Adfywio Neuadd Les Pendyrus

Grŵp o bobl yn dathlu o flaen adeilad brics coch gydag arwydd art-deco sy'n dweud “Welfare Hall”
Bydd yr adeilad yn dod yn ganolfan gymunedol fywiog. Credyd: Steve Pope / FotoWales.
Calon hanesyddol cymuned yn y Rhondda yn cael ei hadfer ar gyfer y dyfodol.

Mae ein harian yn gwarchod ac yn adfywio Neuadd Les Pendyrus, gan greu lle y gall y gymuned fod yn falch ohono. Wedi'i adeiladu ym 1933, mae'r strwythur art-deco rhestredig Gradd II yn un o'r neuaddau lles glowyr olaf sydd ar ôl yn y rhanbarth ac mae wedi bod yn rhan o hunaniaeth leol ers cenedlaethau.

Mae'r rhanbarth wedi wynebu heriau economaidd a chymdeithasol difrifol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er bod adeiladau eraill o'i fath wedi cael eu cau neu eu dinistrio, mae Pendyrus wedi goroesi. Ond roedd angen ei adfer ar frys gydag elfennau strwythurol, gorffeniadau mewnol a systemau gwasanaeth hanfodol i gyd mewn perygl o ddirywio y tu hwnt i'w hatgyweirio.

Nawr, mae'r prosiect hwn yn gwneud yr adeilad yn addas ar gyfer y dyfodol. Yn dilyn ymgynghoriad cymunedol, mae tîm Pendyrus yn trawsnewid ardaloedd nad ydynt yn cael eu defnyddio llawer yn fannau amlswyddogaethol a fydd yn cefnogi'r pethau sydd bwysicaf i bobl leol.

Bydd yn amddiffyn ased treftadaeth gwerthfawr wrth hybu'r economi leol, llesiant a mynediad at ddiwylliant drwy:

  • cyfleusterau gwell ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau gan gynnwys addysg gymunedol, rhaglenni hamdden ac allgymorth a chlwb ffilmiau ieuenctid
  • cyfleoedd gwirfoddoli newydd
  • adfer nodweddion unigryw, fel tu mewn art-deco yr adeilad ac offer sinema prin o'r 1930au

Bydd y rhain yn denu ymwelwyr newydd i'r ardal ac yn darparu mwy o gyfleoedd i bobl Pendyrus gysylltu â'u treftadaeth a'i gilydd.

Dywedodd Rebecca Sullivan, rheolwr y prosiect: “Gyda’n gilydd fel cymuned rydym wedi gweithio’n ddiflino i ymgyrchu dros gadw'r adeilad hwn yn ganolbwynt i’n hardal.

“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd Neuadd Les Pendyrus yn llecyn llewyrchus o gyfleoedd, cynhwysiant a chefnogaeth i bobl y Rhondda, gan ysbrydoli balchder yn ein treftadaeth a gobaith ar gyfer y dyfodol.”

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...

Project data

Programme
National Lottery Grants for Heritage – £250,000 to £5million
Dyddiad a ddyfarnwyd
Lleoliad
Tylorstown and Ynyshir
Awdurdod Lleol
Rhondda Cynon Taf
Ceisydd
Tylorstown Welfare Hall Limited
Rhoddir y wobr
£5059892