Mae Amgueddfa a Chymdeithas Hanesyddol Brynmawr yn dathlu eicon hanes lleol, chwaraeon a hanes Du Prydain drwy raglen ddogfen am ei fywyd.
Wedi'i datblygu gan bobl ifanc, bydd y ffilm yn adrodd hanes plentyndod Francis yn Ne Cymru yn y 1920au, ei yrfa rygbi a'i brofiad fel dyn Du ym myd chwaraeon yr 20fed ganrif yn y DU.
Bydd yn archwilio hanes Brynmawr yn y 1920au a'r 1930au, gan gynnwys 'Arbrawf Brynmawr', ymdrech i fynd i'r afael â thlodi a diweithdra yn y dref. Bydd gwahanol genedlaethau, gan gynnwys gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol, yn cyfrannu.
Bydd gwneuthurwyr ffilmiau proffesiynol, animeiddwyr a staff amgueddfeydd yn arfogi'r crewyr ifanc gyda sgiliau i recordio cyfweliadau a bwrdd stori, ffilmio a golygu'r rhaglen ddogfen.
Mae'r prosiect hefyd yn creu canllawiau dwyieithog i athrawon, taflenni gwaith ac awgrymiadau trafod y gellir eu defnyddio ochr yn ochr â'r ffilm mewn ystafelloedd dosbarth.
Meddai John Hill, Trysorydd, Amgueddfa a Chymdeithas Hanesyddol Brynmawr: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y gefnogaeth hon gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol rydym yn gallu adrodd stori anhygoel dyn a fagwyd ym Mrynmawr ac a ddaeth yn Chwedl ym myd Rygbi'r Gynghrair. Yr un mor bwysig yw y gallwn warchod treftadaeth Brynmawr."
Cael eich ysbrydoli gan fwy prosiectau sy'n rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc i ddarganfod treftadaeth