Rydym yn cynnig grantiau o £10,000 – £250,000 ar gyfer prosiectau cyfalaf a fydd yn adfer, yn gwella ac, mewn rhai achosion, yn caffael tir i greu Coetiroedd Cymunedol newydd yng Nghymru.
Ariannu natur yw ein blaenoriaeth
Mae angen hybu adferiad natur ar frys. Nid yw gofalu am natur a helpu pobl i ddeall ei bwysigrwydd erioed wedi bod yn fwy perthnasol. Dyna pam mai ariannu tirweddau a natur yw blaenoriaeth ariannu strategol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.
Bydd y prosiectau sy'n cael eu hariannu gan y cynllun grant yma yn helpu i lywio syniadaeth Llywodraeth Cymru ynghylch datblygiad y goedwig genedlaethol yng Nghymru yn y tymor hir.
Yn y cyfnod yma o ddysgu, mae'n bosibl unwaith y bydd prosiectau wedi’u cwblhau a'u gwerthuso na fydd rhai yn dod o dan y brand Coedwigoedd Cenedlaethol, ond eu bod yn brosiectau coetir da ynddynt eu hunain.
Bydd y cynllun Coetiroedd Cymunedol yn cynnig:
- grantiau o £10,000 – £250,000 ar gyfer prosiectau cyfalaf coetir
- hyd at 100% o gyllid
- cyllid ar gyfer sefydliadau dielw sydd â chyfrif banc a chyfansoddiad
- cyngor cyn ymgeisio (drwy e-bost: natur@heritagefund.org.uk)
Amseriadau
- bydd ceisiadau ar agor tan 21 Hydref 2021, gyda phenderfyniadau o fewn wyth wythnos i'r cais
- efallai y bydd y rhaglen grant yn cau'n gynharach os caiff yr holl arian ei wario cyn y dyddiad cau
Gofynion
- mae’n rhaid i brosiectau sy'n ymwneud â chaffael tir ddangos gwerth da am arian, yn meddu ar gynllun da a dangos eu bod yn diwallu anghenion a nodwyd gan y gymuned
Cyfanswm y cyllid sydd ar gael yw £2.1 miliwn. Gellir cyflwyno ceisiadau o Fehefin 2020 tan 21 Hydref 2021.
Ariennir y rhaglen ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Meini prawf hanfodol
1. Coetiroedd o ansawdd da, sy'n cael eu rheoli'n dda, yn unol â Safon Coedwigaeth y DU (UKFS): "y goeden iawn yn y lle iawn"
Mae'r UKFS yn diffinio dull y Llywodraethau yn y DU o reoli coedwigoedd yn gynaliadwy. Mae hyn yn berthnasol i bob coetir.
Mae'r safon yn cynnwys gwahanol elfennau o reoli coedwigoedd yn gynaliadwy gan gynnwys:
- bioamrywiaeth
- newid yn yr hinsawdd
- amgylchedd hanesyddol
- tirwedd
- pobl
- pridd
- dŵr
Am ragor o wybodaeth a chyngor ar reoli a gwella coetiroedd, ewch i:
2. Hygyrch i'r cyhoedd
Gweler ein canllawiau ar dirweddau a natur.
3. Maint lleiaf
Nid oes unrhyw derfynau ar faint na ffurfweddiad yr ardaloedd o goed sydd i'w plannu.
Gallai plannu newydd fod yn:
- creu bloc newydd o goetir ar safle chwarel adfeiliedig
- coed stryd o fewn cymdogaeth drefol
- coridor eang yn cynnwys llwybr troed newydd i gysylltu dwy goetir sy'n bodoli eisoes
Gallai gwelliannau i goetiroedd presennol fod yn:
- y gymuned leol yn mabwysiadu coetir
- meinhau
- gosod llwybrau troed
- cynnal a chadw cyfleusterau mynediad diraddiedig mewn Coetiroedd Cymunedol a ddefnyddir yn helaeth
Ar gyfer pob cynllun, bydd angen cynlluniau rheoli coed neu goetiroedd. Os nad yw'r rhain eisoes yn eu lle, gall y grant dalu costau paratoi cynllun rheoli.
