Cystadleuaeth: rhowch gynnig arni gyda'ch cydnabyddiaeth grant Cronfa Treftadaeth greadigol

Cystadleuaeth: rhowch gynnig arni gyda'ch cydnabyddiaeth grant Cronfa Treftadaeth greadigol

Plac crwn o'n stamp cydnabyddiaeth wedi'i osod ar ffens haearn
Helpwch ni i ddathlu'r ffyrdd arloesol y mae prosiectau wedi cydnabod eu hariannu ac enillwch y cyfle i ffilm cyfryngau cymdeithasol gael ei gwneud am eich prosiect.

Dros y blynyddoedd rydym wedi gweld arian y Loteri Genedlaethol yn cael ei gydnabod mewn pob math o ffyrdd – o deisennau, gwelyau blodau a brodweithiau i wydr lliw, cerfiadau a drws ffwrnais boglynnog.

Fis Mai yma, rydym yn chwilio am hyd yn oed yn fwy o enghreifftiau.

A young child pointing at a plaque of our acknowledgement stamp that is placed in the middle of a garden wall

Mae deall sut i gydnabod eich grant nawr yn haws

Yn ddiweddar, rydym wedi lansio pecyn cymorth newydd sy'n dod â phopeth sydd angen i chi ei wybod i gynllunio'ch cydnabyddiaeth yn effeithiol at ei gilydd - o gyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau cyhoeddus i arwyddion ac arddangosiadau.

I ddathlu'r adnodd newydd hwn, fis nesaf rydym yn cynnal cystadleuaeth cyfryngau cymdeithasol i ddod o hyd i'r enghreifftiau cydnabyddiaeth mwyaf creadigol a difyr.

Mae cydnabyddiaeth yn ffordd bwysig o ddangos y gwahaniaeth y mae arian y Loteri Genedlaethol yn ei wneud a phwyntio pobl eraill i'r cyfeiriad cywir os oes angen cefnogaeth arnynt ar gyfer eu syniad am brosiect treftadaeth.

Po fwyaf creadigol y gallwch ei wneud, y mwyaf effeithiol y gall fod.

Sut i gymryd rhan

  • Archwiliwch ein pecyn cymorth cydnabyddiaeth newydd.
  • Rhannwch lun uchel ei ansawdd o'ch cydnabyddiaeth ar Instagram, X, Facebook neu LinkedIn rhwng 1 a 31 Mai 2024.
  • Tagiwch ni @HeritageFundCYM a defnyddiwch ein hashnod #CronfaTreftadaeth yn eich postiad.

Drwy gydol y mis byddwn yn ailrannu ein hoff gynigion ar draws ein sianeli cymdeithasol.

Y wobr

Bydd yr enillydd yn cael cyfle i ymddangos mewn ffilm y byddwn ni'n ei wneud sy'n hyrwyddo eich prosiect treftadaeth.

Bydd y tri a ddaeth yn ail hefyd yn ymddangos ochr yn ochr â'r enillydd mewn stori ar y wefan yn dangos y gydnabyddiaeth orau o brosiect ar draws y DU.

Byddwn yn cysylltu â'r enillydd a'r rhai a ddaeth yn ail ym mis Mehefin drwy neges uniongyrchol. 

Mae'r Telerau ac Amodau hyn yn llywodraethu'r gystadleuaeth dathlu Cydnabyddiaeth (sef 'y Gystadleuaeth’ o hyn ymlaen). Hyrwyddir y Gystadleuaeth gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Naturiol (CGDG), y corff cyfreithiol sy'n gweinyddu ac yn goruchwylio’r holl gronfeydd, gan gynnwys y rhai a ddosberthir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (y Gronfa Treftadaeth)

