Cyflwyno Treftadaeth 2033, ein strategaeth 10 mlynedd newydd

Cyflwyno Treftadaeth 2033, ein strategaeth 10 mlynedd newydd

A collage of images featuring children picking vegetables, visitors at a nature reserve, Roman baths and a windmill
Rydym wedi pennu gweledigaeth hirdymor i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth y DU ac i'w chynnal ar gyfer pawb yn y dyfodol

Rydym yn falch ac yn gyffrous i rannu Treftadaeth 2033 gyda chi heddiw (2 Mawrth). Mae'n strategaeth uchelgeisiol sydd wedi'i siapio gan eich adborth a'n bron i 30 mlynedd o brofiad o wneud grantiau.

Dros fywyd y strategaeth hon, ein nod yw buddsoddi £3.6biliwn a godwyd ar gyfer achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Rydym wedi'n hymrwymo i sicrhau bod yr arian yn gwneud gwahaniaeth pendant i bobl, lleoedd a chymunedau ar hyd a lled y DU.

Blaenoriaethau buddsoddi

Bydd pedair egwyddor fuddsoddi'n sail i bopeth a wnawn – o raglenni grantiau agored gyda phenderfyniadau datganoledig ar draws ein chwe phwyllgor ardal a gwlad, i fuddsoddiadau a phartneriaethau strategol:

  • achub treftadaeth
  • diogelu'r amgylchedd
  • cynhwysiad, mynediad a chyfranogiad
  • cynaladwyedd sefydliadol

Byddwn hefyd yn agored ac yn ymatebol i nodi cyfleoedd i fynd i'r afael â materion ar raddfa fawr, a ffurfio partneriaethau gyda sefydliadau er mwyn i'n harian gyrraedd lle mae ei angen fwyaf.

Dywedodd Simon Thurley, Cadeirydd ac Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Mae ein hymagwedd ar ei newydd wedd wedi'i chreu drwy gyfraniadau ac arbenigedd hael nifer fawr o bobl a phartneriaid sy'n frwd dros dreftadaeth. Rydym am barhau â'r sgyrsiau hyn, fel bod arian y Loteri Genedlaethol yn galluogi treftadaeth i ysbrydoli, a herio, ac ennyn hyfrydwch a chyfaredd, nawr ac yn y dyfodol."

Y camau nesaf

Mae Treftadaeth 2033 yn nodi'n egwyddorion a'n huchelgeisiau trosgynnol yn gryno. Yn yr haf, byddwn yn rhyddhau'r cyntaf o gyfres o gynlluniau cyflwyno a fydd yn rhoi rhagor o fanylion a chyfeiriad.

Tan hynny, gofynnir i chi barhau i wneud ceisiadau am ariannu gan ddefnyddio ein harweiniad a'n canlyniadau presennol.

Mwy o wybodaeth

Rydym wedi cyhoeddi ein strategaeth newydd mewn sawl fformat i'w gwneud mor hawdd â phosib i'w darllen a chyfeirio'n ôl ato. Archwiliwch yr adran Treftadaeth 2033 newydd ar ein gwefan.