Ymunwch â'n digwyddiadau am ddim i ddatblygu sgiliau digidol a dylanwadu ar bolisi

Ymunwch â'n digwyddiadau am ddim i ddatblygu sgiliau digidol a dylanwadu ar bolisi

Dyn du yn gwisgo clustffonau, edrych ar gyfrifiadur gliniadur a chymryd nodiadau mewn llyfr nodiadau
Cofrestrwch nawr i ddysgu mwy am gynllunio a chyflwyno prosiectau digidol, a siapio blaenoriaethau digidol ar gyfer llywodraethau ac arianwyr.

Oes angen help arnoch i gynllunio prosiect treftadaeth ddigidol neu gyngor ar sut i wneud digideiddio ar gyllideb fach? Ydych chi eisiau sicrhau bod y cyhoedd a chenedlaethau'r dyfodol yn cael y gwerth gorau o fuddsoddi mewn treftadaeth ddigidol?

Trwy gydol mis Mawrth rydyn ni'n cynnal ac yn cefnogi cyfres o ddigwyddiadau am ddim – ac yn cyhoeddi adnoddau newydd – a allai fod o help. 

Mae'r cyfan yn rhan o'n menter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth, y mai ei nod yw cynyddu sgiliau a hyder digidol ar draws sector treftadaeth y Deyrnas Unedig.

Fel ariannwr treftadaeth fwyaf y Deyrnas Unedig, mae gennym ddiddordeb brwd mewn sicrhau bod y prosiectau digideiddio yr ydym yn eu cefnogi'n rhai sydd wedi'u cynllunio'n dda gydag adnoddau priodol.

Josie Fraser, Pennaeth Polisi Digidol Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Cymerwch ran 

Cynhadledd Heritage Dot, 22 Mawrth

Ymunwch ag amrywiaeth o drafodaethau ar bopeth diwylliannol a digidol – o brofiadau ymwelwyr, hygyrchedd a chynwysoldeb, arloesedd ac entrepreneuriaeth, a thrwyddedu, i gasgliadau hybrid, adfywio a arweinir gan dreftadaeth, cyd-greu ac ymgysylltu â'r cyhoedd, defnyddio deallusrwydd artiffisial, a mwy. 

Rydym wedi creu partneriaeth gyda Phrifysgol Lincoln i ddarparu Heritage Dot. Bydd ein Prif Weithredwr, Eilish McGuinness yn cyflwyno araith agoriadol y gynhadledd, a bydd ein Pennaeth Polisi Digidol, Josie Fraser, yn siarad yn y sesiwn lawn derfynol.

Cynhadledd Heritage Dot

Cynllunydd a phecyn cymorth prosiectau digideiddio, 28 Mawrth, 11am–12pm

I gyd-fynd â chyhoeddi ein cynllunydd a phecyn cymorth prosiectau digideiddio newydd, ymunwch ag awduron yr adnodd – Dr Mathilde Pavis a Dr Andrea Wallace, o'r Ganolfan dros Ddiwylliant Gwyddoniaeth a'r Gyfraith – i ddysgu mwy am: 

  • ddefnyddio'r cynllunydd a'r pecyn cymorth i droi eich gweledigaeth yn gynllun diffiniedig a gwneud cais am ariannu
  • camau allweddol digideiddio
  • manteisio ar adnoddau am ddim

Cynllunydd a phecyn cymorth prosiectau digideiddio.

Digideiddio ar gyllideb fach, 29 Mawrth, 2–3pm

I ddathlu cyhoeddi ein canllaw newydd i brosiectau digideiddio cost isel, ymunwch ag awduron y canllaw, Dr Andrea Wallace a Dr Mathilde Pavis, i ddysgu mwy am: 

  • gamau allweddol digideiddio ar gyllideb fach
  • manteisio ar adnoddau am ddim
  • enghreifftiau ysbrydoledig o brosiectau digideiddio cost isel eraill

Digideiddio ar gyllideb fach

Digwyddiad arweinyddiaeth ddigideiddio, 31 Mawrth, 12–5pm

Rydym yn dod â phrif sefydliadau ac arbenigwyr digideiddio'r Deyrnas Unedig ynghyd i drafod buddsoddi mewn treftadaeth ddigidol. Digwyddiad wyneb yn wyneb fydd hwn yn Hamilton House, Llundain ac fe fydd ar-lein hefyd.

Ar draws tri phanel, bydd y mynychwyr yn trafod ac yn pleidleisio ar yr hyn, yn eu barn nhw, yw'r ystyriaethau a'r camau pwysicaf i lywodraethau, arianwyr a sefydliadau treftadaeth bach ac wedi'u harwain gan wirfoddolwyr.

Digwyddiad arweinyddiaeth ddigideiddio

Ein hymrwymiad

Dywedodd Josie Fraser, Pennaeth Polisi Digidol y Gronfa Treftadaeth: “Fel ariannwr treftadaeth fwyaf y Deyrnas Unedig, mae gennym ddiddordeb brwd mewn sicrhau bod y prosiectau digideiddio yr ydym yn eu cefnogi'n rhai sydd wedi'u cynllunio'n dda gydag adnoddau priodol. 

“Rwy'n falch iawn y gallwn ni gyfrannu at y cyd-drafodaethau ynghylch mwyafu'r budd i'r cyhoedd gymaint â phosib o ganlyniad i fuddsoddi mewn digideiddio treftadaeth y DU a sicrhau bod casgliadau wedi'u digideiddio'n cynrychioli amrywiaeth y DU.”

Cael gwybod mwy am ein menter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth ac ymchwilio i sut y gallwn gefnogi eich prosiect treftadaeth ddigidol.  

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...