4. Cynnwys y gymuned
Rhaid i'r prosiectau hyn gael mewnbwn sylweddol gan bobl leol. Er mwyn i'ch prosiect lwyddo, bydd yr ystod o bobl sy'n elwa ar dreftadaeth yn fwy amrywiol na chyn i'ch prosiect ddechrau.
Bydd cynnwys y gymuned yn helpu i annog pobl i ddefnyddio coetiroedd drwy ddarparu llwybrau troed, llwybrau natur, cerfluniau ac ati.
Yn ddelfrydol, byddai cynnwys y gymuned hefyd yn cynnwys:
- gweithgareddau i gynnwys pobl yn y broses o adfer a chreu'r coetiroedd
- cyfleoedd economaidd i fentrau lleol
- arloesi a datblygu
- gweithgareddau addysgol
- rheoli'r coetiroedd drwy sefydlu grwpiau gwirfoddol, grwpiau ysgol, mentrau newydd ac ati
Meini prawf dymunol iawn
Cysylltedd
Wrth i goetiroedd newydd gael eu creu, dylid ystyried cysylltedd â choetiroedd eraill.
Ym mlynyddoedd cynnar y Goedwig Genedlaethol, efallai na fydd hyn yn ymarferol bob amser, ond bydd yn dod yn bwysicach wrth i arwynebedd coetiroedd yng Nghymru gynyddu, gan ein helpu i gyflawni ein huchelgais o gael Coedwig Genedlaethol wedi'i chysylltu ar draws nifer o leoliadau, yn ymestyn dros hyd Cymru.
Rydym yn awyddus bod ein buddsoddiad mewn treftadaeth naturiol yn cael yr effaith fwyaf o ran gwarchod a gwella cynefinoedd sydd eisoes yn bodoli. Efallai y byddwch am ystyried prosiect sy'n gwella nifer o gynefinoedd sy'n bodoli eisoes neu sy'n helpu i gyfuno cynefinoedd sy'n bodoli eisoes â phlannu newydd fel coetiroedd neu ddolydd, neu gyda choridorau tirwedd fel gwrychoedd.
Er y gallwn ariannu'r broses o greu cynefinoedd cwbl newydd, ein prif bryder yw gwella ansawdd a gwydnwch cynefinoedd presennol â blaenoriaeth. Gallai hyn fod drwy wella eu hansawdd a'u rheolaeth, drwy greu lleiniau clustogi, drwy wneud cynefinoedd yn fwy neu drwy greu mwy o gysylltiad rhwng cynefinoedd cyfagos eraill.
Gofynion ar gyfer prosiectau
Mae'n bwysig eich bod yn meddwl am sut y bydd eich prosiect yn bodloni gofynion y cynllun grant yma.
