Dewch yn un o'n hymgynghorwyr i gefnogi treftadaeth ar draws y DU

Dewch yn un o'n hymgynghorwyr i gefnogi treftadaeth ar draws y DU

A group of people on their knees, digging in a trench in the grass
Rydym yn chwilio am ymgynghorwyr arbenigol i ymuno â'n Fframwaith Cofrestr Gwasanaethau Cefnogi (RoSS) newydd o fis Ebrill 2024.

Mae ein hymgynghorwyr RoSS yn chwarae rhan bwysig yn ein gwaith, gan ddarparu cyngor arbenigol, monitro prosiectau a mentora grantïon a darpar ymgeiswyr. Mae ganddynt amrywiaeth o wybodaeth, sgiliau a phrofiad.

Mae ein ymgynghorwyr RoSS yn hanfodol i'n llwyddiant a byddant yn chwarae rôl allweddol wrth helpu ni i gyflawni ein huchelgeisiau.

Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Gwneud gwahaniaeth

Mae ymgynghorwyr RoSS yn cael effaith arwyddocaol ar dreftadaeth y DU trwy gefnogi a monitro ein prosiectau. Ni yw ariannwr mwyaf treftadaeth y DU ac rydym wedi dyfarnu £8.8biliwn i fwy na 51,000 o brosiectau ers 1994.

Fel ymgynghorydd, byddwch yn darganfod amrywiaeth o dreftadaeth anhygoel, o dirweddau syfrdanol a thirnodau eiconig i drysorau lleol ac atgofion cymunedol. Byddwch hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau, o grwpiau cymunedol i awdurdodau lleol ac elusennau cenedlaethol.

Am beth ydyn ni'n chwilio?

Rydym am benodi ymgynghorwyr a all ddefnyddio eu harbenigedd i ddarparu gwasanaethau mewn unrhyw un o'r meysydd canlynol:

  • rheoli prosiectau adeiladwaith treftadaeth a diwylliant
  • datblygu a rheoli busnesau
  • ennyn diddordeb y cyhoedd mewn treftadaeth
  • yr amgylchedd naturiol

Fel ariannwr DU gyfan, mae'n rhaid i'n ymgynghorwyr fedru cefnogi prosiectau yng Nghymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a phob ardal yn Lloegr.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, gan gynnwys y rhai sydd â Chymraeg fel iaith gyntaf neu ail iaith.

Hanfodol i'n llwyddiant

Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr y Gronfa Treftadaeth: “Fel ein llygaid a'n clustiau ar lawr gwlad, mae ein hymgynghorwyr RoSS yn chwarae rôl hollbwysig wrth helpu ni i ddiogelu a chryfhau treftadaeth drysoredig y DU.

“Maen nhw'n defnyddio eu sgiliau a'u gwybodaeth arbenigol i gefnogi ein prosiectau, gan helpu nhw i fod yn flaengar a'u llywio tuag at sicrhau'r canlyniadau gorau posib i dreftadaeth, pobl a chymunedau.

“Mae ein hymgynghorwyr RoSS yn hanfodol i'n llwyddiant a byddant yn chwarae rôl allweddol wrth helpu ni i gyflawni ein huchelgeisiau - gan gynnwys cyflwyno ein strategaeth Treftadaeth 2033 a'n gweledigaeth o werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth ac i'w chynnal ar gyfer pawb yn y dyfodol."

Sut i wneud cais

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...