Treuliodd ei gyrfa gynnar fel rhagolygwr tywydd gyda Swyddfa Dywydd y DU a BBC Scotland (1993–2009). Yn ystod y cyfnod hwn, daeth yn Gadeirydd Sefydliad Ffiseg yr Alban, yn Ymddiriedolwr Glasgow Science Centre ac yn gyfrannwr blaenllaw o fewn sector addysg yr Alban ar wyddoniaeth ac effeithiau newid hinsawdd.
Yn fwy diweddar, mae ei gyrfa wedi canolbwyntio ar rolau anweithredol yn sector yr amgylchedd. Ar hyn o bryd mae hi'n Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Loch Lomond a'r Trossachs ac yn aelod o Fwrdd NatureScot, asiantaeth natur Yr Alban. Mae hi hefyd wedi cael ei phenodi i Fwrdd Comisiwn Diwydiant Dŵr Yr Alban. Cynhelir ei hangerdd dros ymgysylltu â gwyddoniaeth fel Dirprwy Gadeirydd y ganolfan wyddoniaeth Dynamic Earth ac mae hi'n parhau i fod yn rhan o rolau ymgynghorol addysg wyddonol yn y sector cyhoeddus.
Derbyniodd Heather OBE am ei gwasanaethau i ffiseg yn 2006 ac mae wedi derbyn graddau er anrhydedd gan Brifysgol Paisley, Prifysgol Glasgow a'r Brifysgol Agored.
Mae hi'n ymlacio trwy feicio mynydd a cherdded bryniau ac yn ystyried cerdded Ffordd eiconig yr Ucheldiroedd Gorllewinol gyda'i merch yn un o brofiadau gorau bywyd.