Ein hymateb i cais am dystiolaeth llywodraeth y DU ynghylch ariannu gan y Loteri Genedlaethol
| Atodiad | Maint |
|---|---|
| 441.02 KB |
Roedd y cais am dystiolaeth yn gyfle gwerthfawr i ddathlu effaith anhygoel ariannu gan y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys ar gyfer treftadaeth y DU.
Ers 1994, rydym wedi cael y fraint o fuddsoddi £9.2biliwn o'r arian hwnnw mewn 48,900 o brosiectau treftadaeth mawr a bach ym mhob awdurdod lleol ym mhob cwr o'r DU.
Gallwch ddarllen ein hymateb llawn yn y PDF sydd ynghlwm wrth y dudalen hon a throsolwg byr ohono isod.
Crynodeb gweithredol
Mae'r Loteri Genedlaethol yn gwneud bywyd yn well i bobl ym mhob gwlad a rhanbarth o'r Deyrnas Unedig. Yng Nghronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, rydym yn buddsoddi arian chwaraewyr y Loteri Genedlaethol mewn prosiectau treftadaeth sy'n bwysig i bobl ac i gymunedau.
Mae'r Cais am Dystiolaeth Agored – Achosion Da’r Loteri Genedlaethol: Ariannu’r hyn sy’n bwysig i chi yn nodi uchelgais i gyfraniad y Loteri Genedlaethol gael ei siapio gan y cyhoedd a bod yn hygyrch i bawb. Rydym yn rhannu'r uchelgais honno ac eisoes yn chwarae ein rhan i wireddu hyn.
- Rydym yn buddsoddi mewn lleoedd i bawb, ym mhobman yn y Deyrnas Unedig – gan sicrhau bod ariannu ar gael ym mhob un o wledydd a rhanbarthau’r DU, gan fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar le a helpu pawb i elwa o gefnogaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer treftadaeth.
- Rydym yn gwneud penderfyniadau yn agos at y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu – mae 95% o’n penderfyniadau’n cael eu gwneud yn uniongyrchol yn yr ardal neu’r wlad lle bydd prosiect yn elwa o’n hariannu.
- Rydym yn gadael i bobl a chymunedau benderfynu beth mae treftadaeth yn ei olygu iddyn nhw – treftadaeth yw’r hyn y mae pobl heddiw eisiau ei gadw a’i drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Rydym yn gadael i bobl benderfynu beth sydd fwyaf pwysig iddyn nhw. Rydym yn cefnogi cymunedau i ddatblygu prosiectau ac yn eu helpu i'w cyflwyno'n llwyddiannus. Rydym yn sefyll gyda nhw ym mhob cam o'r daith grant.
- Rydym yn buddsoddi yn y lleoedd mwyaf difreintiedig– mae pawb yn haeddu elwa o ariannu'r Loteri Genedlaethol ar gyfer treftadaeth. Mae ein dull gweithredu'n golygu nad yw pobl sy'n byw mewn lleoedd â phrofiad o anfantais ddwbl yn colli allan.
- Rydym yn cefnogi buddsoddi sy'n creu twf a swyddi – rydym yn gweithio gyda grantïon a phartneriaid fel bod manteision economaidd a chymdeithasol treftadaeth yn cael eu teimlo ym mhob man, gan gyfrannu at adnewyddu cenedlaethol ac adfywio lleol.
- Rydym yn sicrhau ei fod mor hawdd â phosibl i gyrchu ein hariannu – rydym yn gweithredu un rhaglen grantiau gydag un drws blaen, gan wrando ar ein hymgeiswyr fel ei bod yn parhau i fod yn addas at y diben.
Fel dosbarthwr Loteri Genedlaethol profiadol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (Cronfa Treftadaeth) mewn sefyllfa dda i gefnogi'r uchelgeisiau a nodir yn y cais am dystiolaeth.