Taryn Nixon

Llun o Taryn Nixon
Role
Ymddiriedolwr a Chadeirydd Pwyllgor Lloegr, Llundain a De Lloegr
Mae Taryn Nixon yn archaeolegydd ac yn gynghorydd rheoli treftadaeth. Mae hi'n cadeirio Pwyllgor Llundain a De Lloegr y Gronfa Treftadaeth, ac mae hefyd yn gwasanaethu ar Bwyllgor Archwilio a Risg y Gronfa.

Mae gan Taryn gefndir arweinyddiaeth yn yr amgylchedd hanesyddol. Am 19 mlynedd bu'n Brif Weithredwr MOLA, Amgueddfa Archaeoleg Llundain, tîm o 300 o weithwyr proffesiynol treftadaeth sy'n darparu ymchwiliadau ac ymchwil archeolegol, ennyn diddordeb y cyhoedd ac addysg a gwasanaethau cynllunio. Yn frwd dros archaeoleg sy'n seiliedig ar werthoedd, mae hi wedi cyhoeddi'n helaeth ar gyfraniad archaeoleg a threftadaeth at dwf economaidd, adfywio a chydlyniant cymdeithasol, gan gynnwys arweiniad diweddar i'r diwydiant adeiladu. Bu’n gweithio’n flaenorol i Adran Archaeoleg Drefol Amgueddfa Llundain ac i Arolwg Archaeolegol Llywodraeth Hong Kong, ac mae hi bellach yn rhedeg ei hymgynghoriaeth rheoli treftadaeth ei hun.

Penodwyd Taryn i Fwrdd Ymddiriedolwyr cyntaf National Trails UK o 2022 i 2025, gan helpu sefydlu'r elusen newydd, hyrwyddo gwaith Partneriaethau Llwybrau a buddion bron i 6,000 milltir o lwybrau pellter hir y DU ar gyfer lles pobl, natur a'r economi.

Mae Taryn wedi bod yn Gadeirydd ei chorff proffesiynol, y Sefydliad Archaeolegwyr Siartredig (CIfA), yn Is-gadeirydd y Ffederasiwn Rheolwyr a Chyflogwyr Archaeolegol (FAME), yn Ysgrifennydd Anrhydeddus Cymdeithas yr Hynafiaethwyr ac yn Gadeirydd Grŵp Southport y sector archaeoleg. Mae hi wedi gwasanaethu ar bwyllgorau cynghori Historic England a'r Comisiwn Pensaernïaeth a'r Amgylchedd Adeiledig. Mae Taryn yn byw gyda'i theulu ar gyrion Parc Cenedlaethol Dartmoor yn Nyfnaint.