Amdanom ni

Amdanom ni

Ysbrydoli, arwain ac ariannu treftadaeth y DU i greu newid cadarnhaol a pharhaol i bobl a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol.

Fideo yn Saesneg yn unig

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Ni yw'r ariannwr grant mwyaf ymroddedig i dreftadaeth y DU. Gyda chysylltiadau lleol ac  arbenigedd cenedlaethol, rydym yn wneuthurwr newid sy'n gweithio i wella a hyrwyddo gwerth treftadaeth i bawb. Ers ein sefydlu yn 1994, rydym wedi dyfarnu £8.8biliwn o'r Loteri Genedlaethol ac arian arall i fwy na 51,000 o brosiectau ledled y DU.

  • Fel Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, rydym yn dosbarthu grantiau'r Loteri Genedlaethol o £10,000 i £10miliwn a mwy, gan ariannu prosiectau sy'n cynnal ac yn trawsnewid treftadaeth y DU.
  • Fel y Gronfa Treftadaeth, rydym yn dosbarthu arian nad yw'n arian y loteri, gan gynnwys cyllid a benthyciadau cymorth grant/llywodraeth, i sefydliadau treftadaeth.
  • Rydym yn darparu arweinyddiaeth a chefnogaeth ar draws y sector treftadaeth, ac yn eiriol dros werth treftadaeth.

Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o'r gorffennol yr ydych yn ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Mae deall, gwerthfawrogi a rhannu ein treftadaeth yn dod â phobl at ei gilydd, yn ysbrydoli balchder mewn cymunedau ac yn hybu buddsoddiad mewn economïau lleol. Rydym yn cefnogi'r sector treftadaeth i gryfhau ei adferiad o bandemig y coronafeirws (COVID-19) ac adeiladu'n ôl ar gyfer newid cadarnhaol.

Arian y Loteri Genedlaethol

Gyda phob pryniant tocyn, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi arian at achosion da. Rydym yn un o 12 dosbarthwr y cyllid yma.

Ers 1994, mae'r Loteri Genedlaethol wedi codi mwy na £48biliwn ar gyfer achosion da. 

Sefydliad

Rydym yn gorff cyhoeddus di-adran sy'n atebol i'r Senedd drwy'r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).

Mae ein penderfyniadau am geisiadau a pholisïau unigol yn gwbl annibynnol o'r llywodraeth.

Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol yw ein corff cyfreithiol ar gyfer gweinyddu a goruchwylio'r holl arian a freiniwyd ynom. Fe'i sefydlwyd gan y Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol i weinyddu Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol.

Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol yw ein chwaer-sefydliad. Mae'n dosbarthu cyllid cymorth grant/llywodraeth i dreftadaeth y DU sydd mewn perygl o golli.

Darganfod mwy

Rydym yn bwriadu dosbarthu o leiaf £1.2bn o incwm y Loteri Genedlaethol rhwng 2019 a 2024. Mae ein Fframwaith Ariannu Strategol yn nodi ein gweledigaeth a'r egwyddorion sy'n llywio ein buddsoddiad dros y cyfnod hwn. Gwnaethom hefyd ailffocysu blaenoriaethau ar gyfer ein grantiau treftadaeth mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19).