Deall effaith newid hinsawdd ar barciau, gerddi a mynwentydd hanesyddol
| Atodiad | Maint |
|---|---|
| 582.44 KB | |
| 3.09 MB |
Yr ymchwil gyntaf o'i math
Gofynnwyd i berchnogion a rheolwyr parciau, gerddi a mynwentydd hanesyddol sut mae'r lleoedd hyn yn cael eu rheoli a'u cynnal a a chadw mewn ymateb i heriau hinsawdd. Dyma'r ymchwil gyntaf i ddangos sut mae'r 2,700 a mwy o safleoedd treftadaeth naturiol cofrestredig hyn yn ymdopi.
Arweiniodd Bramhill Design a Sarah Rutherford Historic Environment Ltd y gwaith, a oedd yn cynnwys adolygiad llenyddiaeth, cyfweliadau â 23 o reolwyr safle, perchnogion, curaduron a phrif arddwyr, ac arolwg ar-lein a ildiodd ymatebion gan 79 o safleoedd.
Mae eu dadansoddiad yn archwilio arfer cyfredol wrth ymateb i'r difrod a'r bygythiadau a achosir gan yr argyfwng hinsawdd.
Yr hyn a ddysgom
Canfu ein hymchwil, er bod enghreifftiau unigol o arfer da, fod angen gwaith i sicrhau bod penderfyniadau rheoli'n cael eu gwneud yn gyflym ac yn gyson er mwyn gwarchod y dreftadaeth fwyaf arwyddocaol a bregus.
Yr angen mwyaf hanfodol sydd gan reolwyr treftadaeth yw arweiniad ar addasu i'r hinsawdd, a hynny wedi'i ddylunio'n benodol ar gyfer parciau, gerddi a mynwentydd hanesyddol.
Roedd y canlynol ymhlith y canfyddiadau allweddol eraill:
- Mae amodau hinsawdd yn fwy difrifol ac yn llai rhagweladwy, gan effeithio ar rannau o'r DU mewn gwahanol ffyrdd. Er enghraifft, mae cyfnodau sych yn hirach ac yn galetach yn ne-ddwyrain Lloegr, ac mae glaw yn tueddu i fod yn fwy dwys ac anrhagweladwy mewn ardaloedd gogleddol.
- Mae plâu a chlefydau'n ffynnu yn yr amodau mwynach a gwlypach, gan arwain weithiau at golli grwpiau cyfan o blanhigion.
- Mae ymatebion rheolwyr yn anghyson, gan ddibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael i berchnogion a rheolwyr. Ymhlith y rhwystrau i arfer cyson mae:
- diffyg ariannu, yn enwedig ar gyfer gwaith cyfalaf fel draenio, rheoli llifogydd ac ailblannu
- diffyg capasiti staff wrth i faint y gwaith adweithiol gynyddu, gan adael ychydig iawn o amser ar gyfer meddwl strategol a blaengynllunio
- arweiniad bratiog a generig a diffyg cyngor a hyfforddiant cynllunio rheoli cydgysylltiedig
Nododd yr ymchwil hefyd gyfleoedd i:
- symud tuag at reolaeth llai dwys, er enghraifft, gadael i laswellt dyfu'n hir lle bo'n briodol
- ymgysylltu'n fwy â'r cyhoedd o ran materion amgylcheddol
- cynyddu ariannu ar gyfer gwaith fel rheoli dŵr, lleihau carbon ac atebion sy'n seiliedig ar natur
Y camau nesaf
Byddwn yn cydweithio â Historic England a rhanddeiliaid ar draws y sector treftadaeth naturiol i ymateb i argymhellion yr adroddiad. Ein cam cyntaf fydd rhannu astudiaethau achos o arferion rheoli da.
Mwy o wybodaeth
Darllenwch y crynodeb gweithredol a'r adroddiad llawn yn y ffeiliau PDF sydd ynghlwm wrth y dudalen hon i archwilio'r holl ganfyddiadau. Bydd yr adroddiad llawn ar gael yn Gymraeg yn fuan.
Dysgwch am ein cefnogaeth dros brosiectau gerddi hanesyddol, parciau a mynwentydd ar draws y DU, gan gynnwys ein menter strategol Trefi a Dinasoedd Natur.
Ein gwaith ymchwil a gwerthuso
Rydym yn gwneud ymchwil yn rheolaidd i ddarganfod beth sy'n digwydd yn y sector treftadaeth, ac yn gwerthuso ein gwaith i ddeall yn well y newid yr ydym yn ei wneud. Darllen mwy o'n mewnwelediad.