Achub canrif o hanes darlledu Cymru

Llun llonydd o fideo du a gwyn yn dangos criw o blant mewn gwisg Gymreig draddodiadol
O fomentau bob dydd i ddigwyddiadau tirnod, mae'r archif yn cofnodi degawdau o fywyd Cymru. Credyd: BBC.
Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru Archif BBC Cymru dan gadwraeth ac yn cysylltu cymunedau â'u treftadaeth glyweled.

Gyda'n grant o £5 miliwn, mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi creu cyfleuster storio pwrpasol ac wedi digideiddio tua 240,000 awr o gyfryngau radio a theledu. Mae'r deunydd yn cwmpasu bron i 100 mlynedd o ddarlledu ac yn cynnwys llawer o fomentau eiconig o hanes a diwylliant Cymru yn yr 20fed ganrif.

Bu i dros 1,500 o wirfoddolwyr cymunedol gymryd rhan yn y broses, gan ddatblygu gweithgareddau treftadaeth llawn dychymyg a chreadigol fel sesiynau adrodd straeon a ffotograffiaeth ac ennill sgiliau newydd.

Bu i fwy na 300 o ddigwyddiadau rhyngweithiol, gan gynnwys rhaglenni dysgu digidol i bobl ifanc, alluogi bobl ar draws Cymru i gysylltu’n uniongyrchol â’r deunydd. Hefyd, mae partneriaethau â Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru a Disability Arts Cymru wedi dod ag ystod ehangach o safbwyntiau i'r archif.

Mae'r ymdrech Cymru gyfan wedi achub dros 180,000 o eitemau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan gwmpasu'r Ail Ryfel Byd, campau chwaraeon eiconig, trychineb Aberfan, yr ymgyrch dros ddatganoli a streic y glowyr.

Mae hefyd wedi helpu i gofnodi a dathlu rhan bwysig o hunaniaeth genedlaethol. Mae'r ffilm yn olrhain datblygiad yr iaith Gymraeg trwy gynyrchiadau unigryw

awduron fel Dylan Thomas a Saunders Lewis a recordiadau o ddarllediadau cynnar yn y Gymraeg.

Mae pedwar ar ddeg o 'gorneli clipiau' wedi'u sefydlu mewn archifau sirol, gan roi mynediad am ddim i bobl at filoedd o oriau o ddeunydd o'r ardaloedd lleol hynny a, lle mae hawlfraint yn caniatáu, mae clipiau ar gael ar-lein.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...

Project data

Programme
Heritage Grants
Dyddiad a ddyfarnwyd
Lleoliad
Aberystwyth Morfa a Glais
Awdurdod Lleol
Ceredigion
Ceisydd
National Library of Wales
Rhoddir y wobr
£5156204