Cymorth strategol i addoldai: ein heffaith ddwy flynedd yn ddiweddarach
Ein nod oedd cynnig ariannu wedi'i dargedu i gyrff mantell a fyddai'n cael yr effaith ehangaf ar addoldai ar draws y DU. Mae'n un o bedair menter strategol bresennol a grëwyd fel rhan o'n strategaeth Treftadaeth 2033 sydd â'r nod o ymateb i faterion brys yn y sector, o ddiffyg sgiliau gweithlu a gwirfoddolwyr i anghenion atgyweirio cymhleth adeiladau rhestredig.
Ym mis Medi 2024, gwnaethom gyhoeddi y byddem yn buddsoddi o leiaf £15miliwn dros dair blynedd yn y prosiectau strategol hyn. Rydyn ni wedi rhagori ar hyn mewn dim ond dwy flynedd, gan ymrwymo ychydig dros £17m drwy wyth grant yn amrywio o gadwraeth hirdymor ar rannau mewnol eglwysi hanesyddol i ddod o hyd i ddyfodol newydd i gyn-addoldai.
[Mae’r rhain yn] brosiectau uchelgeisiol sydd â’r potensial i gael effaith gadarnhaol wirioneddol a pharhaol ar ddyfodol addoldai.
Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Mynnwch gip ar y prosiectau diweddaraf sy'n sicrhau dyfodol treftadaeth grefyddol
Mae Hafanau Heddwch, dan arweiniad Caring for God's Acre, mewn partneriaeth â'r Eglwys yng Nghymru, yn derbyn grant datblygu o £325,252 i gynnal chwe phrosiect peilot gan gynnwys dros 50 o fynwentydd. Byddai grant cyflwyno posibl o £3.7m i gyflwyno'r cynllun llawn yn sicrhau bod treftadaeth adeiledig, cynefinoedd naturiol a hanes cymdeithasol y mynwentydd hyn yng Nghymru'n cael eu diogelu am genedlaethau i ddod.
Dyfarnwyd dros £140,000 i The Foundation for Jewish Heritage i ddatblygu prosiect DU gyfan i gynnig cefnogaeth i synagogau hanesyddol sy'n wynebu aelodaethau gostyngol ac adnoddau cyfyngedig. Bydd y prosiect cychwynnol hwn yn profi ffyrdd o helpu pobl sy'n gofalu am synagogau hanesyddol mewn meysydd fel rheoli a chynnal a chadw adeiladau, adeiladu gallu ac addysg ac allgymorth.
Rydyn ni wedi dyfarnu bron i £550,000 mewn arian datblygu i Natural England ar gyfer ei brosiect Nature in Sacred Spaces, wrth baratoi ar gyfer grant cyflwyno posibl o £4.2m. Gan adeiladu ar lwyddiant a mewnwelediadau ei brosiect Bats in Churches a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol, bydd y cynllun pedair blynedd yn gweithio gyda thua 150 o adeiladau crefyddol ar draws Lloegr i ddarparu'r ymwybyddiaeth, yr adnoddau a'r sgiliau sydd eu hangen ar warcheidwaid i helpu eu hadeiladau a byd natur i ffynnu gyda'i gilydd.
Bu i ni gyhoeddi £4.68m yn flaenorol ar gyfer Cynllun Grantiau Cadwraeth Eglwys Loegr, sy'n cefnogi cadwraeth hirdymor gwydr lliw, paentiadau wal, clociau, clychau, paentiadau a henebion hanesyddol eglwysi. Mae Development Trust Association Scotland eisoes wedi cyflawni 18 mis o'i brosiect sy'n cefnogi cymunedau i ddod o hyd i ddyfodol newydd i gyn-addoldai.
Wedi'n llywio gan ddata, rydyn ni wedi newid ein dull o gefnogi addoldai
Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Rydyn ni wedi bod yn annog y sector i archwilio partneriaethau, ffyrdd arloesol o weithio ac ymyriadau strategol i fynd i’r afael â’r heriau hynny’n rhagweithiol. Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel, a hyd yma rydyn ni wedi cefnogi wyth prosiect uchelgeisiol sydd â’r potensial i gael effaith gadarnhaol wirioneddol a pharhaol ar ddyfodol addoldai a chefnogi ein gweledigaeth i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol.”
Ochr yn ochr â'r prosiectau strategol hyn, rydyn ni wedi parhau i ddyfarnu Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i achub a rhannu treftadaeth addoldai unigol. Yn y ddwy flynedd ers mis Ebrill 2024, rydyn ni wedi dyfarnu dros £145 miliwn i 225 o brosiectau addoldy (ac eithrio eglwysi cadeiriol).
Wedi'i seilio ar ymchwil i'r anghenion a'r heriau mewn gwahanol ardaloedd a gwledydd y DU, rydyn ni wedi targedu lleoliadau allweddol ac ailddatblygu arweiniad ac adnoddau i adnewyddu ein cefnogaeth i addoldai er mwyn gwneud ceisiadau cryf am ariannu.
Cael cefnogaeth ar gyfer eich addoldy
Rydyn ni eisiau tynnu adeiladau oddi ar gofrestrau 'mewn perygl' y DU, rhoi hwb i fioamrywiaeth, cefnogi'r gwirfoddolwyr sy'n gofalu am addoldai a helpu'r safleoedd hyn i gyrraedd eu potensial fel hybiau cymunedol a werthfawrogir.
Ni waeth beth yw'r grefydd, y ffydd neu'r enwad, gallwch wneud cais am ariannu gennym ni. Dechreuwch yn ein hyb addoldai i gael gwybod mwy am yr hyn rydyn ni'n ei gefnogi.