Archives Revealed

Archives Revealed

Gyda'n cefnogaeth ni, mae'r Archifau Cenedlaethol yn ehangu'r unig raglen grantiau benodedig yn y DU ar gyfer catalogio casgliadau archifol.

Rydym wedi buddsoddi £5miliwn yn y rhaglen £6m i helpu i wneud casgliadau archifau'n fwy hygyrch ac yn fwy cynrychioliadol o fywydau a safbwyntiau pobl ledled y DU, gan ddatgloi treftadaeth ar gyfer ymchwil a mwynhad. 

Fel partner blaenllaw yn Archives Revealed, rydym yn gweithio gyda'r Archifau Cenedlaethol, Ymddiriedolaeth Pilgrim a Sefydliad Wolfson i gynyddu graddfa prosiectau catalogio, ymchwil ac ennyn diddordeb y cyhoedd mewn archifau ledled y DU. 

Mwy o grantiau ar gyfer casgliadau archifau, o dreftadaeth ddiwydiannol i dreftadaeth bensaernïol

Mae ein hariannu ar gyfer Archives Revealed yn un o'n mentrau strategol, sy'n rhoi cefnogaeth wedi'i thargedu i fynd i'r afael â phroblemau a chyfleoedd treftadaeth hirhoedlog ar raddfa fawr. 

Mae grantiau a ddyfarnwyd yn ystod deunaw mis cyntaf ein cefnogaeth i'r rhaglen yn cynnwys: 

  • 50 Grant Cwmpasu gwerth cyfanswm o £150,000, fel gwerthuso 166,000 o ffeiliau a gedwir gan Historic Environment Scotland i gefnogi diogelu treftadaeth bensaernïol Yr Alban. 
  • 43 Grant Catalogio gwerth cyfanswm o £1.95m, gan gynnwys ariannu archifydd penodedig yn National Museums and Galleries of Northern Ireland i gatalogio archif cynlluniau llongau Harland & Wolff, dylunwyr y Titanic 
  • dau Grant Consortiwm gwerth cyfanswm o £295,000, fel Ymddiriedolaeth Vindolanda sy'n partneru â Phrifysgol Durham a North East Museums i gysylltu pobl â hanes Mur Hadrian trwy bum casgliad archifau 

Mynnwch gipolwg ar fwy o'r prosiectau a ariannwyd.

Adeiladu sector archifau mwy cydnerth

Yn ogystal â rowndiau grant niferus, sy'n dod i ben yn 2027, bydd Archives Revealed yn adeiladu cydnerthedd parhaol ar draws y sector archifau gyda rhaglen datblygu a hyfforddi. Bydd cyfleoedd gweithio mewn carfannau a mentora rhwng cymheiriaid yn meithrin perthnasoedd ac yn hyrwyddo rhannu sgiliau a gwybodaeth. 

Meddai Alistair Brown, Pennaeth Polisi Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau yn y Gronfa Treftadaeth: “Ar draws y DU, mae archifau, amgueddfeydd, elusennau a sefydliadau cymunedol yn cadw deunydd archifol sydd â’r pŵer i ddatgelu ein hanes a rennir – ond yn aml nid oes cofnod clir o’r hyn sydd yn yr archifau. 

"Bydd Archives Revealed yn sicrhau bod deunydd archifol o dros 150 o archifau'n cael ei nodi, ei gatalogio a'i rannu er mwyn i gymunedau gael mynediad at eu storïau a'u hadrodd. Mae ein buddsoddiad sylweddol yn Archives Revealed wedi galluogi newid sylweddol wrth fynd i'r afael â'r ôl-groniad o ddeunydd archifol heb ei gatalogio yn y DU – allwn ni ddim aros am weld pa storïau y bydd y rhaglen yn eu datgelu."   

Sut i wneud cais

I gael mwy o wybodaeth am Archives Revealed, gan gynnwys sut i wneud cais am grant, ewch i wefan yr Archifau Cenedlaethol.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...