Amdanom ni

Amdanom ni

Ni yw ariannwr treftadaeth mwyaf y DU.

Gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn dosbarthu grantiau rhwng £10,000 a £10miliwn i gefnogi prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â'u treftadaeth.

Rydym hefyd yn dosbarthu ariannu treftadaeth ar ran llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig.

Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o'r gorffennol yr ydych chi'n ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Mae deall, gwerthfawrogi a rhannu ein treftadaeth yn dod â phobl at ei gilydd, yn ysbrydoli balchder mewn lle ac yn cefnogi economïau lleol.

Ers i ni gael ein sefydlu ym 1994, rydym wedi dyfarnu £9.5biliwn o arian y Loteri Genedlaethol a chyllid arall i 53,000 o brosiectau ar draws y Deyrnas Unedig.

Ar ben hynny, rydym yn darparu arweinyddiaeth a chefnogaeth ar draws y sector treftadaeth ac yn eirioli dros dreftadaeth.

Cael gwybod sut i wneud cais am ariannu

Grym treftadaeth

Ein gweledigaeth yw gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol.

Credwn mewn nerth treftadaeth i danio'r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i greu cysylltiad â'r gorffennol.

Remote video URL

Arian y Loteri Genedlaethol

Mae ein gwaith yn bosibl diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Gyda phob tocyn sy’n cael ei brynu, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi arian ar gyfer achosion da. Rydym yn un o'r 12 corff sy'n dosbarthu'r arian hwn.

Rydym yn dyfarnu 20% o'r incwm Achosion Da a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Ers 1994, mae'r Loteri Genedlaethol wedi codi £50bn ar gyfer achosion da. 

Sefydliad

Mae gennym dimau sy'n gweithio ar draws Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon lle mae'r rhan fwyaf o'n penderfyniadau grant yn cael eu gwneud yn lleol, gan bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y cymunedau rydym yn eu hariannu.

Rydym yn cydweithio ag ystod eang o sefydliadau ledled y DU, gan gynnwys cyrff statudol, dosbarthwyr eraill y Loteri Genedlaethol ac elusennau, fel Historic England, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol.

Rydym yn gorff cyhoeddus anadrannol sy'n atebol i Senedd y DU drwy'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS). Mae ein penderfyniadau am geisiadau a pholisïau unigol yn gwbl annibynnol o lywodraeth.

Rhagoriaeth rhoi grantiau

Mae Swyddfa'r Cabinet wedi rhoi sgôr o 93.2% i ni yn erbyn Safon Swyddogaethol Llywodraeth y DU ar gyfer Rheoli Grantiau, sy'n ein rhoi yn y categori 'Gorau'.

Ein hanes

Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (CGDG) yw ein chwaer sefydliad. Wedi'i lansio gan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980, mae'n dosbarthu cymorth grant/cyllid gan lywodraeth i dreftadaeth y DU sydd mewn perygl o gael ei cholli.

Cawsom ein sefydlu ym 1994 fel Cronfa Dreftadaeth y Loteri, pan benodwyd CGDG a’i hymddiriedolwyr yn ddosbarthwr cyfran dreftadaeth arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da. Yn 2019 gwnaethom newid i fod yn Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol yw ein corff cyfreithiol ar gyfer gweinyddu a goruchwylio'r holl arian a freinir ynom.

Mwy am hanes CGDG

Mwy o wybodaeth

Yma gallwch archwilio’r cynllun cyflwyno tair blynedd cyntaf ar gyfer ein strategaeth 10 mlynedd, Treftadaeth 2033. Mae'n cynnwys manylion ein cyllidebau a'n blaenoriaethau, a newidiadau i'n rhaglenni ar gyfer ariannu gan y Loteri Genedlaethol.