Amodau Cymryd Rhan

  1. Mae'r Gystadleuaeth ond yn agored i dderbynwyr ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol gan eithrio gweithwyr y Gronfa Treftadaeth neu Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol; eu his-gwmnïau, teuluoedd, asiantau neu gwmnïau cysylltiedig; neu unrhyw un sy'n ymwneud â rhedeg y Gystadleuaeth.
  2. I gymryd rhan yn y Gystadleuaeth, rhaid i chi rannu llun ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol eich prosiect a chynnwys yr hashnod #CronfaTreftadaeth a thagio @HeritageFundCYM. Rhaid postio hwn yn gyhoeddus ar eich cyfrif cyn y Dyddiad Cau (gweler isod). Nid oes angen talu na phrynu unrhyw gynnyrch er mwyn cymryd rhan.
  3. Trwy gyflwyno'ch cais, rydych yn cadarnhau mai gwaith gwreiddiol eich prosiect eich hun ydyw, nad yw'n ddifenwol ac nad yw'n torri unrhyw gyfreithiau na hawliau trydydd parti, ac nad oes unrhyw gytundebau sy'n gwrthdaro ar waith sy'n cyfyngu ar y defnydd o'ch cais. Rydych hefyd yn cadarnhau mai chi yw unig berchennog yr hawlfraint yn y cais.
  4. Er mwyn i geisiadau gael eu hystyried ar gyfer y Gystadleuaeth, dylai lluniau ddangos delwedd o gydnabyddiaeth o ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
    • Rhaid i'r ddelwedd ddangos ein stamp neu logo cydnabyddiaeth cyfredol a chydymffurfio â'n canllawiau cydnabyddiaeth yn y 'Pecyn cymorth cydnabyddiaeth’.
    • Os yw'r llun yn cynnwys person adnabyddadwy, yna mae'n rhaid bod y person hwnnw wedi cytuno i'w gyflwyno i'r gystadleuaeth hon a'r defnydd ohono gan y Gronfa Treftadaeth yn unol â'r telerau hyn.
  5. Gallwch dynnu eich llun gan ddefnyddio camera, ffôn neu lechen. Rhaid i ffotograffau fod yn fanylder uchel ac o ansawdd da.
  6. Mae'n rhaid bod ffotograffau wedi'u tynnu gan brosiect sy'n derbyn ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
  7. Caniateir ceisiadau lluosog fesul prosiect.
  8. Byddwch yn cadw hawlfraint a hawliau moesol yn eich ffotograff, fodd bynnag, wrth gyflwyno’ch cais rydych yn rhoi trwydded fyd-eang anghyfyngedig, ddi-freindal, is-drwyddedadwy, na ellir ei dirymu i’r Gronfa Treftadaeth ac i Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol i:
    • ddefnyddio eich llun mewn cysylltiad â gweinyddu'r Gystadleuaeth; ac
    • os bydd yn ennill, arddangos eich llun ar wefan, e-bost a sianeli cyfryngau cymdeithasol y Gronfa Treftadaeth
    • ar ôl y fath gyfnod bydd y Gronfa Treftadaeth yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'ch delwedd ond bydd ganddi hawl i gadw copïau archif.
  9. Bydd eich prosiect yn cael ei gredydu am ddefnyddio'ch ffotograff. Ni fydd methiant anfwriadol i roi credyd i chi'n torri'r Telerau ac Amodau hyn.
  10. Wrth gynhyrchu'r cais, rhaid i chi beidio â rhoi eich hun nac unrhyw un arall mewn perygl.
  11. Mae'r Gystadleuaeth yn dechrau ddydd Mercher 1 Mai 2024 am 00.00 BST ac yn dod i ben ddydd Gwener 31 Mai 2024 am 23.59 BST. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl yr amser hwnnw'n gymwys i gael eu hystyried.
  12. Dim ond ceisiadau cyflawn a gaiff eu derbyn. Nid yw’r Gronfa Treftadaeth yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gofnodion sy’n mynd ar goll, yn anghyflawn, yn annarllenadwy, wedi’u llygru neu sy’n methu â’i chyrraedd erbyn y Dyddiad Cau am unrhyw reswm.
  13. Drwy gymryd rhan yn y Gystadleuaeth rydych yn cadarnhau i’r Gronfa Treftadaeth fod yr holl wybodaeth a gyflwynwyd gennych yn gywir a’ch bod wedi cydymffurfio’n llawn â’r Telerau ac Amodau hyn ac yn cytuno i gael eich rhwymo ganddynt. Mae'r Gronfa Treftadaeth yn cadw'r hawl i wirio cymhwysedd ymgeiswyr. Bydd ceisiadau awtomataidd a cheisiadau gan drydydd parti neu asiantau'n annilys. Bydd ceisiadau nad ydynt yn cydymffurfio â’r Telerau ac Amodau hyn (gan gynnwys y rhai sy’n cynnwys unrhyw wybodaeth ffug) yn annilys.
  14. Bydd un enillydd cyffredinol. Mae penderfyniad y Gronfa Treftadaeth ynghylch unrhyw agwedd ar y Gystadleuaeth yn derfynol ac yn rhwymol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth yn ei gylch.
