Diwylliannau ac atgofion
Ers 1994, rydym wedi dyfarnu dros £510miliwn i fwy na 24,600 o brosiectau treftadaeth gymunedol a diwylliannol ledled y DU.
Rydym yn darparu grantiau rhwng £10,000 a £10miliwn ar gyfer prosiectau treftadaeth i helpu gwarchod diwylliannau ac atgofion gwahanol gymunedau'r DU, o arferion traddodiadol i safbwyntiau unigryw pobl ar y gorffennol.
Beth rydym yn ei gefnogi?
Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol
Rydym yn ariannu prosiectau sy'n helpu i achub, dathlu a throsglwyddo traddodiadau, arferion, sgiliau a gwybodaeth.
Mae'r dreftadaeth ddiwylliannol hon hefyd yn cael ei galw'n dreftadaeth fyw. Mae hyn oherwydd ei fod yn newid yn gyson i ddiwallu anghenion pobl a chymunedau ac yn cael ei gadw'n fyw pan gaiff ei ymarfer neu ei berfformio.
Gall treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol gynnwys:
- crefftau
- arferion coginio
- natur, tir ac ysbrydolrwydd
- mynegiadau llafar
- celfyddydau perfformio
- arferion cymdeithasol
- campau a gemau
Mae ein canllaw arfer da'n cynnwys awgrymiadau ac ysbrydoliaeth ar gyfer rhedeg prosiectau treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol.
Atgofion
Rydym hefyd yn ariannu prosiectau sy'n dogfennu ac yn rhannu atgofion a phrofiadau pobl, gan sicrhau eu bod yn hygyrch nawr ac yn y dyfodol.
Gallai hyn gynnwys:
- cynnal sesiynau hel atgofion
- rhannu straeon cymunedol drwy arddangosfeydd neu ffilmiau
- cofnodi ac archifo hanesion llafar
Mae ein canllaw arfer da ar hanes llafar yn cynnwys cyngor ar gynllunio a rhedeg prosiectau hanes llafar. Mae hefyd yn esbonio sut mae'n wahanol i fathau eraill o brosiectau rhannu atgofion.
Syniadau am brosiect
Gall ein harian helpu pobl i:
- hyfforddi eraill mewn sgiliau a chrefftau traddodiadol, o waith waliau cerrig sych a gofaint i wehyddu basgedi a gwneud tecstilau
- archwilio tarddiad diwylliant, fel cerddoriaeth, theatr neu ddawns, a chreu perfformiadau sydd wedi'u dylanwadu gan arddulliau'r gorffennol
- rhannu hanes a hwyl dathliadau, gwyliau neu ddefodau gyda chynulleidfaoedd newydd, o gemau a choginio i garnifalau a ffeiriau
- ymchwilio i draddodiadau llafar, fel adrodd straeon neu dafodieithoedd lleol, a'u gwarchod
- cofnodi storïau a gwybodaeth draddodiadol neu eu trosglwyddo, fel rheoli coetiroedd neu feddyginiaethau cartref
- cofnodi ac archifo straeon pobl gyffredin trwy hanesion llafar, er enghraifft am dyfu i fyny, mudo neu waith
- ail-adrodd atgofion pobl am le neu ddigwyddiad, fel ysbyty arhosiad hir, streiciau'r glowyr neu'r mudiad pyn
Sut i gael arian
Mae ein rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar agor i geisiadau.