Prosiect adfer dolydd morwellt Gogledd Cymru yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd

Prosiect adfer dolydd morwellt Gogledd Cymru yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd

 Morwellt ar wely'r môr gyda golau'r haul
Morwellt gyda golau'r haul. Credyd: Lewis Jefferies / WWF UK Hawlfraint Lewis Jefferies / WWF UK
Rydym wedi dyfarnu £1miliwn i Achub Morwellt Cefnfor i adfer 10 hectar o ddolydd morwellt oddi ar Bwllheli, Abersoch ac Ynys Môn.

Mae pum miliwn o hadau morwellt yn cael eu plannu mewn ardal maint 18 o gaeau pêl-droed i wella ansawdd dŵr a darparu mannau silio a bwydo ar gyfer rhywogaethau morol.

Mae morwellt yn blanhigyn rhyfeddol sy'n darparu buddion anhygoel i bobl, natur a hinsawdd.

Ricardo Zanre, Rheolwr Rhaglen Adfer Cefnfor yn WWF

Bydd y dolydd morwellt yn hidlo llygredd ac yn helpu i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd trwy ddal carbon a darparu amddiffyniad rhag erydu arfordirol.

Mae Ricardo Zanre, Rheolwr Rhaglen Adfer Cefnforoedd WWF yn esbonio: “Mae morwellt yn blanhigyn rhyfeddod sy'n darparu buddion anhygoel i bobl, natur a hinsawdd. Yn anffodus, mae’r cyfan bron wedi diflannu o ddyfroedd Cymru, felly rydym yn falch iawn o dderbyn y cyllid hwn a fydd yn ein helpu i adfer dolydd morwellt hanfodol i arfordir gogledd Cymru.”

Gweithio mewn partneriaeth

Rheolir Achub Morwellt Cefnfor gan WWF mewn partneriaeth â Project Seagrass, Prifysgol Abertawe, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac ACA Pen Llŷn a’r Sarnau.

Mae’r prosiect adfer morwellt hefyd yn cael ei ddylunio a’i gyflawni gyda chymunedau lleol yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Ni fu erioed mwy o angen mynd i’r afael ag effeithiau’r argyfwng hinsawdd a’u gwrthdroi...

Andrew White, Cyfarwyddwyr Cronfa Dreftadaeth Y Loteri Genedlaethol yng Nghymru 

Colli dolydd morwellt

Mae’r DU wedi colli hyd at 92% o’i chynefinoedd morwellt dros y 100 mlynedd diwethaf.

A yn ôl ymchwil, amcangyfrifir mai dim ond 4582 hectar o gynefin morwellt sydd ar ôl ar hyd arfordir Cymru ac mae'r rhan fwyaf ohono mewn "cyflwr peryglus".

 A hand holding a pile of long, green seeds
Hadau morwellt wedi'u cynaeafu. Credyd: Nina Constable / WWF UK. 

Mae ariannu prosiectau natur pwysig yn flaenoriaeth

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Nid yw’r angen i fynd i’r afael ag effeithiau’r argyfwng hinsawdd a’u gwrthdroi erioed wedi bod yn fwy ac mae ariannu prosiectau natur pwysig fel hyn yn flaenoriaeth allweddol i’r Gronfa Dreftadaeth yng Nghymru.

“Bydd y prosiect adfer morwellt pwysig hwn yng Ngogledd Cymru yn helpu i adfywio ac adfer dolydd morwellt yng Ngogledd Cymru a hyfforddi trigolion lleol mewn sgiliau cadwraeth morol fel y gallant gymryd rhan weithredol yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.”

Cyllid ar gyfer eich prosiect treftadaeth

Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Dysgwch fwy am ein gwaith i gefnogi adferiad byd natur ledled y DU.

Os oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect treftadaeth yng Nghymru, cysylltwch â ni i gael gwybod sut y gallwn eich cefnogi.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...