Cartref bardd y Rhyfel Byd Cyntaf yn nodi dathliad dwbl

Cartref bardd y Rhyfel Byd Cyntaf yn nodi dathliad dwbl

Hedd Wyn's Welsh cottage
Mae Yr Ysgwrn, cyn-gartref bardd enwog y Rhyfel Byd Cyntaf Hedd Wyn, wedi ennill gwobr RICS am gadwraeth adeilad yn ogystal â sicrhau cymeradwyaeth amgueddfa am y tro cyntaf.

Wedi ei leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri, roedd fferm Yr Ysgwrn a'r tir yn gartref i'r bardd Hedd Wyn hyd nes ei farwolaeth annisgwyl yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhoddwyd y gadair enwog i'r bardd ar ôl ei farwolaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1917.

"Y Gadair Ddu", fel y daeth i fod yn adnabyddus, oedd wedi'i gerfio gan y ffoadur o Wlad Belg Eugeen Vanfleteren, a bellach mae ar arddangos yn y tŷ sydd wedi'i adnewyddu'n llwyr ac yn agored i ymwelwyr am y tro cyntaf - diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol

Cydnabod bywyd a chyflawniadau Hedd Wyn yn Yr Ysgwrn

Mae The Royal Institution of Chartered Surveyors (RICS) wedi rhoi clod i'r adferiad gofalus o'r adeilad a'i hygyrchedd newydd i'r cyhoedd, a'i enwi ymysg y prosiectau gorau ar gyfer cadw adeilad yn y DU.

Wedi'i gwblhau ym Mai 2017, mae Yr Ysgwrn yn dathlu bywyd a llwyddiannau Hedd Wyn; mae'n sefyll bellach fel tystiolaeth i'r dynion Cymreig a roddodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a'r cymunedau a ddioddefodd y golled honno gartref.

Dywedodd beirniaid RICS: "Mae cadwraeth yr annedd gostyngedig hwn mewn ardal mor anghysbell gyda'i golygfa dros Eryri yn darparu dealltwriaeth llawer mwy pwerus o'i arwyddocâd yn y cyd-destunau diwylliannol a llenyddol yn ogystal â'r cyd-destun hanesyddol gydag arswyd y Rhyfel Mawr a allai fel arall fod wedi mynd yn golledig.”

Mae'r wobr hefyd yn cyd-fynd â chyflwyno cymeradwyaeth amgueddfa i Yr Ysgwrn am y tro cyntaf, gan nodi cyflawniad arwyddocaol pellach ar ei daith gyffrous.

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn ...