Datganiad ar farwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines

Datganiad ar farwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines

Park Cenedlaethol y Cairngorms
Gan Dr Simon Thurley CBE, Cadeirydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol.

Mae pobl yma yn y Deyrnas Unedig, ar draws y Gymanwlad ac o gwmpas y byd yn galaru am golli Ei Mawrhydi'r Frenhines ar ôl oes o wasanaeth cyhoeddus ymroddedig.

Roedd ganddi gariad dwfn at dreftadaeth - o warchod bywyd gwyllt a'r amgylchedd i'w mwynhad o ddiwylliant a'r celfyddydau. Gwelir hyn yng ngwead ein hadeiladau hanesyddol, parciau, tirweddau a chymunedau a thrwy ei nawdd brenhinol i gynifer o sefydliadau treftadaeth gwych.

Cofiwn am y Frenhines am hyn ac am ei synnwyr o ddyletswydd a’i hymroddiad i fywyd o wasanaeth.

Cydymdeimlwn yn ddwys â'r Teulu Brenhinol.