Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer Treftadaeth 2033
| Atodiad | Maint |
|---|---|
| 240.93 KB |
Fel corff cyhoeddus, rhaid i ni gydymffurfio â rhwymedigaethau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus fel y'u hamlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, sy'n berthnasol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Rhaid i ni gydymffurfio hefyd ag Adran 75 o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998, sy'n nodi y dylai awdurdodau cyhoeddus roi sylw dyledus i'r angen am hyrwyddo cyfle cyfartal a hyrwyddo cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol gredoau crefyddol, barn wleidyddol neu grwpiau hiliol.
Rydym wedi'n hymrwymo felly i hyrwyddo cyfle cyfartal a sicrhau nad yw ein rhaglenni ariannu, ein mentrau, ein strategaethau, ein polisïau a'n prosesau gwneud penderfyniadau'n cael unrhyw effeithiau andwyol ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig.
Treftadaeth 2033
I gyflawni'r ymrwymiad hwn, rydym wedi cynnal asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb o Treftadaeth 2033 a'n cynllun cyflwyno ar gyfer 2026–2029. Gallwch lawrlwytho PDF o'r asesiad o'r dudalen hon.
Mae'r asesiad yn offeryn seiliedig ar dystiolaeth, sy'n ein galluogi i ystyried yr effaith bosibl (negyddol a chadarnhaol) o newidiadau yn ein gwaith ar wahanol grwpiau o bobl. Bydd yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru'n rheolaidd drwy gydol oes Treftadaeth 2033.