Chwe phrosiect ar restr fer Prosiect Cynaliadwy y Flwyddyn 2026
Mae'r prosiectau hyn wedi cyrraedd y rhestr fer oherwydd eu bod yn canolbwyntio ar gynaladwyedd amgylcheddol, neu'n darparu ffyrdd ysbrydoledig a hawdd eu hatgynhyrchu o amddiffyn a meithrin cysylltiadau â'n hamgylchedd naturiol.
Dywedodd Alistair Brown, ein Pennaeth Polisi Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau: “O adfer adeilad hanesyddol canrifoedd oed yn gynaliadwy i ysbrydoli cynulleidfaoedd i weithredu dros adferiad byd natur, roedd y cyflwyniadau eleni yn arbennig o gryf ac yn dangos faint mae'r sector yn ymgysylltu â materion amgylcheddol.”
Pwy gyrhaeddodd y rhestr fer
Harmonising Heritage and Sustainability at Lambeth Palace
Palas Lambeth yw cartref 800 mlwydd oed Archesgob Caergaint. Trawsnewidiodd ei brosiect adfer diweddar y safle mewn ffordd gynaliadwy gan sicrhau bod cyfrifoldeb amgylcheddol yn cael ei ystyried ym mhob penderfyniad, a hynny i gyd wrth ddiogelu cyfanrwydd hanesyddol. Roedd hyn yn cynnwys tynnu boeleri nwy a gosod canolfan ynni a bwerir gan dri phwmp gwres ffynhonnell aer a phaneli ffotofoltäig.
Dyma'r adeilad rhestredig Gradd I hynaf i gyflawni gradd 'rhagorol' BREEAM – cyflawniad mawr o ran dylunio cynaliadwy.
Rewrite the Future at Wardlaw Museum, University of St Andrews
Roedd gan Rewrite the Future ddau nod: dod o hyd i ffordd fwy cynaliadwy o gynhyrchu arddangosfeydd ac annog ymwelwyr i wneud newidiadau i’w ffordd o fyw.
Defnyddiodd xanita – deunydd cryf tebyg i gardbord y gellir ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu – i adeiladu waliau, cadeiriau, paneli testun a rhannau eraill o’r arddangosfa. Llwyddodd y prosiect i gyflawni gostyngiad 75% mewn costau carbon, lleihau ei wastraff tirlenwi o sgip i fag bin ac annog hanner yr ymwelwyr i wneud newid cynaliadwy yn eu bywydau.
Fixing Our Broken Planet at Natural History Museum
Mae'r oriel newydd hon a arweinir gan wyddoniaeth yn archwilio sut mae bwyd, ynni, deunyddiau ac iechyd i gyd yn gysylltiedig ac yn rhannu atebion ymarferol, sy'n seiliedig ar natur, y gall cynulleidfaoedd eu defnyddio heddiw.
Mae'r Amgueddfa Hanes Naturiol hefyd yn rhannu cynnwys o'r oriel, yn darparu mynediad i'w gwyddonwyr ac yn cyhoeddi adnoddau addasadwy ar gyfer amgueddfeydd ac ymarferwyr diwylliannol ar draws y DU.
Green Pledge Project at Gloucestershire Archives
Helpodd y prosiect dwy flynedd hwn i roi hwb i gasgliadau'r archif a gwella ôl troed carbon ei hadeilad, gan rannu stori etifeddiaeth amgylcheddol Swydd Gaerloyw ac annog pobl i gymryd camau cadarnhaol o ran yr hinsawdd.
Gosododd baneli solar a gorsafoedd gwefru cerbydau trydan ac anogodd fioamrywiaeth yn y maes parcio gyda choed newydd a phlanhigion eraill. Rhannodd wybodaeth a chyngor gyda 7,435 o bobl drwy ddigwyddiadau a sgyrsiau a chyrhaeddodd dros 61,000 o bobl gyda'i arddangosfeydd teithiol. A thrwy’r ymgysylltiad cymunedol hwn, cynhyrchwyd 175 o gasgliadau amgylcheddol newydd.
Power Hall: The Andrew Law Gallery at Science and Industry Museum
Mae'r Amgueddfa Gwyddoniaeth a Diwydiant wedi datgarboneiddio ar draws y Neuadd y Pŵer, gan ddefnyddio technoleg werdd sy'n ffurfio rhan o brofiad yr ymwelwyr, i wresogi ei mannau hanesyddol.
Mae hyn yn cynnwys ffenestri, drysau a goleuadau to sy'n effeithlon o ran ynni a rhwydwaith gwres ffynhonnell dŵr newydd i arbed 515 tunnell o garbon y flwyddyn. Mae dehongliadau newydd, rhaglenni i ysgolion a gweithgareddau sgiliau'n gwahodd ymwelwyr i ailystyried hanes diwydiannol ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr gwyrdd.
Wild Uplands at Bradford 2025
Roedd Wild Uplands yn arddangosfa awyr agored Dinas Diwylliant y DU Bradford 2025 ar rostiroedd Swydd Efrog gydag ymagwedd 'gadael dim olion'. Creodd artistiaid osodiadau celf cyhoeddus ar raddfa fawr wedi'u hysbrydoli gan wydnwch natur, bywyd planhigion lleol a'r diwydiant gwlân.
Osgôdd y lleoliadau gynefinoedd sensitif, gwnaed y gosodiad y tu allan i’r tymor bridio a defnyddiwyd batris cludadwy yn lle generaduron petrol. Anogodd partneriaeth gyda You.Smart.Thing deithio cynaliadwy, gan ganiatáu i ymwelwyr gymharu cywerthoedd carbon deuocsid.
Pryd fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi
O'r rhestr fer, cyhoeddir hyd at ddau enillydd yn y Seremoni Wobrwyo yn Llundain ym mis Mai.
Gweler y rhestr lawn o brosiectau ar y rhestr fer ar gyfer y Gwobrau Treftadaeth Amgueddfeydd.
Yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan y prosiectau a ariannwn
Er mwyn helpu sicrhau bod eich prosiect yn amddiffyn ein byd naturiol, darllenwch ein canllawiau arfer da ar gynaladwyedd amgylcheddol.
Oes gennych ddiddordeb mewn mwy o brosiectau sy'n cael effaith gadarnhaol ar yr hinsawdd? Clywch gan enillwyr y llynedd, Stourbridge Glass Museum a Railworld Wildlife Haven.