Diwydiannol, morwrol a thrafnidiaeth

Ers 1994 rydym wedi dyfarnu £630m i 1,600 o brosiectau diwydiannol, morol a thrafnidiaeth ledled y DU.
Rydym am helpu mwy o bobl i gadw a diogelu eu treftadaeth ddiwydiannol leol. Gall ein cyllid helpu i drosglwyddo'r sgiliau i genedlaethau iau i ofalu amdanyn nhw.
Beth rydym yn ei gefnogi?
Mae’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu yn cynnwys:
- gwasg argraffu
- peiriannau pwmpio
- melinau gwynt
- llongau hanesyddol
- locomotifau
- tirweddau naturiol a drawsffurfiwyd gan ddiwydiant
Syniadau am brosiect
Gall ein harian helpu pobl i:
- dadorchuddio a chofnodi atgofion pobl o'n gorffennol diwydiannol
- rhoi pwrpas newydd i safle segur
- adfer a chynnal peiriannau gweithredu
- yn datgelu hanes diwydiant yn eich ardal chi
- archwilio rhwydwaith o gamlesi’r genedl
- darparu cyfleusterau i ymwelwyr ac adnoddau dysgu wedi'u staffio
- helpu pobl ifanc i ddysgu sgiliau newydd a gofalu am eu treftadaeth
Rheilffyrdd 200
Eleni rydyn ni'n nodi 200 mlynedd o'r rheilffordd fodern ac mae dathliadau’n cael eu cynnal ar draws y DU.
Ers 1994, rydyn ni wedi buddsoddi dros £105miliwn a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol mewn mwy na 600 o brosiectau treftadaeth rheilffyrdd ar draws y DU.
Mae ein buddsoddiad yn helpu i ddiogelu a dathlu treftadaeth rheilffyrdd, gan gefnogi gwirfoddoli a datblygu sgiliau a rhoi hwb i economïau lleol.
Mynnwch gip ar rai o'r prosiectau rydyn ni wedi'u hariannu isod.