Rhannwch beth mae ariannu i dreftadaeth ac achosion da eraill yn ei olygu i chi

Rhannwch beth mae ariannu i dreftadaeth ac achosion da eraill yn ei olygu i chi

Menyw a dau o blant yn edrych ar wrth dreftadaeth ar fwrdd amgueddfa.
Teulu yn Oriel Genedlaethol Amgueddfa Hanes St Fagans, Cymru.
Mae llywodraeth y DU eisiau clywed oddi wrthych am sut mae arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn cael ei fuddsoddi.

Diweddariad diwethaf: 22 Gorffennaf 2026

Y prynhawn 'ma (1 Gorffennaf 2026) cyhoeddodd llywodraeth y DU yr hyn a elwir yn 'gais am dystiolaeth’. Mae'n ceisio barn pobl ar yr hyn y dylid ei ariannu ag arian a godir at achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Bydd Achosion Da’r Loteri Genedlaethol: Ariannu Beth Sy'n Bwysig i Chi ar agor am 12 wythnos a'i nod yw deall blaenoriaethau ac anghenion pobl a chymunedau ymhob cwr o'r DU.

Mae'n gyfle gwerthfawr i ddathlu effaith ariannu gan y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys ar gyfer treftadaeth y DU. Gallwch rannu eich barn a'ch profiadau drwy'r arolwg ar-lein fel unigolyn neu ar ran eich sefydliad.

Ariannu i bawb ac i bob lle ar draws y DU

Wyddech chi fod chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi codi dros £53biliwn ar gyfer achosion da ers 1994?

Rydyn ni wedi llwyddo i ddosbarthu £9.2bn o hynny i 48,900 o brosiectau treftadaeth mawr a bach – sy'n cyfateb i £133 wedi'i fuddsoddi mewn treftadaeth ar gyfer pob person yn y DU. O warchod yr amgylchedd naturiol, cefnogi amgueddfeydd a chasgliadau, i achub adeiladau hanesyddol a'n hetifeddiaeth ddiwydiannol, a diogelu straeon a thraddodiadau lleol – mae arian achosion da ar gyfer treftadaeth wedi cael effaith anhygoel ar bobl a chymunedau ym mhob ardal cod post yn y DU. 

Mynnwch gip ar y prosiectau hyn a gweld beth rydyn ni wedi'i ariannu yn eich ardal chi neu'ch hoff ran o'r sector treftadaeth yn adran Prosiectau rydyn ni wedi'u hariannu ein gwefan.

Gweithio gyda chi i ddiogelu a gwarchod eich treftadaeth

Rydyn ni'n croesawu’r cyfle i gyfrannu at y cais am dystiolaeth hwn ac yn eich annog chi i gymryd rhan hefyd. Mae amcanion llywodraeth y DU – sef ariannu’r hyn sy’n bwysig i bobl, grymuso cymunedau i wneud penderfyniadau a symleiddio mynediad at ariannu – yn adlewyrchu ein hymrwymiad ein hunain i alluogi pobl a chymunedau i ddiogelu a gwarchod y pethau o’r gorffennol y maen nhw'n eu gwerthfawrogi ac eisiau eu trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.

Tirwedd gyda bryniau gwyrdd a llyn ar waelod y rhain.
Parc Cenedlaethol y Cairngorms, Yr Alban.

Dywedodd Simon Thurley, Cadeirydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gallwn ni weithio gyda chymunedau ar draws y DU, gan ariannu prosiectau hirdymor, uchelgeisiol ac wedi'u harwain yn lleol sy’n meithrin balchder bro ac yn cyflawni newid parhaol. O'n buddsoddiad hollbwysig mewn tirweddau prydferth fel y Cairngorms a Bryniau Swydd Amwythig, i'n cefnogaeth i drawsnewid trefi a dinasoedd ymhob cwr o'r DU, i fuddsoddiadau fel Amgueddfa Manceinion, prosiect Ieuenctid Grimsby, Amgueddfa Sain Ffagan yng Nghymru a Marchnad San Siôr yn Belfast, rydyn ni'n gwybod sut mae ariannu treftadaeth yn dod â chymunedau ynghyd i ddathlu a gwarchod y gorffennol, ac ar yr un pryd ysgogi adfywio, cefnogi adferiad byd natur a chreu sgiliau a chyfleoedd. 

“Mae’r cais hwn am dystiolaeth yn cynnig cyfle i glywed yn uniongyrchol gan y cyhoedd am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw o ran yr hyn y mae arian y Loteri Genedlaethol yn ei gefnogi, yn ogystal â chan bawb sy’n ymwneud â dyfarnu a buddsoddi ariannu ar sut y gallwn wneud hyn yn y ffordd orau bosibl. 

“Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod ein hariannu'n parhau i gael effaith gadarnhaol a’n bod yn gwneud ein penderfyniadau ariannu gyda mewnwelediad cryf i’r hyn sydd fwyaf pwysig i gymunedau lleol.” 

Rhannwch eich barn a'ch profiadau

Mynnwch fwy o wybodaeth a dweud eich dweud yng nghais am dystiolaeth Achosion Da'r Loteri Genedlaethol: Ariannu beth sy'n bwysig i chi. Gellir cyflwyno ymateb tan hanner dydd ar 23 Medi 2026.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...