Cymru: penderfyniadau dirprwyedig Chwefror 2026
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £10,000 i £250,000
The Heritage of Andrew Logan: Interpretation, Delivery & Evaluation
Ymgeisydd: Andrew Logan Museum of Sculpture Limited
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect blwyddyn (Ionawr 2026 – Ionawr 2027) yw hwn ar gyfer Cam 2 o brosiect treftadaeth yn Amgueddfa Gerfluniau Andrew Logan, Aberriw, Powys.
Penderfyniad: Gwrthod
The Silent Volunteer Project
Ymgeisydd: Avant theatre
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect arfaethedig tri mis ar ddeg (Chwefror 2026 – Ebrill 2027) arfaethedig yw hwn i archwilio, annog trafodaeth a newid canfyddiadau o dreftadaeth tomenni glo de Cymru.
Penderfyniad: Gwrthod
Ruperra-Machen Roman Landscape: Phase 1 Geophysical Survey and Public Engagement
Ymgeisydd: Oak Archaeology Wales CIC
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect deufis yw hwn sydd â'r nod o gynnal arolwg geoffisegol anymwthiol i wirio tirwedd Rufeinig sydd newydd ei nodi yn Rhiwperra–Machen, sir Casnewydd.
Penderfyniad: Gwrthod
Curation and hosting of a permanent exhibition: "Welsh Makers of Nations – The Joining of the Threads
Ymgeisydd: East Vale Ministry Area
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect pum mlynedd (Ebrill 2026 – Ebrill 2031) yw hwn i atgyweirio eglwys blwyf Sant Nicolas ym Mro Morganwg gan gynnwys 'Capel y Foneddiges'.
Penderfyniad: Gwrthod
Moby Dick Returns To Fishguard
Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Genedlaethol Theatr Gwaun
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect chwe mis a leolir yn Abergwaun, Sir Benfro yw hwn sy'n nodi 70 mlynedd ers ffilmio 'Moby Dick' y mai ei nod yw rhannu a dathlu ei etifeddiaeth yn lleol, ynghyd â themâu cysylltiedig bywyd morol a bywyd lleol, a gweithio ar y môr.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £44,300 (100%)
Crafting the Coast: The Crabbing Heritage Project
Ymgeisydd: Crab Club Horizons cic
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect un flwyddyn arfaethedig yw hwn i archwilio a dathlu treftadaeth ddiwylliannol ac amgylcheddol pysgota crancod yng ngorllewin Cymru a rhyngweithio pobl leol â'r arfordir dros y cenedlaethau.
Penderfyniad: Gwrthod
Cardiff Great Exhibition 2026: Schools Outreach Project (Innovation, Imagination & the Human Cost of Progress)
Ymgeisydd: Sherman Cymru
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect naw mis (Mawrth i Ragfyr 2026) ar gyfer rhaglen allgymorth ysgolion gyda myfyrwyr Blwyddyn 6 a Blwyddyn 7 yn ymchwilio i orffennol, presennol a dyfodol Caerdydd.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £50,578 (100%)
Sharing Our Heritage Through Engineering Innovation
Ymgeisydd: Llangollen Railway Trust Ltd
Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect dwy flynedd (Ebrill 2026 – Mawrth 2028) arfaethedig yw hwn i wneud gwelliannau peirianneg hanfodol a gwella ymgysylltiad y cyhoedd â Rheilffordd Llangollen er mwyn gwella cynaladwyedd sefydliadol a diogelu'r dreftadaeth ar gyfer y dyfodol.
Penderfyniad: Dyfarnu Grant o £239,680 (96%)