Dod â Natur a Chymunedau at ei gilydd: Cysylltiadau Mawndiroedd Coll

Mae dyn sy'n gwisgo cot felen gyda backpack las yn sefyll ar ochr bryn wedi'i amgylchynu gan fryniau tonnog Cymreig
Bydd y prosiect hwn yn adfer ac yn gwella bron i 870 hectar o gynefinoedd â blaenoriaeth ar draws ucheldiroedd a dyffrynnoedd Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf. Credyd: Richard Pulman.
Bydd Cysylltiadau Mawndiroedd Coll yn adfer ac yn dathlu cynefinoedd ucheldirol pwysig wrth helpu pobl i ddarganfod, mwynhau ac ailgysylltu â threftadaeth naturiol a diwylliannol.

Cysylltiadau Mawndiroedd Coll yn brosiect partneriaeth sy'n cael ei arwain gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, a ariennir drwy ein Cysylltiadau Tirwedd: Menter Strategol.  

Gan weithio ar draws Cymoedd Afan, Castell-nedd, Cynon Uchaf a'r Rhondda, bydd y prosiect yn adfer ac yn gwella mawndiroedd, rhostiroedd a choetiroedd. 

Dros dair blynedd, bydd gwaith cadwraeth yn digwydd ar draws 16 safle, gan helpu i wella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt a chryfhau cysylltiadau rhwng ardaloedd naturiol pwysig. Bydd y prosiect hefyd yn cefnogi gwytnwch hinsawdd trwy adfer mawndir a gwella cynefinoedd. 

Ochr yn ochr â'r gwaith amgylcheddol, bydd pobl leol yn cysylltu â natur drwy gyfleoedd gwirfoddoli, dysgu yn yr awyr agored, gweithgareddau lles, hyfforddiant sgiliau treftadaeth, digwyddiadau cyhoeddus a phrosiectau creadigol. 

Mae grŵp o wirfoddolwyr mewn cae gordyfu yn gweithio gyda'i gilydd i dacluso'r ardal, torri coed yn ôl a thynnu chwyn
Wrth wraidd Lost Peatlands Connections mae rhaglen o wirfoddoli, addysg, gweithgareddau lles a digwyddiadau cymunedol sydd wedi'u cynllunio i helpu pobl i gysylltu â natur a threftadaeth. Credyd: Richard Pulman

Bydd adnoddau digidol, gan gynnwys ap fforiwr, profiadau realiti rhithwir a chyfres podlediad, yn rhannu treftadaeth naturiol a diwylliannol yr ardal gyda chynulleidfaoedd ehangach. Bydd llwybrau cerdded newydd a nodweddion dehongli hefyd yn helpu mwy o bobl i archwilio a mwynhau'r tirweddau ucheldirol hyn. 

Trwy ddod â chymunedau, sefydliadau a chynefinoedd at ei gilydd, nod y prosiect yw creu manteision parhaol i bobl a natur ar draws Cymoedd De Cymru. 

Meddai Richard Pulman, Rheolwr Prosiect, "Mae Cysylltiadau Mawndiroedd Coll yn helpu pobl i ailddarganfod y tirweddau, y dreftadaeth a'r straeon ar garreg eu drws. Dros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn adfer a gwella bron 870 hectar o gynefinoedd gwerthfawr wrth greu miloedd o gyfleoedd i bobl wirfoddoli, dysgu sgiliau newydd, gwella eu lles a chysylltu â'u treftadaeth leol. Mae ein nod yn syml: gadael y dirwedd a'n cymunedau mewn lle gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol." 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...

Project data

Programme
National Lottery Heritage Grants £250,000 to £10 million
Dyddiad a ddyfarnwyd
Lleoliad
Cymer and Glyncorrwg
Awdurdod Lleol
Neath Port Talbot
Ceisydd
Neath Port Talbot Council
Rhoddir y wobr
£2187478