Hyrwyddwch eich oriau agor a digwyddiadau haf gyda'm hymgyrch #TreftadaethArAgor

Dathlwch eich prosiect treftadaeth a rhowch wybod i bobl am ddigwyddiadau sydd ar y gweill, y lleoedd y gallant ymweld ag ef, neu pan fydd eich prosiect yn agor.
Mae ein momentau cyfryngau cymdeithasol yn cyrraedd miloedd o ddefnyddwyr ac yn trendio'n rheolaidd yn y pump uchaf felly mae cymryd rhan yn ffordd wych o gydnabod eich grant a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Sut i gymryd rhan
- Rhannwch bostiad cyfryngau cymdeithasol 9am 23 Mehefin 2025.
- Dangoswch wybodaeth am eich prosiect treftadaeth, digwyddiadau'r haf ac agoriadau, a chofiwch gynnwys delwedd wych.
- Rhowch #TreftadaethArAgor a thagiwch @HeritageFundCYM.
- Defnyddiwch y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol rydych chi'n hoffi eu defnyddio orau.
- Daliwch ati i ddefnyddio’r hashnod drwy gydol yr haf i rannu uchafbwyntiau o'ch digwyddiadau a’ch prosiectau.
Rydym wrth ein bodd yn cael eich prosiectau treftadaeth i drendio a lledaenu newyddion cadarnhaol ar draws y we. Byddwn yn rhannu ac yn hoffi eich postiadau, ac yn parhau i rannu'r agoriadau a'r digwyddiadau treftadaeth gwych drwy'r haf ochr yn ochr â chynnwys o'n teithiau ein hunain.

Chwilio am syniadau?
Dyma rai postiadau drafft i'ch rhoi ar ben ffordd:
- Rydyn ni'n ymuno â @HeritageFundCYM i ddathlu #TreftadaethArAgor! Yr #haf yma gallwch ymweld â (nodwch enw'r prosiect a gwybodaeth)
- Mae #TreftadaethArAgor ac rydym wrth ein boddau y gallwch ymweld â (nodwch y prosiect, lle neu ddigwyddiad treftadaeth) o (nodwch y dyddiad). Diolch i gefnogaeth gan y #LoteriGenedlaethol #CronfaTreftadaeth @HeritageFundCYM
- Diolch i gefnogaeth gan @HeritageFundCYM gallwch ymweld â (nodwch y prosiect, lle neu ddigwyddiad treftadaeth) i gael gwybod mwy am (nodwch wybodaeth) #TreftadaethArAgor
Mwy o ddyddiadau i'ch calendr cyfryngau cymdeithasol
Tachwedd 2025. Bob hydref rydyn ni'n dweud #DiolchiChi i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol gyda'r Diwrnod Hunlun Bysedd Croes. Rhannwch eich prosiect Cronfa Treftadaeth ynghyd â hunlun bysedd croes i ledaenu’r gair am yr achosion da anhygoel y mae’r Loteri Genedlaethol yn eu hariannu.
Ionawr 2026. Cadwch lygad allan am ein diwrnod #TrysorauTreftadaeth blynyddol ym mis Ionawr. Dyma foment i rannu eich storïau, gwrthrychau, lleoedd a phobl treftadaeth wych.