Hafau cynhesach a gaeafau gwlypach yn gorfodi newid mewn parciau a gerddi hanesyddol
Er bod gan y DU dros 2,800 o dirweddau, parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig, cyfyngedig yw'r arweiniad sydd ar gael i'r rhai sy'n gofalu amdanynt ar sut i addasu a pharatoi ar gyfer ein hinsawdd sy'n newid.
Fe weithion ni gyda Historic England i ddeall effaith yr argyfwng hinsawdd ar y lleoedd hyn. Hon yw'r ymchwil gyntaf o'i math. Bydd y canlyniadau'n helpu i lywio ein dull yn y dyfodol o gefnogi treftadaeth naturiol y DU drwy Treftadaeth 2033.
Heb gefnogaeth a chyngor brys, bydd llawer o'r tirweddau gwerthfawr hyn yn dioddef ac yn newid y tu hwnt i adnabyddiaeth.
Dywedodd Drew Bennellick, Pennaeth Polisi Tir, Môr a Natur, Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Yr hyn a ddangosodd ein hymchwil
Clywsom gan fwy na 100 o gyfranogwyr drwy gyfweliadau a'n harolwg ar-lein. Dywedon nhw wrthym fod yr argyfwng hinsawdd yn effeithio ar reolaeth o ddydd i ddydd ar draws y rhan fwyaf o safleoedd.
Mae hafau sychach a gaeafau gwlypach yn eu gorfodi i addasu.
Dywedodd Drew Bennellick, ein Pennaeth Polisi Tir, Môr a Natur: “Mae'n amlwg bod ein parciau, gerddi a mynwentydd hanesyddol yn wynebu heriau digynsail oherwydd newid hinsawdd, a heb gefnogaeth a chyngor brys, bydd llawer o'r tirweddau gwerthfawr hyn yn dioddef ac yn newid y tu hwnt i adnabyddiaeth."
Sut mae'r argyfwng hinsawdd yn effeithio ar barciau a gerddi hanesyddol
Mae hafau mwy cynnes a sych yn creu straen ar blanhigion a phriddoedd, gan achosi colledion coed a llwyni aeddfed mewn ardaloedd nad ydynt yn hanesyddol yn cael sychder. Mae dyfrio â llaw yn rhoi galw mawr ar amser staff a gall storio dŵr fod yn broblem hefyd.
Mae glaw mwy dwys bellach yn achosi llifogydd mewn ardaloedd nad ydynt wedi cael llifogydd o'r blaen. Mae'n llethu systemau draenio hanesyddol a ddyluniwyd ar gyfer glaw mwy cyson. Mae priddoedd dirlawn yn atal gwaith rheolaidd, ac mae llwybrau, llethrau a glannau afonydd yn erydu.
Mae patrymau stormydd sy'n newid yn achosi colledion coed ar raddfa fawr, o ddwsinau mewn gerddi llai i filoedd ar ystadau mawr. Mae coed wedi'u dadwreiddio bellach yn fwy cyffredin oherwydd priddoedd dirlawn. Mae safleoedd yn cael eu gorfodi i gau er diogelwch y cyhoedd, sy'n effeithio ar incwm a chysylltiadau ag ymwelwyr.
Sut mae safleoedd treftadaeth naturiol yn ymateb
Mae parciau a gerddi hanesyddol yn addasu eu plannu i gynnwys rhywogaethau sy'n fwy gwydn yn erbyn yr hinsawdd, yn aml o ranbarthau cynhesach neu sychach. Maen nhw'n gwella effeithlonrwydd trwy gasglu dŵr glaw ac ailddefnyddio tanciau hanesyddol i'w storio. Mae llawer o safleoedd yn defnyddio tomwellt a deunyddiau organig i gynnal lleithder ac iechyd y pridd ac yn plannu coetiroedd newydd i gynyddu cadw dŵr.
Mae safleoedd hefyd yn uwchraddio llwybrau ac yn gosod draeniau newydd i ymdopi â glaw trwm, yn ogystal ag ailddylunio tirweddau i ymdopi â dŵr llifogydd. Mae timau hefyd yn camu'n ôl o dasgau llafurddwys fel gosod gwelyau ar raddfa fawr ac yn ailddyrannu'r amser hwnnw i adsefydlu ar ôl stormydd a monitro'r hinsawdd. Hefyd, maen nhw'n buddsoddi mewn hyfforddiant sy'n canolbwyntio ar addasu i'r hinsawdd.
Dywedodd Rosie Fyles, Pennaeth Gerddi, Chiswick House and Gardens: “Mae bygythiad newid hinsawdd i dirwedd 300 mlwydd oed Chiswick yno i bawb ei weld yn ystod sychder; mae'r gerddi wedi'u llosgi. Y gwir amdani yw bod ein gallu ni fel garddwyr i leihau'r effeithiau negyddol, yn enwedig ar ein 1800 o goed, yn eithaf cyfyngedig.
"Fy rôl i nawr yw cynllunio'n ddeallus a gwneud y penderfyniadau gwybodus cywir i baratoi ar gyfer y 300 mlynedd nesaf, gan gywain cymaint o gyngor ac adnoddau ag y gallaf i wneud hynny.”
Pa gefnogaeth sydd ei hangen fwyaf
Gofynnodd mwy na hanner yr ymatebwyr i'n harolwg am wybodaeth fwy priodol a hygyrch am yr argyfwng hinsawdd, gan gynnwys arweiniad ar sut i gynnal asesiad risg newid hinsawdd ar gyfer parc a gardd.
Dywedodd bron pawb a gafodd eu cyfweld fod ariannu'n hanfodol i wneud gwahaniaeth ac mai diffyg adnoddau a chapasiti staff yw'r prif reswm dros beidio â gweithredu newidiadau.
Byddai'r rhai sy'n gofalu am barciau a gerddi hanesyddol hefyd yn elwa o wybodaeth fwy canolog, rhwydweithio â chymheiriaid a hyfforddiant parhaus.
Dywedodd Erika Diaz Petersen, Prif Ymgynghorydd Tirweddau Cenedlaethol, Historic England: "Mae'r ymchwil newydd hon yn amlygu'r heriau y mae perchnogion yn eu hwynebu wrth reoli safleoedd yn wyneb risgiau fel llifogydd, sychder, gwyntoedd cryfion a phlâu a chlefydau, a'r angen am gyngor a chefnogaeth wrth iddyn nhw weithio i sicrhau'r lleoedd gwerthfawr hyn ar gyfer y dyfodol.”
Darllenwch yr adroddiad llawn
Archwiliwch ganfyddiadau llawn ein hymchwil, gan gynnwys argymhellion ar ba ffyrdd eraill y gallai fod angen i'r sector addasu.
Sut rydyn ni'n cefnogi parciau a gerddi hanesyddol
Ers 1994 rydyn ni wedi dyfarnu dros £2.3 biliwn i 5,300 o brosiectau tir, môr a natur mewn trefi a dinasoedd ac ar draws cymunedau gwledig ac arfordirol ym mhob cwr o'r DU.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud mwy i helpu diogelu'r amgylchedd trwy eich prosiect treftadaeth, mynnwch gip ar ein canllaw arfer da cynaladwyedd amgylcheddol.