Mae tirweddau Cymru'n hanfodol i fyd natur, ond mae cynefinoedd dan bwysau ac ni all arian cyhoeddus yn unig ddiwallu maint yr hyn sydd ei angen. Bydd y prosiect hwn yn archwilio sut y gellir defnyddio buddsoddi preifat i ariannu adferiad byd natur ar draws tirweddau cyfan. Bydd yn edrych ar gyfleoedd fel marchnadoedd carbon, datrysiadau sy'n seiliedig ar natur ac enillion bioamrywiaeth gwirfoddol net, lle mae datblygu'n gadael bioamrywiaeth mewn cyflwr gwell nag o'r blaen.
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar dirweddau eiconig sy'n wynebu bygythiadau difrifol i'w treftadaeth naturiol, gan gynnwys:
- Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sydd dan fygythiad gan newid hinsawdd, llygredd dŵr, colli cynefinoedd a phwysau twristiaeth
- Gwastadeddau Gwent, sydd o dan bwysau oherwydd datblygiadau ar raddfa fawr, llygredd diwydiannol ac amaethyddol a mwy o berygl llifogydd
Gan weithio gyda ffermwyr, cwmnïau cyfleustodau, Parc Cenedlaethol a sefydliadau amgylcheddol, bydd y prosiect yn datblygu cynigion adferiad byd natur yn barod ar gyfer buddsoddi preifat. Bydd hefyd yn rhannu gwybodaeth a gwersi ar draws y sector ac yn bwydo i mewn i bolisi Llywodraeth Cymru ar gyllid cynaliadwy.
Ei nod yw galluogi adfer cynefinoedd ar raddfa fawr, ailgysylltu safleoedd gwarchodedig a gwella cydnerthedd rhwydwaith natur Cymru.
Dywedodd Rachel Sharp, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru: "Mae gan Gymru dirweddau naturiol rhyfeddol, ond mae angen mwy o fuddsoddi arnom i ddiogelu eu dyfodol. Mae'r prosiect hwn yn ymwneud ag adeiladu'r offer, yr hyder a'r fframweithiau i ddatgloi cyllid hanfodol ac adfer byd natur ar draws y wlad."
Dyfarnwyd ariannu i'r prosiect hwn drwy'r Gronfa Rhwydweithiau Natur, a ddosberthir gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.