Mae Codi Pwysau Cymru yn diogelu’r hanes o codi pwysau a chodi pwysau para cyn iddo gael ei golli.
Mae'r prosiect yn cofnodi atgofion cyn-godwyr, hyfforddwyr, swyddogion a gwirfoddolwyr, wrth ddigido medalau, tlysau, rhaglenni, ffotograffau ac arteffactau eraill sydd ar hyn o bryd mewn casgliadau preifat.
Bydd y deunyddiau hyn yn cael eu cadw mewn archif ddigidol ddwyieithog hygyrch i'r cyhoedd, gyda chefnogaeth arddangosfeydd cymunedol a gyflwynir trwy glybiau ledled Cymru. Mae gwirfoddolwyr ac aelodau o'r gymuned yn helpu i nodi cyfranwyr, cefnogi cyflawni a dod â chenedlaethau sy'n gysylltiedig â'r gamp at ei gilydd.
Trwy gadw straeon personol a gwrthrychau gwerthfawr, nod y prosiect yw dathlu treftadaeth chwaraeon Cymru, cryfhau cysylltiadau lleol ac ysbrydoli cyfranogiad yn y dyfodol. Mae'n sicrhau bod rhan bwysig o hunaniaeth chwaraeon Cymru yn parhau i fod yn hygyrch, yn berthnasol ac yn cael ei werthfawrogi am flynyddoedd i ddod.
Dywedodd Stephen Evans, mab y codwr pwysau Yorrie Evans: "Byddwn yn falch iawn o fod yn rhan o brosiect Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol Codi Pwysau Cymru ac i rannu'r hyn rwy'n ei wybod am hanes cynnar codi pwysau Cymru ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a phrofiadau fy nhad fel y codwr pwysau cyntaf o Gymru i gystadlu yn y Gemau Olympaidd. Mae'n gyfle gwych i gadw'r straeon hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."