Rhaid i'ch prosiect:
- creu, cyflymu'r gwaith o adfer neu wella Coetiroedd Cymunedol
- darparu coetiroedd hygyrch i bawb eu mwynhau
- ei gyflwyno erbyn mis Mehefin 2020 – Mawrth 2022
- creu coetir gyda chynllun ar gyfer cynnal a chadw yn y dyfodol
- gael eu harwain neu eu cyd-gynhyrchu gyda'r gymuned leol a'u grymuso i greu a gofalu am goetiroedd
- ddiwallu anghenion pobl leol, fel amwynder cyhoeddus ac wedi'i gynllunio i gyfrannu at ddarparu gwasanaethau ecosystem yn yr ardal leol
- dangos manteision niferus sy'n cwmpasu llesiant amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol
- ystyried mapiau datganiad ardaloedd Cyfoeth Naturiol Cymru, Canllawiau'r UKFS ar y meysydd sy'n addas i'w plannu a'r map cyfleoedd coetir ar gyfer canllawiau ar ardaloedd i'w plannu o'r newydd
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn meysydd sydd:
- yn canolbwyntio ar ardaloedd o amddifadedd
- galluogi rhwydweithiau natur cysylltiedig ledled Cymru
Costau cyfalaf
Mae gwariant cyfalaf yn arian sy'n cael ei wario ar fuddsoddi a phethau a fydd yn creu twf yn y dyfodol. Natur yw ein hased mwyaf – mae'n sail i bopeth a wnawn yn awr ac yn y dyfodol, fel cymdeithas. Mae enghreifftiau o wariant cyfalaf yn cynnwys:
- paratoi safle fel ffensio, clirio sbwriel, cael gwared ar rywogaethau ymledol neu adeiladu llwybrau a gatiau hygyrch
- prynu coed, llwyni a phlanhigion eraill i greu'r coetir (gweler cysylltedd uchod)
- prynu peiriannau. Mae gwariant cyfalaf hefyd yn cynnwys hyfforddiant mewn defnyddio'r peiriannau, y gweithredwyr a'r tanwydd i'w defnyddio yn ystod y prosiect.
- cynllunio prosiectau, caffael a rheolaeth ariannol o gostau'r prosiect
- cost llafur sy'n gysylltiedig ag unrhyw weithgareddau sy'n gysylltiedig â chreu'r coetir
- costau hyrwyddo'r coetir i'r gymuned ehangach er enghraifft: taflenni argraffu
Gellir defnyddio hyd at uchafswm o 10% o'r grant cyfalaf yma i alluogi cyflawni'r prosiect. Drwy hyn rydym yn golygu costau sy'n eich galluogi i greu'r coetir megis cynllunio prosiect, deunyddiau caffael, rheolaeth ariannol y prosiect, llunio a dadansoddi gwybodaeth reoli am gyflawni prosiectau.
Ni chewch gynnwys unrhyw gostau craidd fel y sefydliad, fel prydles y swyddfa, gwres, goleuadau, TGCh, gan mai costau rhedeg eich busnes yw'r rhain. O flwyddyn 2 y grant ymlaen, mae'n bosibl na fyddwch yn cynnwys costau cynnal a chadw, hyfforddi neu gynnal eich prosiect.
Costau gweithgarwch
Gallwch hefyd gynnwys costau sy'n galluogi'r prosiect i gynnwys pobl wrth gyflawni a chwrdd â chanlyniad gorfodol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol y bydd "ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth [gan gynnwys Tir a Natur"). Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein canlyniad gorfodol yn y canllawiau cais manwl isod.
Rheoli Coed Ynn
Ni fydd y Gronfa yn ystyried ceisiadau ar gyfer prosiectau i ddileu neu reoli coed ynn.
Fodd bynnag, gellir ystyried prosiectau sydd ag elfen fach o goed ynn, fel rhan o brosiect ehangach i adfer a gwella natur. Bydd angen cyflwyno tystiolaeth gref sy'n dangos enillion net i fioamrywiaeth a chreu ecosystemau gwydn.
Rheoli parhaus
Byddwn yn cynnig arian yn unig lle ceir cynllun clir ar gyfer rheolaeth barhaus ar ôl i'r cyllid ddod i ben. Nid oes angen i chi gyflwyno cynllun ffurfiol i ni, ond byddwn am weld ei fod yn cael ei ystyried ac mae cynllun rheoli coetir ar waith.
Cymraeg
Bydd angen i chi gynnwys darpariaeth ar gyfer y Gymraeg o fewn eich prosiect. Dywedwch wrthym sut y byddwch yn gwneud hyn o fewn eich ffurflen gais. Gallwch gynnwys costau cyfieithu o fewn eich cyllideb.