  15. Bydd un ddelwedd (y “ddelwedd fuddugol”) a thair delwedd (y “rhai sy'n dod yn ail”) yn cael eu dewis gan dîm cystadleuaeth dathlu Cydnabyddiaeth y Gronfa Treftadaeth (y “Beirniaid”). Bydd y Beirniaid yn gwneud eu penderfyniad ar sail eu barn am gryfder y creadigrwydd yn y delweddau o gydnabyddiaeth. Oherwydd y nifer uchel o ddelweddau sy'n debygol o ddod i law, ni roddir adborth ar geisiadau unigol.
  16. Bydd y “ddelwedd fuddugol” yn cael cyfle i’r prosiect buddugol ymddangos mewn ffilm cyfryngau cymdeithasol gyda’r Gronfa Treftadaeth i hyrwyddo’r prosiect.
  17.  Bydd y “rhai sy'n dod yn ail” yn ymddangos mewn erthygl gwe am yr enillydd ar wefan y Gronfa Treftadaeth.
  18. Cysylltir â’r enillydd a’r rhai sy'n dod yn ail ddim hwyrach na 23.59 BST ddydd Llun 10 Mehefin 2024.
  19. Cysylltir â'r enillydd a'r rhai sy'n dod yn ail trwy neges breifat i'r cyfrif a ddefnyddiwyd ganddynt i gymryd rhan yn y Gystadleuaeth.
  20. Unwaith y bydd yr enillydd a’r rhai sy'n dod yn ail wedi’u hysbysu, rhaid i’r enillydd a’r rhai sy'n dod yn ail anfon y ffeiliau gwreiddiol o’r ddelwedd fuddugol ynghyd ag enw’r prosiect trwy e-bost i brand@heritagefund.org.uk.
  21. Nid yw'r wobr yn drosglwyddadwy, ac ni all yr enillydd a'r rhai sy'n dod yn ail ofyn am unrhyw wobr arall (arian parod neu fel arall).
  22. Bydd y Gronfa Treftadaeth yn casglu data personol am ymgeiswyr ar adeg cofrestru, ac fel y darperir fel arall er mwyn gweinyddu’r Gystadleuaeth a/neu’r holl weithgareddau cysylltiedig. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r Gronfa Treftadaeth ac Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol yn prosesu data personol, gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd yn Preifatrwydd.
  23. Rydych yn cytuno ymhellach i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd rhesymol sy'n ofynnol gan y Gronfa Treftadaeth a allai gynnwys cyhoeddi enw eich prosiect a ffotograff ohono mewn unrhyw gyfrwng.
  24. Mewn amgylchiadau nas rhagwelir, mae’r Gronfa Treftadaeth yn cadw’r hawl i ganslo, addasu, ymestyn neu atal y Gystadleuaeth. Gall hyn gynnwys cyfnewid y wobr am wobr arall o werth cyfartal neu uwch os bydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Gronfa Treftadaeth yn golygu bod angen gwneud hynny. Os oes unrhyw reswm dros gredu bod yr amodau a’r telerau hyn wedi’u torri, gall y Gronfa Treftadaeth, yn ôl ei disgresiwn llwyr, ddiarddel ymgeisydd rhag cymryd rhan yn y Gystadleuaeth neu’r wobr.
  25. Bydd yr holl fanylion a chyfyngiadau eraill sy'n berthnasol i'r wobr nas nodir yn y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu pennu gan y Gronfa Treftadaeth yn ôl ei disgresiwn llwyr.
  26. Mae'r Gronfa Treftadaeth yn cadw'r hawl i ddiwygio'r Telerau ac Amodau hyn unrhyw bryd heb roi rhybudd trwy ei wefan heritagefund.org.uk/cy.
  27. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y Gronfa Treftadaeth o dan unrhyw amgylchiadau yn gyfrifol nac yn atebol i ddigolledu’r enillydd na derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled, difrod, anaf personol neu farwolaeth sy’n digwydd o ganlyniad i gymryd y wobr ac eithrio i’r graddau bod marwolaeth neu anaf personol yn cael ei achosi gan esgeulustod y Gronfa Treftadaeth neu ei gweithwyr. Nid yw eich hawliau statudol yn cael eu heffeithio.
  28. Rydych yn cytuno i indemnio’r Gronfa Treftadaeth a chadw’r Gronfa Treftadaeth wedi’i hindemnio rhag unrhyw golled, difrod, anaf, cost neu draul a ddioddefir gan y Gronfa Treftadaeth o ganlyniad i chi gymryd rhan yn y Gystadleuaeth, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) unrhyw honiad o dorri hawliau eiddo deallusol a wneir gan unrhyw drydydd parti.
  29. Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli'n unol â Chyfraith Lloegr a byddant yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Lloegr yn unig.

Cefnogi treftadaeth gyfoethog ac amrywiol y DU

Ein gweledigaeth yw gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a'i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol. Bwrw golwg ar yr hyn yr ydym yn ei ariannu, ac os oes angen ysbrydoliaeth bellach arnoch, edrychwch ar rai o'r prosiectau yr ydym eisoes wedi'u hariannu.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...