Nodiadau Cymorth Mynegi Diddordeb: Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd dau)

Nodiadau Cymorth Mynegi Diddordeb: Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd dau)

Mae'r canllaw ymgeisio yma ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy'n cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb (EOI) ar gyfer y Gronfa Rhwydweithiau Natur (rownd dau), ar gyfer grantiau rhwng £250,000 a £1 miliwn.

Tudalen wedi ei greu: 18 Awst 2022.

Mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r canllaw hwn i'ch helpu i gwblhau'r ffurflen EOI ar-lein ar gyfer grantiau o £250,000 i £1m. Os nad ydych yn cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb ni chewch wahoddiad i gyflwyno cais llawn.

Pwysig: Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn defnyddio'r un ffurflenni ar draws amrywiaeth o raglenni rydyn ni'n eu cyflawni. Wrth lenwi eich ffurflen gais, mae'n rhaid i chi ddilyn y canllawiau isod gan fod angen ateb rhai cwestiynau mewn ffordd wahanol ar gyfer y rhaglen hon. Ni ddylech ddefnyddio'r eiconau cymorth sydd wedi'u hymgorffori yn y ffurflen ar-lein gan nad ydynt yn ymwneud â'r cyllid hwn. 

Camau cyntaf

  1. Lansiwyd porth cais newydd ym mis Mawrth 2021. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ar y porth bydd angen i chi gofrestru cyn cyflwyno.
  2. Os na allwch sefydlu eich cyfrif neu'n wynebu unrhyw anawsterau technegol, cysylltwch â'r investment-service-support@heritagefund.org.uk.
  3. os yw eich sefydliad wedi cofrestru, dewiswch 'Dechreuwch Ddatganiad o Ddiddordeb / Mynegiant o Ddiddordeb' a dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer cwblhau'r ffurflen hon ar gyfer grantiau o £250,000 i £1m
  4. rhowch enw i'ch prosiect gyda'r rhagddodiad #NNF2
  5. Os byddwch yn penderfynu copïo a gludo testun o ddogfen word yn uniongyrchol i'ch ffurflen gais, adolygwch eich cais cyn cyflwyno a gwneud newidiadau lle bo angen sicrhau nad ydych yn fwy na'r terfynau cyfrif geiriau a nodir. Byddwch chi'n gallu arbed y ffurflen hon wrth i chi weithio arni.

Cwestiynau

Ydych chi wedi siarad ag unrhyw un yn y Gronfa Treftadaeth am eich syniad?

Os felly, dywedwch eu henw wrthym.

Disgrifiwch yr hyn y byddwch chi yn ei wneud yn ystod y prosiect

Rhowch wybodaeth ychwanegol am y canlynol:

  • A fydd eich prosiect yn gwella cyflwr a gwydnwch rhwydwaith safleoedd gwarchodedig Cymru, yn benodol cynefinoedd a rhywogaethau'r safleoedd?
  • A fydd eich prosiect yn gwella hygyrchedd i'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig?
  • A fydd eich prosiect yn gwella eich gwydnwch ac, felly, gallu'r dyfodol i reoli'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig?
  • Ble a sut fydd y gwaith yn digwydd?
  • Pa gymunedau fyddwch chi'n gweithio gyda nhw?

Terfyn geiriau 200.

Oes gennych chi deitl i'r prosiect?

Cofiwch gynnwys y rhagddodiad #NNF2 yn nheitl eich prosiect. Er enghraifft #NNF2 gwelliannau i warchodfa natur Mayfly

Pa ganlyniadau ydych chi am eu cyflawni?

Mae canlyniad yn ganlyniad i'r hyn mae eich prosiect yn ei wneud. Y canlyniadau gorfodol ar gyfer Rhwydweithiau Natur (rownd dau) yw:

  • bydd ystod ehangach o bobl yn cymryd rhan mewn treftadaeth
  • treftadaeth mewn gwell cyflwr

Ewch i'r afael â'r ddau ganlyniad hyn.

Bydd ystod ehangach o bobl yn cymryd rhan mewn treftadaeth

Esboniwch sut bydd eich cynulleidfa neu broffil gwirfoddolwr wedi newid yn ystod y prosiect. Gall hyn gynnwys:

  • gwelliannau i hygyrchedd safle
  • gweithio gyda sefydliadau eraill i gyrraedd cynulleidfaoedd nas caniateir
  • cefnogi unigolion newydd i'r sector trwy hyfforddi a phrentisiaethau

Dylech gynnwys tystiolaeth i gefnogi eich cynlluniau.

Bydd treftadaeth mewn gwell cyflwr

Esboniwch sut y bydd eich prosiect yn gwella cyflwr y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig, hyd yn oed os bydd hyn yn y dyfodol. Er enghraifft, disgrifiwch pa gamau penodol y byddwch yn eu cyflawni i wella'r ffordd y mae'r cynefinoedd a'r rhywogaethau yn cael eu rheoli.

Os nad yw eich prosiect yn digwydd yn uniongyrchol ar safle gwarchodedig, dangoswch y gwerth y bydd eich prosiect yn ei roi i'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yn y tymor hir.

Terfyn geiriau 200.

Dywedwch wrthym am dreftadaeth y prosiect

Ar gyfer y rhaglen hon, mae treftadaeth yn cyfeirio at y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig. Dylech esbonio sut mae eich prosiect yn cysylltu â'r rhwydwaith (er enghraifft, enwau safle penodol a chyfeiriadau grid a/neu bobl/sefydliadau sy'n eu rheoli) a pham ei bod yn bwysig (ar gyfer bioamrywiaeth/bywyd gwyllt a phobl).

Terfyn geiriau 100.

Beth yw'r angen am y prosiect yma?

Pa waith rydych chi wedi ei wneud sy'n dangos manteision posib y prosiect?

Terfyn geiriau 200.

Pa mor hir ydych chi'n meddwl y bydd y prosiect yn ei gymryd?

Dylai eich prosiect ddechrau ar ôl 1 Ebrill 2023. Mae'n rhaid ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2026.

Terfyn 50 gair.

Faint mae'r prosiect yn debygol o'i gostio?

Os ydych chi'n gwybod, dywedwch wrthym am y costau pwysicaf. Gellir amcangyfrif y costau hyn.

Terfyn geiriau 200.

Faint o arian ydych chi'n bwriadu ymgeisio amdano?

£ [rhowch gyfanswm]

Mae'n rhaid i chi wneud cais am rhwng £250,000 ac £1m. Os ydych angen llai o arian, defnyddiwch ein ffurflen gais a'r nodiadau cymorth ar gyfer grantiau o dan £250,000.

Pryd ydych chi'n debygol o gyflwyno cais am arian, os gofynnir i chi wneud hynny?

Nodwch fod y gronfa hon yn wahanol i'n grantiau safonol, felly nid oes angen ceisiadau cyfnod datblygu a dosbarthu ar wahân. Mae'n rhaid i'ch cais llawn gael ei gyflwyno erbyn 7 Rhagfyr 2022.

Terfyn 50 gair.