Cydnabyddiaethau
Bydd angen i chi gydnabod eich grant fel y'i nodir yng nghanllawiau Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Dylech archebu deunydd Cymraeg/Saesneg yn unig. Bydd angen i chi gydnabod eich grant fel y'i nodir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru. Bydd canllawiau brandio coedwigoedd cenedlaethol ar gael o fis Tachwedd 2020.
Sut mae'r broses ymgeisio'n gweithio:
Cyflwynwch gais llawn drwy ein porth ymgeisio ar-lein ar unrhyw adeg a bydd eich cais yn cael ei asesu o fewn wyth wythnos. Bydd ceisiadau'n cael eu derbyn tan 21 Hydref 2021 oni bai bod yr holl arian yn cael ei wario cyn y dyddiad yma.
Sut i wneud cais
- Ymwelwch â'n porth ymgeisio ar-lein a chofrestrwch gyfrif (neu fewngofnodwch os ydych wedi gwneud cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol o'r blaen).
- O'r ddewislen, dewiswch £10,000 – £250,000.
- Cwblhewch a chyflwynwch ffurflen ymholiadau prosiect. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni roi adborth ar eich syniad cyn i chi gwblhau cais llawn.
- Unwaith y byddwch wedi derbyn adborth ar eich ymholiad prosiect, cwblhewch a chyflwynwch gais llawn.
Nid oes ffurflen gais penodol ar gyfer Coetiroedd Cymunedol y Goedwig Genedlaethol. Dylech ddilyn y cyfarwyddiadau hyn yn ofalus ynghyd â'n canllawiau rheolaidd ac ateb pob cwestiwn yn ein ffurflenni cais grant (£10,000-£250,000). Ceir dolenni i ganllawiau ceisiadau a nodiadau cymorth isod.
Enwi eich prosiect:
Dechreuwch deitl eich prosiect gyda #COED i'n helpu i adnabod eich cais e.e. #COED Coetir Cymunedol Bangor. Mae terfyn o 15 gair.
Gwneud cais am grantiau rhwng £10,000 a £250,000
Bydd angen i chi ddefnyddio'r canllawiau hyn ochr yn ochr â'r nodiadau cymorth i wneud cais i ateb y cwestiynau.
Adran 1
Cwestiwn 1a ac 1b – Defnyddiwch y nodiadau cais Tudalen 4 i'ch helpu i ateb y cwestiynau hyn.
Cwestiwn 1c – Mewn dim mwy na 200 o eiriau dywedwch wrthym:
- Beth y byddwch yn ei wneud i adfer, cysylltu, gwella neu greu Coetiroedd Cymunedol newydd
- Pwy fydd yn cymryd rhan
- Ar beth fyddwch yn gwario’r cyllid
- Sut y byddwch yn cynnwys y Gymraeg o fewn eich prosiect
- sut rydych wedi bodloni'r asesiad o'r effaith amgylcheddol (os oes angen un) o dan y rheoliadau ar gyfer Creu Coetiroedd. Nodwch y terfynau eithrio dwy a phum hectar yn dibynnu ar y lleoliad.
Cwestiwn 1d – Cyfeiriwch at nodiadau cymorth y cais Tudalen 4 (darparwch gyfeirnod grid os gallwch chi)
Cwestiwn 1e - Nodwch ddyddiad dechrau a gorffen eich prosiect. Rhaid cwblhau'r holl waith cyfalaf a'r gweithgareddau erbyn 31 Mawrth 2022.
Cwestiwn 1f – Ysgrifenwch Amh.
Cwestiwn 1g – Defnyddiwch y nodiadau cais Tudalen 5 i ateb y cwestiwn yma. Efallai y bydd eich swyddog bioamrywiaeth lleol, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, swyddog cynllunio ac ati wedi cael cyngor.
Cwestiwn 1h – Defnyddiwch y nodiadau cais Tudalen 5 i ateb y cwestiwn yma i ddweud wrthym am y cymunedau yr ydych yn gweithio gyda nhw. Dywedwch wrthym a yw eich prosiect wedi'i leoli mewn ardal o amddifadedd a nodwch leoliad/au cod post y prosiect.
