DU.

Mae’r amgueddfa’n adrodd storïau'r dynion a’r menywod a siapiodd dirwedd Cymru ac a gyfrannodd at bensaernïaeth a seilwaith ledled y byd.

Bydd modd i ni ddod â’r casgliad cenedlaethol ac arddangosfeydd newydd i ogledd Cymru am y tro cyntaf.

Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru

Bydd y prosiect, a arweinir gan Amgueddfa Cymru, yn gwarchod ac yn gwella cyflwr treftadaeth adeiledig y safle, gan ei drawsnewid i fod yn hyb dehongli ar gyfer Tirwedd Llechi Cymru. Daeth yr ardal yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2021 i gydnabod ei rôl o roi toeon ar fyd y 19eg ganrif

Two people do an interactive activity inside an industrial building at the National Slate Museum. In the background large cart wheels hang on the wall.
Ymwelwyr yn Ffowndri Amgueddfa Lechi Cymru.

Dywedodd Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru: “Yn ogystal â thrawsnewid ein hamgueddfa, bydd hyn hefyd yn newid y ffordd y gallwn adrodd hanes tirwedd llechi treftadaeth y byd gogledd-orllewin Cymru.

“Trwy ddatblygu mannau creadigol newydd, bydd modd i ni ddod â’r casgliad cenedlaethol ac arddangosfeydd newydd i ogledd Cymru am y tro cyntaf. Byddwn hefyd yn creu cyfleoedd i bobl o bob cefndir fwynhau, dysgu a datblygu sgiliau crefft traddodiadol, gan gynyddu cyflogaeth a lles, a chreu cysylltiadau gwell rhwng pobl a chymunedau gyda’n casgliadau gwych.”

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...