Diwylliannau ac atgofion

Diwylliannau ac atgofion

Two people are in a costume room and are looking down at a pattern on a cutting table. In the background are images of costumes, costumes on mannequins and rolls of fabric stacked on shelves
Credit: Carrie Davenport / Lyric Theatre.
Dyma'r traddodiadau, y sgiliau, yr wybodaeth a'r straeon sydd wedi'u trosglwyddo i ni dros y cenedlaethau.

Ers 1994, rydym wedi dyfarnu dros £510miliwn i fwy na 24,600 o brosiectau treftadaeth gymunedol a diwylliannol ledled y DU.

Rydym yn darparu grantiau rhwng £10,000 a £10miliwn ar gyfer prosiectau treftadaeth i helpu gwarchod diwylliannau ac atgofion gwahanol gymunedau'r DU, o arferion traddodiadol i safbwyntiau unigryw pobl ar y gorffennol.

Beth rydym yn ei gefnogi?

Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol

Rydym yn ariannu prosiectau sy'n helpu i achub, dathlu a throsglwyddo traddodiadau, arferion, sgiliau a gwybodaeth.

Mae'r dreftadaeth ddiwylliannol hon hefyd yn cael ei galw'n dreftadaeth fyw. Mae hyn oherwydd ei fod yn newid yn gyson i ddiwallu anghenion pobl a chymunedau ac yn cael ei gadw'n fyw pan gaiff ei ymarfer neu ei berfformio.

Gall treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol gynnwys:

  • crefftau
  • arferion coginio
  • natur, tir ac ysbrydolrwydd
  • mynegiadau llafar
  • celfyddydau perfformio
  • arferion cymdeithasol
  • campau a gemau

Mae ein canllaw arfer da'n cynnwys awgrymiadau ac ysbrydoliaeth ar gyfer rhedeg prosiectau treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol.

Atgofion

Rydym hefyd yn ariannu prosiectau sy'n dogfennu ac yn rhannu atgofion a phrofiadau pobl, gan sicrhau eu bod yn hygyrch nawr ac yn y dyfodol.

Gallai hyn gynnwys:

  • cynnal sesiynau hel atgofion
  • rhannu straeon cymunedol drwy arddangosfeydd neu ffilmiau
  • cofnodi ac archifo hanesion llafar

Mae ein canllaw arfer da ar hanes llafar yn cynnwys cyngor ar gynllunio a rhedeg prosiectau hanes llafar. Mae hefyd yn esbonio sut mae'n wahanol i fathau eraill o brosiectau rhannu atgofion.

Syniadau am brosiect

Gall ein harian helpu pobl i:

  • hyfforddi eraill mewn sgiliau a chrefftau traddodiadol, o waith waliau cerrig sych a gofaint i wehyddu basgedi a gwneud tecstilau
  • archwilio tarddiad diwylliant, fel cerddoriaeth, theatr neu ddawns, a chreu perfformiadau sydd wedi'u dylanwadu gan arddulliau'r gorffennol
  • rhannu hanes a hwyl dathliadau, gwyliau neu ddefodau gyda chynulleidfaoedd newydd, o gemau a choginio i garnifalau a ffeiriau
  • ymchwilio i draddodiadau llafar, fel adrodd straeon neu dafodieithoedd lleol, a'u gwarchod
  • cofnodi storïau a gwybodaeth draddodiadol neu eu trosglwyddo, fel rheoli coetiroedd neu feddyginiaethau cartref
  • cofnodi ac archifo straeon pobl gyffredin trwy hanesion llafar, er enghraifft am dyfu i fyny, mudo neu waith
  • ail-adrodd atgofion pobl am le neu ddigwyddiad, fel ysbyty arhosiad hir, streiciau'r glowyr neu'r mudiad pyn

Sut i gael arian

Mae ein rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar agor i geisiadau.