Cwestiwn 1i a 1j – defnyddio nodiadau cymorth cais Tudalen 6 i ateb y cwestiynau hyn.
Cwestiwn 1k – defnyddio nodiadau cymorth cymhwyso Tudalen 6 i ateb y cwestiwn yma ond hefyd dylech gyfeirio at logo Llywodraeth Cymru y bydd angen i chi ei arddangos hefyd.
Adran 2
Cwestiwn 2a – Rhowch ddisgrifiad o'r safle fel y mae heddiw a sut rydych yn ceisio ei wella gyda'r prosiect yma. Rhowch wybodaeth ffeithiol am yr ased megis maint, nodweddion, cyflwr a pham ei fod yn bwysig i'ch ardal leol.
Cwestiwn 2b – Ticiwch tirweddau a natur.
Cwestiwn 2c – Dywedwch wrthym os oes gan eich safle neu os ydych yn ceisio gwella cynefinoedd neu rywogaethau a warchodir, er enghraifft rhywogaethau a nodwyd mewn cynllun gweithredu bioamrywiaeth, rhywogaethau o blanhigion a warchodir gan Ewrop ac ati.
Cwestiwn 2d – Ticiwch yr opsiynau sy'n berthnasol.
Cwestiwn 2e – cynllun cyfalaf sydd yma felly bydd angen i chi ateb 'Oes' (gweler y diffiniad ar dudalen 2). Dilynwch y nodiadau cymorth ar Dudalen 8 i roi mwy o wybodaeth i ni.
Cwestiwn 2f a 2g – defnyddinodiadau cymorth ymgeisio Tudalen 8 a 9 i ateb y cwestiwn yma.
Adran 3
Defnyddiwch y nodiadau cymorth i wneud cais ar dudalen 10 ac 11 i ateb yr holl gwestiynau yn yr adran yma.
Adran 4
- Mae terfyn o 300 o eiriau ar gyfer yr adran yma
- Nid ydym yn disgwyl i chi gyflawni unrhyw ganlyniadau eraill Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol gyda'r prosiect yma
Beth mae'r canlyniad yn ei olygu?
Bydd mwy o bobl yn ymgysylltu â'n tirweddau a'n natur a byddant yn fwy amrywiol na chyn eich prosiect. Bydd newidiadau'n deillio o ganlyniad uniongyrchol i'ch prosiect, ac yn enwedig eich gwaith ymgysylltu â'r gymuned ac ymgynghori â'r gymuned. Byddwch yn casglu ac yn dadansoddi gwybodaeth am y bobl sy'n ymwneud â'ch treftadaeth naturiol – a'r rhai nad ydynt – cyn, yn ystod ac ar ôl eich prosiect.
Sut y byddwch chi'n gwybod beth rydych chi wedi'i gyflawni?
Byddwch yn gallu dangos bod proffil eich cynulleidfa wedi newid; Er enghraifft, mae'n cynnwys pobl o ystod ehangach o oedrannau, cefndiroedd ethnig a chymdeithasol; mwy o bobl anabl; neu grwpiau o bobl sydd erioed wedi ymgysylltu â'ch treftadaeth o'r blaen.
Byddwch yn gallu dangos sut mae mwy o bobl, a gwahanol bobl, yn ymgysylltu â'n treftadaeth naturiol fel ymwelwyr, cyfranogwyr mewn gweithgareddau, neu wirfoddolwyr, yn ystod eich prosiect ac unwaith y bydd wedi gorffen.
