Ers hynny, mae wedi bod yn ymddiriedolwr Parks for London a Paintings in Hospitals ac yn llywodraethwr ac ymddiriedolwr The Lady Eleanor Holles School, yn ogystal ag aelod annibynnol o'r pwyllgorau archwilio a risg yn Asiantaeth y Swyddfa Brisio, yr Archifau Cenedlaethol, yr Adran Masnach Ryngwladol, Marie Curie ac Ymddiriedolaeth y Camlesi ac Afonydd.
Ar hyn o bryd mae Robert yn ymddiriedolwr Twentieth Century Society, sy'n ymgyrchu dros warchod treftadaeth bensaernïol a dylunio o 1914 ymlaen, ac yn ymddiriedolwr a chadeirydd Codebrave Foundation, elusen fach sy'n helpu i ariannu cyfleoedd dysgu i blant agored i niwed yn Lebanon.
Magwyd Robert yn Swydd Warwick ac aeth i'r ysgol yno, wedi hynny fe astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen, ac mae wedi byw yn Ne-orllewin Llundain am y 40 mlynedd diwethaf. Mae ei ddiddordebau yn cynnwys hanes gwleidyddiaeth fodern, teithio, celf gyfoes, theatr, opera a cherdded.