Yn ei blwyddyn gyntaf mae'r Amgueddfa Hanes Naturiol yn treialu'r rhaglen gydag wyth amgueddfa o'r rhwydwaith Real World Science:
- Birmingham Museums Trust
- The Herbert Art Gallery & Museum, Coventry
- Great North Museum: Hancock, Newcastle upon Tyne
- Amgueddfa Cymru
- Touchstones, Rochdale
- Wollaton Hall, Nottingham
- National Museum Northern Ireland
- the Natural History Museum, Tring
Unwaith y bydd y treial wedi'i gwblhau, bydd Museums for Nature yn cael ei ehangu i fwy o amgueddfeydd ar draws y DU.
Mae amgueddfeydd yn mapio cynefinoedd presennol ac yn nodi'r newidiadau y gallant eu gwneud i wella bioamrywiaeth ar draws eu mannau awyr agored. Bydd y camau a gymerir yn edrych yn wahanol ar bob safle ond gallent gynnwys creu pyllau a chynefinoedd sy'n llesol i beillwyr neu ddatblygu cynlluniau plannu sy'n gydnerth i'r hinsawdd.
Hefyd, mae gweithgareddau gwyddor gymunedol yn annog cymunedau lleol i gymryd rhan yn ymarferol.
Mae'r ymdrech hon yn adeiladu ar lwyddiant Prosiect Natur Trefol yr Amgueddfa Hanes Naturiol, y gwnaethom ei gefnogi hefyd. Fe drawsnewidiodd yr ardd pum erw o amgylch bwrlwm yr amgueddfa yn Llundain yn ofod gwyrdd hygyrch a bioamrywiol.
Yn y prosiect hwnnw, datblygodd gwyddonwyr a gwirfoddolwyr arferion gorau i gefnogi adferiad byd natur trefol a threialu ffyrdd o fonitro newidiadau mewn amgylcheddau trefi a dinasoedd. Mae'r gwersi hyn bellach yn cael eu rhannu'n eang er budd bioamrywiaeth ym mhob cwr o'r DU.
Dywedodd Tom Bevan, Pennaeth Rhaglenni Cenedlaethol yr Amgueddfa Hanes Naturiol, “Gan adeiladu ar lwyddiant trawsnewid ein gerddi ein hunain yn Llundain, bydd Museums for Nature yn cysylltu miliynau o bobl â byd natur ar raddfa fawr, gan greu rhwydwaith o fannau sy'n doreth o fyd natur ar draws safleoedd amgueddfeydd ar draws y DU.
“Fel un o’r gwledydd y byd lle mae natur wedi prinhau fwyaf, rhaid i’r DU weithredu. Drwy weithio gydag amgueddfeydd i drawsnewid eu mannau byd natur, gallwn rymuso pobl i weithredu, dwysau eu cysylltiad â'r byd naturiol, a mynd yn eiriolwyr dros y blaned.”