Adran 5
Gan ddefnyddio'r nodiadau cymorth cais, tudalennau 15-17, dywedwch wrthym faint y bydd yn ei gostio i gyflawni eich prosiect. Cyn i chi ddechrau:
Costau na allwn eu hariannu yn y rhaglen grant yma:
- Adennill costau llawn
- cyfrifoldebau statudol a/neu gyfreithiol
- TAW adenilladwy
- costau parhaus y prosiect
- costau ar gyfer gweithgarwch sydd wedi digwydd cyn i grant gael ei ddyfarnu
- prosiectau ar dir preifat lle nad oes budd cyhoeddus
- Mae gweithgaredd yn costio mwy na 30% o gyfanswm y cais am grant
- unrhyw weithgarwch, gan gynnwys cynnal a chadw, bydd hynny'n digwydd ar ôl 31 Mawrth 2022
Adran 6
Defnyddiwch y nodiadau cymorth ar dudalennau 18-19 i'ch helpu i ateb pob cwestiwn yn yr adran yma.
Adran 7
Defnyddiwch y nodiadau cymorth ar dudalennau 20-22 i'ch helpu i nodi pa ddogfennau ategol sydd eu hangen.
Adran 8
Defnyddiwch y nodiadau cymorth ar dudalen 23 i'ch helpu i ateb y cwestiynau hyn.
Dangosyddion perfformiad
Beth sydd angen i chi ei wneud
- Dewiswch y dangosyddion perfformiad sydd fwyaf perthnasol i'ch prosiect o'r rhestr isod.
- Cyflwynwch eich rhestr o ddangosyddion perfformiad (gan gynnwys sut y byddwch yn mesur pob un) fel atodiad i'ch cais.
Os byddwch yn llwyddo i gael grant, bydd y dangosyddion perfformiad hyn yn cael eu cynnwys yn y canlyniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer y prosiect.
Coetir
Maint y coetir [wedi'i fesur mewn metrau sgwâr]
Conwydd/coed llydanddail wedi'u rhannu [wedi'u mesur mewn% o hectarau]
Rhywogaethau coed a nifer pob planhigyn newydd bob blwyddyn [wedi'i fesur mewn metrau sgwâr]
Cysylltedd [pellter i'r coetir agosaf, wedi'i fesur mewn milltiroedd] Canran y coetir sydd wedi'i adfer
Canran y coetiroedd hynafol
Coetiroedd wedi'u rheoli'n dda
Pa lefel sy'n cynllunio i fodloni safonau UKFS Chwalu coetiroedd yn ôl defnydd [wedi'i fesur mewn %]
Bioamrywiaeth
Gwella pryfed peillio [nifer amcangyfrifedig] rhywogaethau â blaenoriaeth [nifer a rhywogaethau sy'n cynllunio i gael budd] Y wiwer, ceirw, baedd etc [niferoedd/rhywogaethau] Ystlumod [niferoedd/rhywogaethau] Adar coetir [niferoedd/rhywogaethau] Rhywogaethau mwsogl/madarch
Manteision amgylcheddol
Amcangyfrif o'r lleihad mewn CO2 [wedi'i fesur mewn allyriadau cyfatebol] gwell ansawdd aer Gwella mynediad i ddŵr [nifer ffynhonnau ail-lenwi/dŵr]
Hygyrchedd
Nifer yr ymwelwyr â choetir Amlder yr ymwelwyr [bob blwyddyn] Prif ddull cludo ymwelwyr i'r coetir a pellter a deithiwyd i'r coetir rheswm dros yr ymweliad â chyfleusterau coetir sydd ar gael (h.yto. toiledau, caffi, maes parcio) Addasiadau i alluogi mwy o bobl i gael mynediad i'r safle – llwybrau, rampiau, arwynebau
Treftadaeth naturiol a thwristiaeth
Yr iaith Gymraeg: arwyddion, dogfennaeth addysgol yn cael eu cynhyrchu yn ddwyieithog
Llwybrau beiciau, llwybrau cerdded [wedi'u mesur o hyd/milltiroedd]
Atyniadau eraill, mannau dysgu Ymglymiad cymunedol [wedi'i fesur mewn oriau] gwirfoddolwyr yn cymryd rhan [nifer]
Budd economaidd
Nifer y gweithwyr a/neu swyddi newydd a grewyd