Datganiad hygyrchedd ar gyfer arolwg effaith cwblhau prosiect

Datganiad hygyrchedd ar gyfer arolwg effaith cwblhau prosiect

See all updates
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r Arolwg Effaith Cwblhau Prosiect.

Cafodd yr arolwg ei gynnal gan Gronfa TDreftadaeth y Loteri Genedlaethol gan ddefnyddio meddalwedd trydydd parti SmartSurvey.

Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r arolwg hwn. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • Wrando ar yr arolwg gan ddefnyddio darllenydd sgrin, ac ar gyfer rhai darllenwyr sgrin (e.e. NVDA neu JAWS) llenwi’r arolwg yn null  ffurflenni/canolbwyntio.
  • Llywio’r arolwg gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
  • Defnyddio ffurf cyferbyniad uchel yn Windows

Mae’r arolwg hwn wedi’i adeiladu gan ddefnyddio dim ond y mathau o gwestiynau y mae SmartSurvey wedi’u nodi fel rhai sy’n cydymffurfio’n llawn â WCAG 2.2 AA.

Rydym hefyd wedi gwneud testun yr arolwg mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r arolwg hwn yn gwbl hygyrch:

  • ni allwch addasu uchder llinell neu fylchau testun
  • ni allwch neidio i’r prif gynnwys wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
  • mae gan rai elfennau gyferbyniad lliw annigonol gan eu gwneud yn anodd eu darllen

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch: insight@heritagefund.org.uk.

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, darllen hawdd, recordiad sain neu braille:

E-bost: insight@heritagefund.org.uk

Ffôn: 0161 200 8474

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd). Os nad ydych yn hapus â’n hymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon yn gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau Hygyrchedd y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 . Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb, cysylltwch â’r Comisiwn Cydraddoldeb yno.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif. 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae ffurflenni SmartSurvey yn cydymffurfio’n rhannol â’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) Fersiwn 2.2 Safon AA, oherwydd yr achosion o beidio â chydymffurfio a restrir yn yr adran gynnwys anhygyrch.

Am wybodaeth am ba mor hygyrch yw ffurflenni ac arolygon SmartSurvey, gweler datganiad hygyrchedd SmartSurvey.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw rhai cynnwys mewn ffurflenni SmartSurvey yn hygyrch. Gan mai meddalwedd trydydd parti yw SmartSurvey, ni allwn cywiro’r materion hyn yn uniongyrchol.

Methiant i gydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Nid yw rhai cynnwys a mathau o gwestiynau mewn arolygon a ffurflenni SmartSurvey yn cydymffurfio’n llawn â’r rheoliadau hygyrchedd.

Gweler ddatganiad hygyrchedd SmartSurvey am wybodaeth fanwl.

Lle bo’n bosibl, byddwn yn gweithio gyda SmartSurvey i leihau’r materion hyn.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Mae SmartSurvey yn gweithio i wella nodweddion hygyrchedd ym mhob fersiwn newydd o’r feddalwedd.

Byddwn yn nodi materion hygyrchedd ac yn hysbysu SmartSurvey.

Mae gwelliannau y mae SmartSurvey yn gweithio arnynt yn cynnwys:

  • gwneud y rhyddhad mawr nesaf o’r codfa yn gwbl gydnaws â WCAG 2.2 AA
  • dileu tablau cynllun wrth i SmartSurvey ddiweddaru’r codfa
  • gwella hygyrchedd cwestiynaudyddiad, graddfa llithro, rhestru a rhestr chwiliadwy
  • gwella hygyrchedd themâu arolygon safonol
  • cynnal profion, gan gynnwys profion pellach gyda defnyddwyr arbenigol a phrofi cydnabyddiaeth lleferydd
  • gwneud gwelliannau parhaus a gwahodd adborth gan ddefnyddwyr ag anghenion hygyrchedd

Mae SmartSurvey wedi cyhoeddi cyngor ar gyfer darllenwyr sgrin ar gwblhau arolygon ar ei wefan.

Bydd y datganiad hygyrchedd hwn yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu unrhyw faterion neu newidiadau i feddalwedd SmartSurvey.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 19 Mawrth 2026.

Cafodd ei brofi’n fewnol gan ddefnyddio technegau â llaw ac awtomataidd (gan gynnwys estyniadau porwr WAVE ac axe-core) a darllenydd sgrin NVDA.