Cyllid dal ar gael wrth i £657,043 ychwanegol gael ei fuddsoddi yng nghoetiroedd Cymru

Cyllid dal ar gael wrth i £657,043 ychwanegol gael ei fuddsoddi yng nghoetiroedd Cymru

Coed yng ngolau machlud yr haul
Tri phrosiect newydd i greu neu wella coetiroedd i gymunedau lleol yw'r diweddaraf i dderbyn arian y Grant Buddsoddi Mewn Coetir (TWIG).

Mae grantiau o £40,000 i £250,000 ar gael gan TWIG - rhaglen rydym yn ei ddarparu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru sydd yn rhan o raglen Coedwig Genedlaethol i Gymru. Mae'r cyllid hwn ar gyfer sefydliadau sy'n creu coetiroedd hygyrch wedi eu rheoli yn dda y gall cymunedau lleol eu cysylltu â nhw yng Nghymru. 

Bydd y prosiectau hyn nid yn unig o bwys mawr i fioamrywiaeth ond i'r cymunedau lleol fydd yn elwa, gan alluogi mynediad gwell i'n coetiroedd presennol fel y gall mwy o bobl eu defnyddio a mwynhau.”

Julie James, Y Gweinidog  Newid Hinsawdd 

A view of a lake and a dam from under a tree
Argae a llyn Llys y Fran ar ddiwrnod heulog 

Tri phrosiect yn derbyn arian

Dyfarnwyd y grantiau diweddaraf hyn, sef cyfanswm o £657,043, i brosiectau yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Chaerdydd ac maent wedi dilyn y grantiau blaenorol a gyhoeddwyd gennym ym mis Chwefror.

Mae Dŵr Cymru'n cael £245,860 ar gyfer prosiect Llys y Fran yn Sir Benfro i ddarparu coetiroedd amlbwrpas ar gyfer cyfleoedd hamdden, twristiaeth, ymgysylltu â'r gymuned a chyfleoedd dysgu.

Mae Cyngor Sir Gâr wedi derbyn £219,397 am brosiect Coed Ynys Dawela ger Brynaman. Bydd y gwaith yn cynnwys mannau coedlannau i wella strwythur y coetir a gosod tua 400m o lwybr bordiau pren dros ardaloedd gwlyb.

Mae prosiect 'Gwyrdd Ni' Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn derbyn £191,786 i wella coetir collddail presennol ar ei safle y tu allan i Gaerdydd. Bydd y prosiect yn creu coetir deinamig a deongliadol a fydd yn cael ei reoli nid yn unig drwy'r tymhorau, ond wrth iddo aeddfedu ac esblygu.
 

Y rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru  

Dywedodd Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd: “Bydd y prosiectau hyn nid yn unig o bwys mawr i fioamrywiaeth ond i'r cymunedau lleol fydd yn elwa, gan alluogi mynediad gwell i'n coetiroedd presennol fel y gall mwy o bobl eu defnyddio a'u mwynhau.

"Fel rhan o'n rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru bydd y prosiectau hyn yn helpu i adfer a chynnal rhai o goetiroedd hynafol anadferadwy Cymru, a fydd, ymhen amser, yn ffurfio rhwydwaith cysylltiedig sy'n rhedeg ledled Cymru, gan ddod â buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol."

A meadow at Ynys Dawela which has been prepared to attract marsh fritillary butterfiles
Dôl yn Ynys Dawela sydd wedi ei baratoi i ddenu gloÿnnod byw brith y gors

Ymgeisio am ariannu TWIG

Rhaid i sefydliadau sydd yn gymwys i gael cyllid TWIG fod yn berchen ar dir neu reoli ei reolaeth ac am gynnwys y gymuned yn y prosiect wrth greu, cynnal neu wella coetir.

Mae dwy rownd ariannu yn weddill drwy'r rhaglen TWIG. Dyma'r terfynau amser i gyflwyno datganiad o ddiddordeb:

  • 20 Ebrill 2023 am rownd pedwar
  • 7 Rhagfyr 2023 am rownd pump

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...