O Ebrill 2026 i Fehefin 2029, mae Coedwig Hir Drefol yn ymateb i golli a dirywiad cyflwr gwrychoedd mewn trefi a dinasoedd a achosir gan esgeulustod, pwysau datblygu a rheoli tir sy'n newid.
Bydd y prosiect yn darparu gweithgareddau wedi'u targedu yng Nghaerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam, gan helpu cymunedau trefol i ailgysylltu â gwrychoedd a chydnabod eu pwysigrwydd fel nodweddion treftadaeth sy'n cefnogi bywyd gwyllt, cydnerthedd hinsawdd a chymeriad lleol.
Gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Coed Cadw, Addysg Oedolion Cymru, Llais y Goedwig ac awdurdodau lleol, bydd y prosiect yn cynnig addysg, hyfforddiant a chyfleoedd cadwraeth ymarferol.
Bydd cymunedau yn cael eu cefnogi i ailddarganfod gwerth gwrychoedd, datblygu sgiliau ymarferol a chymryd camau i ofalu am eu treftadaeth naturiol leol.
Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus: "Mae'r cyllid hwn yn gam enfawr ymlaen i natur drefol yng Nghymru. Mae gwrychoedd wedi cael eu hanwybyddu am rhy hir, ond maent yn un o'n hoffer mwyaf pwerus wrth ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Bydd Coedwig Hir Drefol yn helpu cymunedau i ailddarganfod eu gwerth a chymryd camau i'w gwarchod. Rydym yn gyffrous i fod yn gweithio gyda phartneriaid a phobl leol ar draws Caerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam i wneud yr gweledigaeth hon fewn i realiti."