Byddwn yn buddsoddi £1.4biliwn mewn treftadaeth a chymunedau dros y tair blynedd nesaf

Byddwn yn buddsoddi £1.4biliwn mewn treftadaeth a chymunedau dros y tair blynedd nesaf

Portrait of Eilish McGuinness
Wedi'i ysgrifennu gan Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Fis diwethaf roeddwn yng Nghymru i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 850 oed. Ces i'r pleser o ymweld â Chastell Aberteifi, safle'r eisteddfod gyntaf a gofnodwyd, wedi'i chynnal gan yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd ym 1176. Ces i fy swyno hefyd gan byped anferth godidog o'r Arglwydd Rhys sydd wedi helpu i ddod â stori gwreiddiau'r eisteddfod i filoedd o bobl ar draws Cymru yn ystod ei thaith haf. 

Roedd y daith yn atgof pwerus o allu treftadaeth i ddod â phobl ynghyd, adeiladu balchder mewn lle a chreu chysylltiad â'r gorffennol.

O dan ein cynllun cyflwyno tair blynedd newydd byddwn yn ariannu cannoedd yn fwy o brosiectau sy'n gwneud hyn, gan fuddsoddi yn y cymunedau sy'n gofalu am dreftadaeth, ym mhob awdurdod lleol ar draws y DU, fel y gall barhau i ffynnu am genedlaethau i ddod.

Torf o bobl mewn gorymdaith yn cynnwys pyped enfawr o'r Arglwydd Rhys, ym Maenclochog.
Gorymdaith pyped yr Arglwydd Rhys a dathliad trochol ym Maenclochog, Cymru, i nodi 850 mlynedd ers yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf. Credyd: Aled Llywelyn.

Ers lansio Treftadaeth 2033 yn 2023, rydym wedi cefnogi mwy na 1,750 o brosiectau gydag £885 miliwn mewn grantiau sy'n helpu i achub lleoedd hoff annwyl, datblygu sgiliau newydd, adrodd storïau sydd wedi'u diystyru, rhoi hwb i yrfaoedd pobl ifanc ac adeiladu economïau lleol cryfach. Mae'n fraint buddsoddi'r ariannu hwn, a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, a gweld y gwahaniaeth y mae'n ei wneud.

Ond rwyf hefyd yn gweld, ac yn clywed gennych chi ynghylch, yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu eich treftadaeth a'ch cymunedau. Rwy'n deall bod y rhain yn parhau i esblygu, a gwn fod yn rhaid i ni wneud hynny hefyd.

Y bwriad erioed oedd i Treftadaeth 2033 fod yn uchelgeisiol ac â'r gallu i addasu. Mae ein cynllun cyflwyno newydd yn adlewyrchu hyn. Mae'n adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio, yn ymateb i'r hyn rydym wedi'i glywed gan ymgeiswyr, grantïon a phartneriaid, ac yn ffocysu ein buddsoddiad lle y gall wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Beth rydym yn bwriadu ei gyflwyno yn 2026-2029

Dros y tair blynedd nesaf rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi dros £1.4bn mewn treftadaeth ar draws y DU – o warchod adeiladau hanesyddol, ein hetifeddiaeth ddiwydiannol a’r amgylchedd naturiol, i ddiogelu casgliadau, traddodiadau a storïau. Bydd pob grant – mawr a bach, ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol – yn buddsoddi mewn lleoedd cryfach, sefydliadau mwy cydnerth a chyfleoedd i bobl gysylltu â threftadaeth, gofalu amdani a'i chynnal, nawr ac yn y dyfodol. 

Rydym yn annog syniadau i ddathlu'r dreftadaeth sy'n bwysig i'ch cymuned chi a chynlluniau sy'n cael eu siapio o'r cychwyn cyntaf gan flaenoriaethau a dyheadau lleol. Yn benodol, mae gennym ddiddordeb mewn gweld ceisiadau am brosiectau sy'n:

Rydym yn gwybod hefyd y byddwn yn cyflawni mwy drwy weithio ar y cyd. Dyna pam rydym am adeiladu partneriaethau newydd gyda sefydliadau a all ein helpu i gyrraedd cymunedau sydd heb eu gwasanaethau'n ddigonol, cyd-ddylunio prosiectau, darparu ariannu lle mae ei angen fwyaf a chynyddu effaith pob punt a fuddsoddir.

Teulu o ddau oedolyn a dau o blant yn sefyll ar lannau afon. Mae un o'r plant yn pwyntio at y dŵr.
Mae Tees Urban Nature Network yn brosiect cydweithredol sy'n helpu cymunedau i adennill ac ailddychmygu eu mannau gwyrdd a glas lleol. Mae wedi cael ei ariannu drwy ein menter strategol Trefi a Dinasoedd Natur, partneriaeth rhyngom ni, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Natural England, gan gydweithio’n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru, NatureScot ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon.

Gweithio gyda chi i gyflawni ein hamcanion a rennir

Dim ond rhan o'r darlun yw buddsoddi.  Byddwn hefyd yn parhau i wrando, dysgu ac addasu drwy adrodd ar effaith ein hariannu, cyhoeddi'r hyn rydym yn ei ddysgu am ein dull ac ymateb i'r hyn y mae ymgeiswyr, grantïon, partneriaid a'n data yn ei ddweud wrthym.

Un o'r negeseuon rydym eisoes wedi'i glywed yw y dylai gwneud cais am ariannu fod yn symlach. Dyna pam rydym yn gwella ein system gwneud cais am grant ac yn gwneud ein prosesau ariannu'n fwy hygyrch ac yn haws i'w llywio. Rydym am i chi dreulio llai o amser yn ysgrifennu ceisiadau a mwy o amser yn datblygu prosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth parhaol i'ch treftadaeth a'ch cymunedau chi.

Un peth sy'n gwneud i mi deimlo'n falch iawn yn fy rôl yw bod tua 95% o'n penderfyniadau grant yn cael eu gwneud gan dimau a phwyllgorau sy'n byw ac yn gweithio yn y wlad neu'r ardal lle mae ymgeiswyr wedi'u lleoli, gan sicrhau bod ein buddsoddiadau'n adlewyrchu gwybodaeth a blaenoriaethau lleol.

Edrychaf ymlaen at fwy o ymweliadau prosiect yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, at gwrdd â chi, clywed am eich blaenoriaethau, cael cip ar eich treftadaeth leol ac adeiladu ar bopeth yr ydym wedi'i gyflawni hyd yma. 

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...